Skip to main content

Diwrnod 6: Craig-y-nos i Landdeusant

Diwrnod 6: Craig-y-nos i Landdeusant

Man cychwyn: Craig-y-nos (SN 840155)
Man gorffen: Llanddeusant (SN 776245)
Pellter:  16km / 10 milltir
Dringfa: 760m / 2500tr
Anhawster:  Anodd
Amser: 5 awr

Bydd Diwrnod 6 yn cychwyn o Barc Gwledig Craig-y-nos, cartref y Fonesig Adelina Patti. Mae’r llwybr yn mynd â chi i Lyn y Fan Fawr, llyn naturiol uchaf de Cymru. Bydd dringfa fer, serth, yn eich arwain uwchben y llyn at Fan Brycheiniog, y pwynt uchaf (820m) yng Ngorllewin Bannau Brycheiniog. Oddi yma, gallwch weld Llyn y Fan Fawr yn nythu wrth droed y sgarp, ac, ar ddiwrnod clir, gallwch weld Pen y Fan yn y dwyrain a Môr Hafren ac arfordiroedd Gwlad yr Haf a Dyfnaint yn y de. Mae’n werth gwneud dringfa fer, serth arall i gyrraedd copa Bannau Sir Gâr gan fod golygfeydd gwych o Lyn y Fan Fach.

Cyfarwyddiadau:

Gan gychwyn o Barc Gwledig Craig-y-nos, dilynwch y llwybr ceffyl tua’r gogledd am Fferm Pwllcoediog, ond trowch i’r chwith wedyn ar lwybr troed, i fynd heibio ar ochr orllewinol y fferm. Trowch i’r chwith wrth y ffordd, i’r dde yn ymyl y Ganolfan Awyr Agored, ac yna ar draws y caeau hyd at y briffordd a Thafarn y Garreg. Croeswch y ffordd brysur yn ofalus, a chymryd y llwybr i’r chwith o’r maes parcio at y bont droed, gan fynd heibio i’r dwyrain a’r gogledd o Dŷ Hendry.

Os ydy’r tywydd yn arw, yn enwedig mewn gwyntoedd cryfion, dylech ystyried cymryd y llwybr gwahanol i’r gogledd oddi yma.
Oddi yma, ewch i fyny tuag at Allt Fach. Mae yna nifer o lwybrau defaid ffordd hyn, allai fod yn ddryslyd iawn – efallai y dylech chi ddilyn cyfeiriant cwmpawd yma. Byddwch yn awr yn dilyn crib amlwg Fan Hir i Fan Brycheiniog a Fan Foel. Mae golygfeydd godidog o’r Bannau a Chanolbarth Cymru i’w gweld uwchben y llechweddau serth.
Croeswch y bont droed, trowch i’r chwith i’r ffordd sy’n arwain at yr Hostel Ieuenctid. Dyma’r unig le i gael llety neu le bwyta o fewn pellter cerdded. Felly, os ydy’r Hostel yn llawn, efallai y bydd angen tacsi arnoch chi

Yn ôl y Mabinogi, roedd ffermwr wedi priodi merch brydferth gyda phwerau hudol. Roedd e wedi ei chyfarfod wrth iddi eistedd ar graig yn ymyl Llyn y Fan Fach. Daeth eu meibion, yn ddiweddarach, yn enwog fel Meddygon Myddfai – y pentref cyfagos. Mae rhai’n credu bod chwedl enwog arall wedi codi o’r chwedl hon, sef un o chwedlau Arthur - Morwyn y Llyn a Chaledfwlch.

Os ydi’r tywydd yn arw (yn enwedig mewn gwyntoedd cryfion), gall Diwrnod 6 fod yn anodd a pheryglus, dylech ystyried o ddifrif cymryd y llwybr gwahanol tywydd-garw

TAITH WAHANOL TYWYDD-GARW CRAIG-Y-NOS I LANDDEUSANT

Man cychwyn: Craig-y-nos (SN 840155)
Man gorffen: Llanddeusant (SN 776245)
Pellter:  16.5km / 10.5 milltir
Dringfa: 550m / 1800tr
Anhawster:  Cymedrol
Amser: 4 awr 45 munud

Os ydi’r tywydd yn arw (yn enwedig mewn gwyntoedd cryfion), gall Diwrnod 6 fod yn anodd a pheryglus, dylech ystyried o ddifrif cymryd y llwybr gwahanol tywydd-garw
O Dŷ Hendry, dilynwch y cyfuchlinau tua’r gogledd, gan gadw’r ochr serth i’r chwith i chi, a chroesi’r nant yn ymyl y rhaeadrau. Wedi cyrraedd Llyn y Fan Fawr, cerddwch ar hyd ochr ddwyreiniol y llyn, ond dychwelyd wedyn at waelod y bryn, ac o amgylch gwaelod Fan Foel a Picws Du. Dilynwch y nant fechan, i’r gogledd-orllewin o’r argae, sy’n dargyfeirio ei llif i mewn i Lyn y Fan Fach. Ewch tua’r gorllewin, at y Llyn (cronfa cyflenwi dŵr ar un adeg), ac yna tua’r gogledd, i lawr y llwybr amlwg sydd, ar ôl newid i fod yn ffordd gyhoeddus, yn ymuno â’r brif ffordd i Landdeusant.


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf