Skip to main content

Ffordd y Bannau

Beth am ddod i grwydro’r Parc Cenedlaethol gan ddefnyddio Ffordd y Bannau?

Mae Ffordd y Bannau yn cynnig rhai o’r golygfeydd gorau sydd gan y Parc Cenedlaethol i’w cynnig. Os hoffech gwblhau’r llwybr cyfan o 159km (99 milltir) mae’n cymryd wyth diwrnod, neu gallwch ei wneud un diwrnod ar y tro ar adeg sy’n gyfleus i chi. Mae rhai diwrnodau’n fwy heriol na’i gilydd ac felly gallwch ddewis beth sy’n addas i chi ac efallai y gallwch osod her i’ch hunan i adeiladu at ddiwrnodau anoddach.

Sefydlwyd Ffordd y Bannau yn 2005 gan John Sansom. Roedd yn gerddwr brwd ac yn aelod allweddol o Gymdeithas Parc Bannau Brycheiniog. Ers ei sefydlu mae nifer o gerddwyr wedi mwynhau’r llwybr, gan brofi’r golygfeydd syfrdanol sydd i’w gweld ar hyd y ffordd. Mae llwybr Ffordd y Bannau wedi’i gynllunio i gyflwyno’r rhan brydferth hon o Gymru yn y goleuni gorau posibl. Mae’n ardal o fryniau uchel, dyffrynnoedd dwfn a gweundir eang.

Noder bod y llwybr a ddangosir yn y Canllaw hwn wedi cael ei ddiwygio yn 2016. Fersiynau blaenorol sydd i’w gweld ar fapiau OS hŷn a dylid cymryd gofal i ddilyn y llwybr newydd. Mae Canllaw Llwybr ar gael yng nghanolfan ymwelwyr a gwybodaeth y Parc Cenedlaethol neu drwy’r post.

Mae Ffordd y Bannau yn llwybr cerdded eiconig sy’n rhedeg ar hyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n llwybr heriol, ond ymhell o fewn cyrraedd cerddwr bryniau ffit a chymwys. Mae’r dringfeydd anodd a chefnau bryniog yn arwain at olygfeydd syfrdanol o’r Parc Cenedlaethol, ei dirweddau amrywiol a’i fywyd gwyllt.

Mae’r daith yn aml yn mynd oddi ar y llwybr sathredig er mwyn dilyn llwybrau i ddwfn cefn gwlad, tir sydd fel arfer yn anghyfarwydd i’r cerddwr cyffredin. Mae gan y llwybr gyfeirbwyntiau cyfyngedig, yn enwedig ar adrannau o fryniau agored a gweundir, sy’n golygu bod angen sgiliau mordwyo, ond mae’n werth yr ymdrech pan welwch chi’r golygfeydd newydd a’r profiadau newydd sy’n aros amdanoch. Mae’r pellter mewn diwrnod yn amrywio o 16 i 23.5km (10 i 14.5 milltir), yn aml â llawer o waith dringo, felly byddwch yn barod am lwybr heriol sy’n gofyn am ffitrwydd a chynllunio gofalus. Mae hyn yn enwedig o wir yn y gorllewin lle does dim cymaint o ddewis llety a gallai fod angen defnyddio tacsis neu gludiant cyhoeddus. Oni bai bod gennych lawer o brofiad o gerdded bryniau yn y gaeaf, dylech gynllunio eich taith yn ystod yr haf pan fydd mwy o olau dydd a’r tywydd yn well. Mae’r amseriad ar gyfer pob diwrnod wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar gyflymder cerdded cyfartalog o 4.5km yr awr.

Land of the Brecon Way

Dyma lyfr newydd yn llawn darluniau gan Dilys Harlow sy’n disgrifio’r dirwedd a’r geoleg ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel maent i’w gweld o Ffordd y Bannau. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas Geolegwyr De Cymru ac mae ar gael i’w archebu am £7.95 ar wefan y gymdeithas www.swga.org.uk. Mae hefyd ar gael o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol..

Bydd y llyfr ar gael o ganolfannau ymwelwyr y Parc Cenedlaethol hefyd ac o siopau llyfrau amrywiol, siopau cyfarpar awyr agored a Chanolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.Weithiau mae Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog (sefydliad aelodaeth annibynnol – nad yw’n rhan o Awdurdod y Parc Cenedlaethol) yn trefnu teithiau wedi’u tywys ar hyd Ffordd y Bannau.

I gael rhagor o wybodaeth am Ffordd y Bannau, gan gynnwys manylion y teithiau tywys achlysurol ar hyd y llwybr, cliciwch yma    http://www.breconbeaconsparksociety.org/national-park/the-beacons-way/

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.

Drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru drwy Croeso Cymru, cafodd y llwybr ei ddiwygio yn 2016.

Gallwch brynu’r llyfryn llawn am Ffordd y Bannau o’n siop ar-lein. .


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf