Skip to main content

Diwrnod 3: Crucywel i Langynidr

Diwrnod 3: Crucywel i Langynidr

Man cychwyn:Crucywel (SO 215189)
Man gorffen: Llangynidr (SO 152201)
Pellter:19 km/12 milltir
Dringfa: 750m / 2460tr
Anhawster: Cymedrol
Amser: 5awr 30 munud
Cyfleusterau yn y man cychwyn: Tafarn, Caffi, Maes Parcio, Tŷ Bwyta, Llety, Safle Bws, Gwybodaeth Parc Cenedlaethol, Siop, Toiledau, Swyddfa’r Post

Mae Diwrnod 3 yn llai llafurus na’r ddau ddiwrnod blaenorol. Mae’r ddringfa allan o Grucywel at ymyl Pen Cerrig-calch yn fwy esmwyth. Er nad yw’r llwybr hwn wedi codi’n uchel, mae golygfeydd hyfryd o’r dirwedd wledig ac Afon Wysg yn ymdroelli’n ddiog.

Byddwch yn dod i lawr i bentref Cwm Du ac i fyny at Flaen-y-cwm ar hyd lonydd tawel, cul, cyn dringo unwaith eto i gopa Cefn Moel a bryn agored. Oddi yma, fe welwch chi Lyn Syfaddan islaw. Llyn hollol naturiol ydi hwn a ffurfiwyd yn Oes yr Iâ. Mae hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd dyma’r unig lyn ewtroffig naturiol sydd yng Nghymru, ac mae o bwysigrwydd cenedlaethol os nad rhyngwladol.

Gallwch orffen y diwrnod naill ai yn y Bwlch neu Langynidr, lle mae’r llwybr yn croesi pont gul, hynafol ysblennydd.

Cyfarwyddiadau:

Gadewch Grucywel ar hyd y lôn sydd ar ochr ogledd-orllewinol y dref – mae’n dilyn y nant i fyny o’r lloches bws addurnedig. Ewch heibio un fferm, ac ar hyd y traciau i’r fferm nesaf (gan fynd ar y dde drwy’r caeau o amgylch y fferm). Daliwch i ddilyn y trac muriog i’r chwith, i fyny rhwng y caeau, i gyrraedd y bryn agored. Mae’r llwybr erbyn hyn yn troelli ar hyd ochr y bryn, o gwmpas Cwm Mawr (lle gwelwch chi faen coffa i John Sansom) cyn cychwyn ar i lawr tuag at bentref Cwm Du, drwy draciau fferm a lonydd gwledig. Yn y pentref, rydych chi wedi cyrraedd hanner ffordd y daith heddiw, ac mae ganddo gaffi a thafarn i’ch helpu i adnewyddu a chael ail wynt.

Gadewch Grucywel ar hyd y lôn sydd ar ochr ogledd-orllewinol y dref – mae’n dilyn y nant i fyny o’r lloches bws addurnedig. Ewch heibio un fferm, ac ar hyd y traciau i’r fferm nesaf (gan fynd ar y dde drwy’r caeau o amgylch y fferm). Daliwch i ddilyn y trac muriog i’r chwith, i fyny rhwng y caeau, i gyrraedd y bryn agored. Mae’r llwybr erbyn hyn yn troelli ar hyd ochr y bryn, o gwmpas Cwm Mawr (lle gwelwch chi faen coffa i John Sansom) cyn cychwyn ar i lawr tuag at bentref Cwm Du, drwy draciau fferm a lonydd gwledig. Yn y pentref, rydych chi wedi cyrraedd hanner ffordd y daith heddiw, ac mae ganddo gaffi a thafarn i’ch helpu i adnewyddu a chael ail wynt. Byddwch yn ofalus wrth groesi’r briffordd yn ymyl y dafarn, a dilynwch y lôn gyferbyn am ychydig, cyn defnyddio’r llwybr fydd yn mynd drwy gaeau i’r lôn nesaf. Dilynwch hon i fyny, cyn mynd ar lwybr arall sy’n eich arwain at fryn agored yn ymyl yr ail fferm. Bydd hwn yn eich arwain ar hyd llwybr serth i gopa Cefn Moel, gyda golygfeydd gwych dros lyn godidog Syfaddan. Oddi yma, gallwch ddilyn y traciau’n hawdd ar hyd y grib sydd ar y chwith, ac fe ddewch i lawr i’r Bwlch, lle mae llety a thafarnau.

Carefully cross the main road by the pub and follow the lane opposite a short distance, then use the path to cut up through the fields to the next lane. This is followed uphill before taking a path onto the open hill at the second farm. This leads steeply to the top of Cefn Moel with great views over the magnificent Llangorse Lake. From here, you can follow obvious tracks along the ridge to the left that lead you down into Bwlch which has pubs and accommodation.

Croeswch y briffordd brysur yn ofalus, a dilynwch y lôn wrth ymyl y dafarn. Yna, cymerwch y llwybr ar y chwith, sy’n arwain dros gaeau i’r gyffordd. Bydd y ffordd ar y dde yn mynd â chi i lawr, a dros y bont ffordd hynafol (un o’r rhai gorau yng Nghymru) i Langynidr - dwy dafarn yma ond prin ydy’r llety. Bydd bws neu dacsi’n gallu eich cludo i Dalybont, lle mae mwy o lefydd aros ar gael.


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf