Skip to main content

Diwrnod 4: Llangynidr i Storey Arms

Diwrnod 4: Llangynidr i Storey Arms

Man cychwyn: Llangynidr (SO 152201)
Man gorffen: Storey Arms (SN 982203)
Pellter: 23.5 km / 14.5 miles
Dringfa: 1110m / 3640tr
Anhawster: Egnïol
Amser: 7 awr
Cyfleusterau yn y man cychwyn: Caffi, Maes Parcio, Toiledau

Diwrnod 4 yw’r un mwyaf egnïol, ond fe’ch gwobrwyir gan olygfeydd ysblennydd. Mae’r ddringfa o Flaen y Glyn i Graig y Fan Ddu yn serth ac yn heriol - felly bydd angen sawl saib ond cewch gyfle i edmygu’r golygfeydd trawiadol.

Ar ôl i chi gyrraedd y copa, dilynwch ymyl y sgarp hyd at raeadr sy’n plymio dros y dibyn. Yn y gaeaf, mae’r dŵr yn rhewi ac yn ffurfio pibonwy. Mae’n werth gwyro tuag at Fan y Bîg, lle gallwch sefyll ar y ‘Bwrdd Plymio’ - craig sy’n gwthio allan. Ar ôl dod i lawr i ‘Ffordd y Bwlch’, mae dringfa egnïol arall i Ben y Fan. Dyma’r copa uchaf (886m) yn Ne Prydain.

Cyfarwyddiadau:

Bydd hwn yn ddiwrnod syfrdanol, fydd yn mynd â chi dros rannau mwyaf ysblennydd y Bannau. Mae’n em, ond paratowch am daith hir ac uchel! Gadewch Langynidr ar hyd y gamlas i’r gorllewin, croeswch y bont droed wrth y lloc, ac ewch ar i fyny drwy’r coed a’r caeau at lôn. Ewch i’r chwith ar hyd y lôn, yna trowch i’r dde at drac sy’n arwain gan bwyll ar i fyny drwy fferm, i ben y grib. Cewch olygfeydd godidog dros gronfa ddŵr Talybont yma.
Ewch ar y trac llydan i’r chwith, o amgylch ochr y bryn, ac ar hyd y grib nes mynd ar i lawr ar y dde, i mewn i goedwig, gan ymuno â Llwybr Taf. Wrth gerdded i fyny at y ffordd, fe welwch chi raeadrau ar ochr arall y dyffryn.

Yn y maes parcio, dilynwch y llwybr serth i fyny heibio i fwy o raeadrau, a chymryd saib bob hyn a hyn i edmygu’r golygfeydd. Yna, ewch ar hyd ochr serth Craig y Fan Ddu. Ar ôl croesi’r nant, trowch i’r chwith, ar lwybr sydd ddim mor amlwg, at y pentwr cerrig. Yna, cerddwch ar draws y bryn, ac ar hyd ymyl sgarp sydd yr un mor serth, at Fan y Bîg a’i ‘Fwrdd Plymio’ eiconig yn hongian uwchben y dyffryn – tynnir cannoedd o luniau ohono bob blwyddyn.

Gan droi i’r chwith, ewch i lawr y llechwedd serth i ‘Ffordd y Bwlch’. Byddwch yn osgoi dringo i’r Cribyn drwy fynd o’i amgylch, ar y chwith iddo. Ond bydd y dringo llawn ysblander i fyny at Ben y Fan yn siŵr o roi prawf ar eich coesau. Dilynwch y prif lwybr i lawr o’r copa, ond gwyrwch i’r dde i gael golygfeydd godidog o’r Corn Du. Oddi yma, ewch i gyfeiriad y de, ac i lawr ochr serth at lwybr caled yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n eich arwain at Faes Parcio Pont ar Daf ar yr A470. Mae llwybr troed ym mhen pellaf y maes parcio yn mynd â chi at ochr y ffordd, yn Storey Arms (Canolfan Addysg erbyn hyn). Dyma bwynt hanner ffordd Llwybr y Bannau.

Er bod yr Hostel Ieuenctid gerllaw, gall hon fod yn llawn, felly bydd angen bws neu dacsi arnoch i’ch cludo i’ch llety.


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf