Skip to main content

Y Gwaith Powdwr Gwn

Y Gwaith Powdwr Gwn

Croeso i’r Gwaith Powdr Gwn - Gwyrth beirianyddol yn ei ddydd!

Yn swatio yng nghalon y dyffryn hwn, 100 mlynedd yn ôl, roedd gwaith Powdr Gwn llwyddiannus. Hon oedd ffatri ffrwydron gyntaf Cymru a daeth yn un o brif leoliadau’r farchnad powdr ffrwydro ar gyfer mwynfeydd a chwareli fu mor broffidiol a phwysig yn genedlaethol.

Heddiw, mae adeiladau’r ffatri’n adfeilio ac mae’r ffrydiau a’r tramffyrdd yn prysur ddiflannu. Cyn bo hir, bydd straeon y bobl a arferai weithio yma, y cyfeillion a wnaed a’r teuluoedd a wnâi eu bywoliaeth yma wedi hen fynd o’r cof.

Fel rhan o’r ‘Prosiect Amserau Ffrwydrol’ sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri bydd rhai o’r adeiladau pwysicaf yn cael eu gwarchod, bydd planhigion coetir cynhenid yn cael help llaw a bydd straeon y gweithle hynod hwn yn cael eu hadrodd.

Efallai bydd y dramffordd ar gau am gyfnodau byr yn ystod y gwaith cadwraeth. Cadwch lygad ar y bwrdd hwn ar gyfer y newyddion diweddaraf. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yma eto yn ystod gwanwyn 2020.

Gwyrth beirianyddol yn ei ddydd!

Trwy ddefnyddio grym llif cyflym yr afon Mellte, roedd y cyn waith Powdr gwn yn gwneud ac yn cyflenwi powdr gwn i chwareli a mwyngloddiau De Cymru. Fe wnaeth drawsnewid bywydau’r rheini oedd yn byw ac yn gweithio yno ac mae’n hanes o arloesedd, uchelgais a llwyddiant.

Heddiw mae’r safle yn ddyffryn coediog heddychlon, yn gyfoethog o redyn a mwsoglau ac yn gartref i amrywiaeth anhygoel o rywogaethau ystlumod. Wrth fynd am dro ar hyd yr hen dramffordd fe welwch adfeilion adeiladau, twneli, dyfrffosydd, coredau ac olwynion dŵr. Dyma beth sy’n weddill ar ôl dinistrio’r safle’n fwriadol pan gaeodd y gwaith yn 1931.

Gan fod nifer o’r adeileddau hyn mewn cyflwr peryglus rydym yn cynnal gwaith brys o gyfnerthu a gwarchod fel rhan o’r ‘Prosiect Amserau Ffrwydrol’ sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd y rhan fwyaf o’r safle yn parhau ar agor yn ystod y prosiect ac mae croeso i chi fod ynghlwm (dolen i’r dudalen prosiect) ac ymuno â ni wrth i ni ddarganfod mwy am y dynion a’r menywod a fu’n gweithio yma. Dysgwch am y mesurau iechyd a diogelwch ‘gwrth-ffrwydrad’ a’r cyfraniad a wnaeth y diwydiant i ddiwydianeiddio De Cymru.

Cynllinio eich ymweliad i'r Waith Powdr Gwn

Pentref neu dref agosaf

Pontneddfechan, Glyn-nedd

Mapiau a chyfeirlyfrau

Mae’r Llwybr Powdr Gwn yn un o 11 llwybr cerdded ym mhecyn Llwybrau Cerdded Gwlad y Sgydau a gellir ei brynu yn ein siop ar-lein.

Map Explorer OL 12 neu Fap Landranger 160

Cyfeirnod Grid: SN 911079

Cyfleusterau

Mae nifer o dafarndai a chaffis ym mhentref Pontneddfechan.

Parcio

Maes parcio di-dâl yn Craig y Ddinas / Dinas Rock sy’n cael ei redeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Toiledau

Mae toiledau cyhoeddus wedi’u lleoli yng nghanol pentref Pontneddfechan.

Beth sydd i’w weld yng Ngwaith Powdr Gwn Glyn-Nedd

Y Llwybr Powdr

Mae’r llwybr sain hwn, a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn datgelu pa fath o fywyd oedd gan y bobl a oedd yn gweithio yn y Gwaith Powdr Gwn. Cliciwch yma i’w lawrlwytho fel ffeil mP3.

Dysgwch mwy am hanes y waith powdr gwn

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf