Skip to main content

Diwrnod 7: Llanddeusant i Gastell Carreg Cennen

Diwrnod 7: Llanddeusant i Gastell Carreg Cennen

Mancychwyn: Llanddeusant (SN 776245)
Man gorffen: Castell Carreg Cennen (SN 666193)
Pellter: 20.5 km / 12.5 milltir
Anhawster: Anodd
Amser: 5awr 30 munud

 

Mae angen sgiliau cyfeiriadu da ar Ddiwrnod 7, gan fod y rhan fwyaf o’r llwybr yn weundir agored a does dim arwyddion i’w dilyn. Dydi’r llwybr ei hun ddim yn anodd iawn ond byddwch chi’n siŵr o deimlo eich bod allan ar diroedd gwyllt iawn. Byddwch yn mynd heibio i ddwy garnedd claddu drawiadol o’r Oes Efydd wrth i chi gyrraedd copa Garreg Las ac fe allwch chi weld y copa nesaf, sef Foel Fraith.

Mwy na thebyg y gwelwch chi’r Barcut Coch eiconig yn hedfan gyda sawl aderyn ysglyfaethus arall uwch eich pen. Mae’r gynffonwen yn magu yma yn yr haf, a gallwch eu gweld yn sgrialu ar draws y tir agored neu’n hedfan o glwyd i glwyd. Ym mhen hir a hwyr, ar ddiwedd taith flinedig, daw Castell Carreg Cennen i’r golwg. Mae adfeilion y castell yn gorwedd ar ben clogwyn carreg galch 100metr, ac mae’n werth ymweld â’r lle. Ewch â thortsh i archwilio’r ogof.

Cyfarwyddiadau:

Ar y diwrnod hwn, byddwch yn mynd drwy ardaloedd gwyllt, agored, ac, mewn rhai mannau, tir heb lwybrau. Dim ond ar dywydd da y dylech chi roi cynnig ar hon, oni bai bod gennych chi’r sgiliau cyfeiriadu angenrheidiol.

O Landdeusant, dilynwch y ffordd tua’r de, a, bron cyn cyrraedd fferm Gelli-gron, ewch ar y trac i’r chwith i chi. Ar ôl tua 200m ar hyd y ffordd, cadwch i’r chwith yn y gyffordd, ac ewch ar i fyny ar hyd y lôn las garegog, nes cyrraedd bryn agored.
Mae’r llwybr hwn yn weddol hawdd i’w ddilyn, ac yn mynd tua’r de at Garreg yr Ogof. Unwaith y cewch chi olygfa glir o’r tir uchel, mae’r llwybr yn ymylu tua’r chwith i’r llwybr sy’n mynd yn syth i’r copa. Wrth ddynesu at Garreg yr Ogof, byddwch yn ofalus na fyddwch yn troedio’r llwybr ceffyl ar y chwith, ond yn hytrach, ewch tua’r de-orllewin, at y piler triongli.
O’r piler triongli, ewch ar eich union i’r de tuag at gopa Garreg Las. Troediwch yn ofalus i ddechrau wrth fynd rhwng creigiau calchfaen Carreg yr Ogof. Yna, i fyny llethrau glas at gopa Garreg Las, a’r ddwy garnedd gladdu o’r Oes Efydd.
Oddi yma, mae’r llwybr yn mynd ar hyd pen y grib, a rhaid bod yn ofalus wrth ddilyn y llwybrau rhwng clogfeini’r cerrig grut, i gyrraedd y palmentydd creigiog ymhellach i’r de.
Does dim ffordd ddiogel oddi yma i’r gorllewin, hyd nes i chi fynd heibio i’r clogfeini cerrig grut a’r palmentydd. Ond wedyn, gallwch fynd ar eich union tua’r gorllewin, drwy ardal lle mae pyllau ar wasgar. Yn awr, anelwch i’r gogledd o gopa Foel Fraith at chwarel fechan ar y gorwel, i’r de o’r tir serth sy’n mynd i lawr i Flaen y Cylchau. Ewch i’r gogledd o’r copa, ond uwchlaw’r tir serth, anelwch at fynd dros ysgwydd y bryn, a disgyn i’r llwyfandir islaw.

Ceisiwch osgoi copaon Moel Braith a Moel Gornach, rhag tarfu ar yr adar prin sydd yno.

Oddi yma, mae’r llwybr yn mynd ar hyd pen y grib, a rhaid bod yn ofalus wrth ddilyn y llwybrau rhwng clogfeini’r cerrig grut, i gyrraedd y palmentydd creigiog ymhellach i’r de.
O Landdeusant, dilynwch y ffordd tua’r de, a, bron cyn cyrraedd fferm Gelli-gron, ewch ar y trac i’r chwith i chi. Ar ôl tua 200m ar hyd y ffordd, cadwch i’r chwith yn y gyffordd, ac ewch ar i fyny ar hyd y lôn las garegog, nes cyrraedd bryn agored. Mae’r llwybr hwn yn weddol hawdd i’w ddilyn, ac yn mynd tua’r de at Garreg yr Ogof. Unwaith y cewch chi olygfa glir o’r tir uchel, mae’r llwybr yn ymylu tua’r chwith i’r llwybr sy’n mynd yn syth i’r copa. Wrth ddynesu at Garreg yr Ogof, byddwch yn ofalus na fyddwch yn troedio’r llwybr ceffyl ar y chwith, ond yn hytrach, ewch tua’r de-orllewin, at y piler triongli. O’r piler triongli, ewch ar eich union i’r de tuag at gopa Garreg Las. Troediwch yn ofalus i ddechrau wrth fynd rhwng creigiau calchfaen Carreg yr Ogof. Yna, i fyny llethrau glas at gopa Garreg Las, a’r ddwy garnedd gladdu o’r Oes Efydd.


Uchafbwyntiau


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf