Skip to main content

GEOLWYBR PENWYLLT

Llanw a thrai pentref diwydiannol

Llwybr cerdded 7.2 cilometr (4.5 milltir) o Barc Gwledig Craig-y-nos i Benwyllt sy’n addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant hy^n (8+). Mae’n archwilio etifeddiaeth diwydiannol y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif gynnar, mewn lleoliad gwyllt.

Penwyllt by Neil Mansfield

© Neil Mansfield

Cychwyn Parc Gwledig Craig-y-nos
(Cyfeirnod grid OS SN 839155) (Côd post SA9 1GL)

Yn codi Tua 220m (725 troedfedd)

Amser Tua 3.5 awr i fwynhau’r daith i'r eithaf

Map Defnyddiwch fap Explorer Arolwg Ordnans OL12 ‘BBNP western area’

Y Llwybr Mae un darn gwelltog serth ar y ffordd i fyny ac un darn caregog sy’n weddol serth ar y ffordd i lawr (y ddau tua 90m / 300troedfedd). Mae’n dilyn llwybr ceffyl a hen dramffyrdd yn bennaf, mae yna bedair camfa ar y llwybr, a hefyd giatiau. Mae’r cŵn yn y cytiau cŵn ym Mhwllcoediog yn gallu bod yn swnllyd. Bydd ychydig o ddarnau mwdlyd ar ôl glaw. Ceir cyfeiriadau grid Arolwg Ordnans mewn rhai mannau yn nisgrifiad y daith gerdded, e.e. (SN 849161), i helpu i gadw at y llwybr.

Byddwch yn barod Does dim cyfleusterau ym Mhenwyllt. Mae dros 300m / 100 troedfedd uwch lefel y môr ac mae’n agored i’r tywydd – glaw, gwynt neu haul. Gwnewch yn siw^ r eich bod wedi paratoi yn iawn. Cofiwch – cadwch gw^ n ar dennyn o gwmpas da byw!

Cyrraedd yno
O Aberhonddu Trowch oddi ar yr A40 ym Mhont Senni a mynd ar yr A4067 at Abertawe i gyrraedd Parc Gwledig Craig-y-nos ar ôl 19 milltir / 26 munud.
O gyffordd 45, M4 Abertawe
Dilynwch yr A4067 i fyny
Cwm Tawe i gyrraedd Parc Gwledig Craig-y-nos ar ôl 16 milltir / 26 munud

Adnoddau yn y Parc Gwledig
Parcio talu ac arddangos, Man Darganfod Geoparc (arddangosfa), toiledau, caffi a siop anrhegion.

GEOLWYBR LAWRLWYTHWCH

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf