Skip to main content

Bwyd a diod o’n marchnadoedd ffermwyr, siopau fferm, poptai a delis

Bwyd a diod o’n marchnadoedd ffermwyr, siopau fferm, poptai a delis

 

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn drysorfa go iawn o gynnyrch o safon. Gall danteithion blasus fel ein wisgi, caws a siocled lleol fod yn rhoddion hyfryd, ac mae’n hawdd rhoi picnic ynghyd efo nwyddau ffres.

Yn sicr, mae’n werth siopa yn lleol pan rydych ym Mannau Brycheiniog. Rydym yn adnabyddus am ein cig oen mynydd rhagorol (edrychwch allan am ein defaid Brycheiniog, y brid lleol), bîff, cig carw a chynnyrch wedi’u fygu o bob math. Mae gennym gaws lleol fel Y Fenni, Sant Illtyd (a dreuliodd lawer o amser yn yr ardal) a chaws Pwll Mawr (sydd yn aeddfedu mewn pwll glo). Rydych yn siŵr o garu ein sudd afal, seidr, wisgi, dŵr mwynol a hufen iâ blasus hefyd.

I ddarllen am ein cynnyrch sydd wedi ennill gwobrau, ymwelwch â’n tudalen Cynhyrchwyr unigryw lleol ac arbenigeddau coginio. I gael gwybodaeth am ein hystod lawn o fwytai, tafarndai, caffis a siopau te, ymwelwch â’n hadran Bwyta ac Yfed.

Marchnadoedd ffermwyr a marchnadoedd gwledig

Mae marchnadoedd rheolaidd ein Ffermwyr a’n ffeiriau bwyd yn dod â’n ffermwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr crefft lleol gorau ynghyd o dan yr un to. Maen nhw’n achlysuron cyfeillgar. Gallech gwrdd â’r gwneuthurwyr, blasu eu nwyddau a llenwi’ch bag siopa efo nwyddau megis caws, mêl, selsig, perlysiau, siytni a bara lawr. Beth all fod yn well?

Marchnadoedd misol

Marchnad Wledig Talgarth

Neuadd y dre Talgarth, Y Sgwâr, Talgarth LD3 0BW, Cymru

Dydd Sul Cyntaf o bob mis, 10am -1pm

Marchnad Ffermwyr Aberhonddu

Marchnad Neuadd Aberhonddu, Stryd y Farchnad, Aberhonddu LD3 9AH, Cymru

Ail Ddydd Sadwrn o bob mis, 10am -2pm

Marchnad Ffermwyr Y Fenni

Neuadd Marchnad y Fenni, Stryd y Groes, Y Fenni, NP7 5EU, Cymru

Pedwerydd Dydd Iau o bob mis, 9.30am -2.30pm

Marchnad Ffermwyr Llanymddyfri

Sgwâr Marchnad Llanymddyfri, Llanymddyfri SA20 0AW, Cymru

Dydd Sadwrn olaf o bob mis, 9am -2pm

Marchnadoedd wythnosol

Marchnad y Fenni

Neuadd Marchnad Y Fenni, Stryd y Groes, Y Fenni, NP7 5EU, Cymru

Pob Dydd Mawrth, Gwener a Sadwrn, 6am -5pm

Marchnad y Gelli

Sgwâr Goffa a Marchnad Menyn, Y Gelli, HR3 5AE, Cymru

Pob Dydd Iau, 8am -1.30pm

Marchnad Wledig Aberhonddu

Neuadd Marchnad Aberhonddu, Stryd y Farchnad, Aberhonddu, LD3 9AH, Cymru

Pob Dydd Gwener, 8am -1.30pm

Marchnad Wledig Llandeilo

Neuadd Ddinesig, Heol Crescent, Llandeilo SA19 6HY, Cymru

Pob Dydd Gwener, 8.30am -12.30pm

Marchnad Wledig Llanymddyfri

Gwesty’r Castell, Heol y Brenin, Llanymddyfri, SA20 0AP, Cymru

Pob Dydd Gwener, 9.30am -12pm


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf