Skip to main content

Diwrnod 5: Storey Arms i Graig-y-nos

Diwrnod 5: Storey Arms i Graig-y-nos

Man cychwyn: Storey Arms
Man gorffen: Craig-y-nos
Pellter: 23.5 km/14.5 milltir
Dringfa: 610m / 2000tr
Anhawster: Cymedrol
Amser:  6 awr

Fe fydd Diwrnod 5 yn fan cychwyn eich taith i ochr orllewinol Bannau Brycheiniog. Byddwch yn sylwi bod yr ardal yn fwy distaw, ac efallai y cewch chi’r bryniau i gyd i chi eich hun! Mae’r daith i ddechrau yn mynd â chi yn uchel uwchben yr A40, gan groesi nentydd a rhaeadrau cyn eich arwain at dir agored y bryniau.

Cewch weld y bwncath a’r cudyll glas yn hedfan fry uwchben, a merlod yn pori’n braf ar y bryniau. Bydd rhaid croesi gweundir grugog arbennig, cyn mentro i mewn i Warchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu. Cafodd ei dynodi’n warchodfa er mwyn amddiffyn ei phalmentydd calchfaen, y fflora sy’n tyfu arnynt a’r ogofâu oddi tanodd.

Cyfarwyddiadau:

Rydych chi’n awr yn gadael llwybrau poblogaidd ochr ddwyreiniol y Parc Cenedlaethol. O hyn ymlaen, mae’r dirwedd yn fwy gwyllt ac anghysbell, ac mae llai o bobl yn cerdded yma. Gadewch gilfan Storey Arms yn ei gornel orllewinol, gan ddilyn y llwybr ar hyd ochr uchel Craig y Fro. Fe ddewch at wal uwchben Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad. Dilynwch y wal i’r chwith at gornel, yna i’r chwith am ychydig, cyn cerdded i fyny llwybr aneglur at bentwr o gerrig. Mae’r llwybr wedyn yn mynd ar i lawr at dir wedi erydu, ac yna i fyny dros gribau hardd Fan Dringarth a Fan Llia.

Os bydd niwl yn gwneud cyfeiriadu’n anodd yma, ewch ar i lawr tua’r gorllewin at y Ffordd Rufeinig, a dilynwch yr isffordd i’r de. Mae’r llwybr yn diflannu wrth i chi fynd ar i lawr o Fan Llia - gwnewch eich ffordd cystal ag y gallwch drwy’r brwyn a’r nentydd at gamfa. Yna, ewch dros y bont droed wrth faes parcio’r goedwig ac ewch i fyny at y ffordd. Ymhen 250m trowch i’r dde, ac fe ddewch at drac sy’n troi ar ei union ar y chwith. Dyma Sarn Helen, ffordd Rufeinig sy’n mynd heibio Maen Madog (maen hir ysblennydd sy’n nodi claddfa Gristnogol gynnar) a mynd â chi i mewn i’r cwm nesaf. Croeswch y bont droed dros Nedd Fechan, ac ewch i fyny’r trac sy’n eich arwain unwaith eto at fryn agored. Trowch i’r dde yma, a dilyn y trac ar draws y gweundir am 500m, cyn troi i’r chwith. Ewch heibio hen adeiladau ar y dde, a mynd dros y gamfa i mewn i Warchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu. Yma, o dan eich traed, mae rhwydwaith enwog o ogofâu a phalmentydd calchfaen prin.

Ewch i lawr drwy’r Warchodfa, heibio i hen chwareli a llwybrau tramffyrdd, cyn dod allan i’r gogledd o Glwb Ogofa De Cymru.

Dilynwch y trac i’r dde, ac yna i’r chwith at ffordd darmac wrth fynedfa’r chwarel. Ar ôl 200m, ewch ar y llwybr sydd ar y dde, i mewn i Warchodfa Natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog, ac i lawr at y trac sy’n eich arwain at gefn Parc Gwledig Craig-y-nos. Mae llety a thafarnau ar gael gerllaw, ond dydyn nhw ddim i gyd o fewn pellter cerdded hawdd - felly, bydd yn rhaid i chi ddefnyddio bws neu dacsi, efallai.


Uchafbwyntiau


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf