Skip to main content

Llwybr Llafar

Casglwch ychydig o wybodaeth ychwanegol wrth wrando ar un o’n llwybrau sain. Yn syml iawn, lawrlwythwch ein llwybrau sain ar eich ffôn symudol, eich tabled neu chwaraewr mp3 cyn cychwyn. Dyma’r ffordd ddelfrydol i ddysgu mwy am Fannau Brycheiniog wrth archwilio.

Llwybrau Sain yng Ngwlad y Sgydau

Mae Llwybr Sain Ffosiliau a Brics Tân yn datgelu’r dreftadaeth ddaearegol a diwydiannol a geir rhwng Pontneddfechan a rhaeadr Sgwd Gwladus, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda nifer o arbenigwyr sydd wedi gweithio yn, ac wedi astudio, y maes hwn ers blynyddoedd.

Mae Llwybr Sain Goblin Gwladus yn cyflwyno’r wybodaeth a geir yn “Ffosiliau a Brics Tân” mewn ffordd sy’n apelio at blant 7-11 - a’r rheini sy’n hoffi stori dda!

Mae Podlediad Rhaeadrau a Bywyd Gwyllt yn cynnwys cyfweliadau gyda staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n trafod y fioamrywiaeth gyfoethog a welir ar y llwybr rhwng Sgwd Gwladus a Phont Felin-fach (15 munud o hyd). Lawrlwythwch

Lwybrau sain Sgwd yr Eira (o faes parcio Craig y Ddinas
Mae cenedlaethau o Gymry wedi ceisio gwneud eu ffortiwn yma. Gallwch glywed mwy drwy lawrlwytho llwybr sain Sgwd yr Eira yma.

Llwybr Powdr Gwn
Mae’r llwybr sain hwn, a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn datgelu pa fath o fywyd oedd gan y bobl a oedd yn gweithio yn y Gwaith Powdr Gwn. Cliciwch yma i’w lawrlwytho fel ffeil mP3.

Llwybrau Sain mewn lleoliadau eraill:

Llwybr Sain Cerdded gyda Rhufeiniaid   -  Bydd Rory eich tywyswr yn eich arwain ar lwybr o’r Pigwn a Waun-Ddu ynghyd â Primus, milwr Rhufeinig dewr. Ymgollwch ym myd Rory i ganfod sut brofiad oedd bywyd y milwr Rhufeinig.

Dyffryn Henllys -  Mae’r llwybr llafar yma’n datgelu’r dreftadaeth ddiwydiannol a'r ddaeareg i’w cael yn ardal Dyffryn Henllys ger Cwmllynfell yn ardal Ddwyreiniol y Parc Cenedlaethol. Mae’n cynnwys cyfweliadau gyda haneswyr lleol a daearegwr.

Rhaeadrau, Ffosiliau, Fforestydd a Chnuoedd -Mae Sgwd Henrhyd, ger Abercraf, yn goron ar y dyffryn diddorol yma sydd ym mherchnogaeth a dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Drwy sain, delweddau a ffilm, yma gallwch archwilio’r Llwybr Rhaeadrau oddi yma hyd at gydlifiad Nant Llech ac Afon Tawe yn Abercraf.

Dreigiau, Cythreuliaid a Llancesau:   Mae Caeau blodau gwyllt Tŷ Mawr, ar gyrion Llyn Syfaddan yn un o ardaloedd bywyd gwyllt pwysicaf Cymru. Mae’r clipiau sain yn datgelu pam eu bod mor arbennig, sut rydym yn gwneud amser a gofod ar gyfer y blodau gwyllt, y planhigion diddorol a’r anifeiliaid sy’n byw yno a pham fod y llifogydd tymhorol mor bwysig.

Podlediad ‘Du i Wyrdd’ yn Waun Figen Felen -   Mae’r podlediad 20 munud yma’n dilyn y gwaith cadwraeth ac aildyfu yn y gors ucheldirol anghysbell uwchben system ogof Dan yr Ogof ar ochr ddeheuol prif grib Bannau Caerfyrddin. Yn cynnwys cyfweliadau gyda staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chynrychiolwyr Clwb Ogofa De Cymru a Chanolfan Arddangos Ogofâu Cymru, mae’r podlediad hefyd yn archwilio’r berthynas â’r system ogofâu diddorol o dan y ddaear.

Podlediad Atgofion plentyndod Penwyllt- cyfres o bodlediadau 15 munud sy’n ymwneud ag atgofion plentyndod cyn drigolion Penwyllt, sef Phil, Hubert ac Alan, wrth iddynt archwilio cartref, cymuned a bywyd diwydiannol y 1930au a’r 1940au.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf