Skip to main content

Geodeithiau Geoparc

Geodeithiau Geoparc

Mae’r Ap Geodeithiau’n cynnwys pedair taith gerdded yn Goeparc Byd Eang UNESCO Fforest Fawr. Gallwch llawrlwytho’r Ap am ddim o Google Play neu’r App Store (chwiliwch am Geotours) a mentro allan i ddarganfod y Geoparc eich hunan.

Mae pob Geodaith yn cymryd tua 2 - 3 awr i’w cherdded ac rydyn ni’n argymell defnyddio mapiau Arolwg Ordnans o’r ardal yn ogystal â’r ap Geodeithiau.

Gallwch ddewis o’r Geodeithiau canlynol:

Cribarth Geodaith
Mae’r llwybr 5.5km/3.5 milltir yn eich tywys ar antur drwy dirwedd ryfeddol, lle mae gweddillion chwareli a thramffyrdd yn amlygu gorffennol diwydiannol cyffrous y mynydd trawiadol hwn.

Garn Goch Geodaith
Mae’r geo-daith 3km/2 milltir hon yn mynd â chi ar antur i leoliad trawiadol Garn Goch, bryngaer fawreddog ar ymyl orllewinol y Geoparc.

Mynydd Illtud Geodaith
Mae’r daith gylchol 5.6km/3.5 milltir hon yn ymweld â thir comin Mynydd Illtud, golygfan ardderchog ger canolfan ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yng nghanol Bannau Brycheiniog.

Penwyllt Geodaith
Mae’r daith 3.75km/2.33 milltir hon yn eich tywys yn ôl i hwrli-bwrli’r 19eg ganrif pan oedd Penwyllt yn gartref i’r diwydiant gwneud brics lleol a oedd yn ffynnu.


Beth yw eich barn am yr Ap Geodeithiau
Gadewch i ni wybod. A ddylen ni greu rhagor o Geodeithiau Fforest Fawr? Oes gennych chi awgrym am sut y gallwn ni wella un o’r teithiau? Fe hoffen ni glywed oddi wrthych. E-bostiwch ni ar: enquiries@fforestfawrgeopark.org.uk

 gerdded allan cofiwch ddilyn rheolau pellhau cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiogel.

European Atlantic Geotourism Route.

Mae’r ap Geodeithiau’n dangos 12 cyrchfan  Geoparc ar draws Ewrop, gan gynnwys Fforest Fawr, a chyda'i gilydd maen nhw’n ffurfio Llwybr Geodwristiaeth Ewropeaidd yr Iwerydd . Mae’r llwybrau newydd yn gasgliad rhyfeddol o gyrchfannau mawreddog ar hyd eangder epig terfyn yr Iwerydd. Maen nhw’n troelli eu ffordd o Iwerddon a’r DU, i Ffrainc, Portiwgal a Sbaen drosodd i Ynysoedd yr Iwerydd Lanzarote ac i lawr i’r Azores.  Beth am lawrlwytho rhai o'r teithiau eraill a mynd ar ymweliad rhithiol i Geoparc arall?

Cafodd yr Ap Geodeithiau ei ariannu ar y cyd gan Raglen Interreg Ardal yr Iwerydd trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf