Skip to main content

Meini hirion

Mae 'na dros 30 maen hir yn ein Parc Cenedlaethol. Mae rhai ohonyn nhw'n hynafol iawn, ac yn llawn mytholeg.

Dydyn ni ddim yn gwybod yn union sawl un o'r meini hirion sydd wedi goroesi sy'n hynafol. Ymddengys rhai i fod yn gerrig coffa a gallai eraill fod â sawl swyddogaeth, un ai i nodi ffin, i nodi ffordd ar lwybrau hynafol, yn arwyddbyst neu hyd yn oed yn gerrig rhwbio i anifeiliaid.

Maen Lila

Cyfeirnod grid OS SN924191

Yn sefyll 60m oddi ar y ffordd fechan rhwng Dyffryn Senni ac Ystradfellte, mae'r garreg fawr hon yn gymharol hawdd i ymweld â hi.

Wedi ei gwneud o floc o dywodfaen anferth sy'n 3.7m o uchder, byddai ei symud a'i chodi wedi bod yn her enfawr, yn enwedig gan ei bod hi'n debygol bod rhwng chwarter a thraean o'r garreg gyfan o dan ddaear.

Ar ddiwrnod clir gellir ei gweld o gryn bellter i lawr Dyffryn Lila, sy'n awgrymu y gallai fod wedi bod yn bwysig i farcio'r diriogaeth. Mae'n sefyll ar uchder o 573m felly mae'n debyg mai dyma'r maen hir uchaf yn Ne Cymru.

Llun (uwchben) © www.dave-pemcoastphotos.com

Maen Madoc

Cyfeirnod Grid OS SN918157

Yn mesur bron i 2.7m o uchder, mae'r garreg fawreddog hon (mae llun ohoni ar y dde) yn sefyll yn uchel ar y waun ger ffordd Rufeinig Sarn Helen.

Mae'r arysgrifiad Lladin DERVACUS FILIUS JUSTI OC JACIT yn cyfieithu i Mae Dervacus, mab Justus yn byw fan hyn. Enw Rhufeinig o'r 6ed ganrif oedd Dervacus.

Er ei bod yn cael ei chydnabod fel carreg goffa Rufeinig, fe allai fod wedi cael ei chodi yn Yr Oes Efydd.

Saith Maen

Cyfeirnod Grid OS SN833154

Yn rhai rhannau o'r wlad, fel Dartmoor, mae rhesi o gerrig yn gymharol gyffredin, ond ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dyma'r unig un sydd heb gysylltiad â chylch o feini, felly mae Saith Maen yn eithaf arbennig i ni.

Mae'r saith maen yn dal i oroesi yn y safle gweundir anghysbell yma, er, yn anffodus, mae o leiaf dau wedi syrthio erbyn hyn.

Yn sefyll mewn rhes o'r gogledd gogledd-orllewin i'r de de-ddwyrain i gyfeiriad cylch cerrig Cerrig Duon, mae'r cerrig yn amrywio mewn uchder o 1.7 i 0.5m ac yn ffurfio rhes 13.7m o hyd. Mae nifer yn credu bod 'na gysylltiad pwysig ac ysbrydol rhwng y ddau safle.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf