Skip to main content

Eglwys Sant Edmwnd, Crucywel

Eglwys Sant Edmwnd, Crucywel

Mae Sant Edmwnd yn eglwys anarferol o fawr o ystyried maint y dref. Cafodd ei sefydlu yn 1303 gan berchennog Castell Crucywel ar y pryd, Yr Arglwyddes Sybil Pauncefote, gwraig weddw Syr Grimbald, tirfeddianwr o Sais o Swydd Gaerloyw.
Hon yw'r unig eglwys yn Nghymru sydd wedi ei chysegru i Sant Edmwnd, sef nawddsant Lloegr pan sefydlwyd yr eglwys.

Mae delwau o'r Pauncefotes yn yr eglwys, a does gan y delw o'r Arglwyddes Sybil ddim dwylo. Mae'r hanes ei bod wedi aberthu ei dwylo fel pridwerth i gael ei gŵr oedd wedi ei gipio yn ôl o'r Croesgadau bellach wedi ei ddiystyrru.
Mae'r cynllun croesffurf yn dal i'w weld, er mai dim ond y seintwar sydd heb ei newid rhyw lawer ers y 14eg ganrif.

Mae meindwr Sant Edmwnd yn anarferol am eglwys Gymreig, gan fod yr estyll to wedi eu gorchuddio â phren. Mae'n creu tirnod sydd i'w weld o bron bob ffordd sy'n mynd i Grucywel. Yn ddadleuol, ychwanegwyd tŵr cloc â dim ond dau ddeial yn y 1860au. O fewn yr eglwys mae cofgolofn ryfel y dref sy'n dyddio o 1934. Gwaith Charles Eamer Kempe, cynllunydd Fictoraidd adnabyddus, yw dwy o'r ffenestri lliw niferus.

Mae'r eglwys ar agor i ymwelwyr yn ystod oriau golau dydd.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf