Hanes y Powdr Gwn

Sefydlwyd Gwaith Powdr Gwn Glyn-Nedd, neu’r Melinau Powdr, ger Pontneddfechan yn 1857 i gynhyrchu powdr ffrwydro (a oedd yn cael ei alw’n bowdr du) i’w ddefnyddio wrth gloddio am lo a chwarelu am galchfaen. Roedd y gwaith powdr gwn yn weithredol tan 1931.

Efallai fod y dyffryn hwn ag ochrau serth yn ymddangos yn lle od i adeiladu a gweithredu busnes gweithgynhyrchu. Fodd bynnag, roedd y lleoliad yn addas iawn mewn gwirionedd ar gyfer y broses beryglus o weithgynhyrchu powdr gwn. Roedd y safle yn fawr ac yn anghysbell yn ymestyn dros filltir a hanner ar hyd glannau gogleddol Afon Mellte, gyda lle i greu digon o ofod rhwng pob adeilad ffatri i sicrhau bod ffrwydradau’n cael eu cadw mewn un man.

Roedd egni parod ar gael i’w ddefnyddio am ddim - Afon Mellte oedd yn pweru olwynion dŵr a thyrbinau’r ffatri - ac roedd modd cael gafael ar yr holl ddeunyddiau crai (siarcol, sylffwr, potasiwm nitrad) yn y cyffiniau. Roedd topograffeg y dyffryn yn ddefnyddiol iawn hefyd. Cafodd y ffatri ei hadeiladu i mewn i’r llethrau serth gyda glannau uchel rhwng adeiladau i’w sefydlogi nhw a lleihau effaith ffrwydradau. Ac er gwaethaf lleoliad anghysbell y ffatri, roedd cysylltiadau cludiant da ym Mhontneddfechan gan gynnwys Camlas Glyn-Nedd ac Abertawe a Rheilffordd Dyffryn Nedd.

Roedd deunyddiau crai yn dod i mewn ar waelod y safle ac roeddent yn cael eu cludo o amgylch ar dramffordd hyd nes y byddai’r powdr gwn gorffenedig yn dod allan ar y top. Roedd ansawdd y powdr gwn yn cael ei brofi drwy ei ddefnyddio i danio canon sydd bellach yn rhan o Amgueddfa Brycheiniog yn Aberhonddu. Dim ond os byddai’r powdr yn gyrru pêl canon am bellter penodol y byddai’n llwyddo i gyrraedd y safon angenrheidiol.

Roedd diogelwch yn hanfodol a chymerwyd pob rhagofal posibl i osgoi ffrwydradau. Roedd yn rhaid i weithwyr newid i ddillad gwaith cyn dod i mewn i’r ardaloedd a allai fod yn beryglus. Roeddent yn gwisgo sliperi lledr wedi’u cau â phegiau pren dros eu hesgidiau a’u bŵts. Doedd dim hawl cael poced neu odre ar drowsusau er mwyn atal graean rhag cael ei gludo i mewn i’r gweithfeydd rhag ofn y byddai’n achosi gwreichion.

Roedd ardaloedd mawr o’r gwaith powdr gwn yn cael eu taenu â dŵr i’w cadw’n llaith mewn proses o’r enw iro. Pe bai ffrwydrad yn digwydd mewn adeilad arall yna byddai ardaloedd eraill o’r gwaith powdr gwn yn cael eu dyfrhau’n awtomatig er mwyn atal y ffrwydrad rhag lledaenu. Er gwaethaf y rhagofalon hyn, cofnodwyd nifer o ffrwydradau.

Diogelwch

Mae Gwlad y Sgydau yn dirwedd fregus allai gael ei niweidio gan y niferoedd mawr o bobl sy’n ymweld â’r lle. Trwy ddilyn y canllawiau hyn gallwch ein helpu ni i ddiogelu’r lle hwn i genedlaethau’r dyfodol.

Rydym am eich diogelu chi hefyd, felly os gwelwch yn dda:

  • Cofiwch wisgo esgidiau cadarn addas, gall y llwybrau fod yn serth a llithrig gyda llethrau serth heb eu diogelu.
  • Cadwch at y llwybrau a nodwyd – mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau yn digwydd pan fydd ymwelwyr yn crwydro oddi ar y llwybr dynodedig.
  • Peidiwch â nofio yn y dŵr – mae’n oer ac yn llifo’n gyflym. Mae hyd yn oed y nofwyr cryfaf wedi mynd i drybini.
  • Parciwch yn y meysydd parcio dynodedig a pheidiwch â gadael eitemau personol a gwerthfawr yn y car i leihau’r siawns o ladrad.
  • Mae signal ffôn symudol yn anwadal yng Ngwlad y Sgydau. Nodir ffonau argyfwng a blychau ffôn ar y map. Ar gyfer damweiniau cerdded, dringo creigiau neu ogofa, ffoniwch yr Heddlu ar 999 neu 112 am y tîm Achub Mynydd.