Skip to main content

YCHYDIG O HANES

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 1957. Roedd yn un o'r deg parc cenedlaethol cyntaf a grëwyd ym Mhrydain. Y bwriad oedd diogelu'n tirweddau hardd, garw a dramatig, a ystyrir yn nodweddion cenedlaethol amhrisiadwy.

Dechreuadau cynhanesyddol

Fel llawer o Gymru, mae’n tirweddau hynafol wedi’u siapio gan Oes yr Iâ. Naddwyd y sgarp gogleddol eiconig yn ddwfn gan rewlifau a Safle Adolygu Cadwraeth Ddaearegol Llyn Cwm Llwch yw'r enghraifft orau o lyn rhewlifol yn Ne Cymru. Hefyd mae nifer o enghreifftiau da o sgrïau a marianau rhewlifol. Mae ffosiliau rhedyn yn nifer o hen safleoedd chwareli ar hyd llethrau gogleddol y Bannau.

Mae bron i wyth mil o flynyddoedd o weithgarwch dynol hefyd wedi mowldio’n tirweddau. Mae olion trigolion cynnar yng ngweddillion cylchoedd cerrig cynhanesyddol a siambrau claddu, bryngaerau o'r Oes Haearn a gwersylloedd Rhufeinig, yn enwedig yn y bryniau yng ngorllewin y parc. Ystyrir un o'n heglwysi, Eglwys Sant Catwg, Llangatwg, a sefydlwyd yn y 6ed ganrif, yn un o'r hynaf ym Mhrydain. Er ei bod wedi’i hailadeiladu i gryn raddau dros y blynyddoedd - mae ychwanegiadau cymharol ddiweddar megis corff yr eglwys o'r 14eg ganrif, tŵr o'r 16eg ganrif a dwy goeden ywen anhygoel o hen.

Yn ystod y goresgyniad Normanaidd, roedd y bryniau’n frith o gestyll. Mae'n debyg mai adfeilion Carreg Cennen yw'r gweddillion amddiffynfa mwyaf adnabyddus. Sefydlwyd Priordy Llanddewi Nant Hodni tua 1100, a ffermdai canoloesol yn nes ymlaen. Cai unrhyw dir na ddefnyddir gan y barwniaid Normanaidd ei ddefnyddio gan bentrefwyr fel ffynhonnell o goed tân, tyweirch, mawn a graean, ac fel tir pori ar gyfer defaid, gwartheg a moch.

Yr oes ddiwydiannol

Bu newidiadau syfrdanol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol o ddiwedd y 18fed ganrif. Cloddiwyd am galchfaen, tywod silica a haearnfaen ar gyrion y Parc er mwyn cyflenwi anghenion ffwrneisi cymoedd De Cymru.

Datblygodd Camlas Sir Fynwy a Chamlas Brycheiniog a'r Fenni, a sefydlwyd yn y 1790au, a gwblhawyd yn 1812 ac a gysylltwyd â rhwydwaith o dramffyrdd a rheilffyrdd, i fod yn llwybrau pwysig ar gyfer cludo calchfaen, glo a haearn. Erbyn hyn fe’i hadnabyddir fel Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.

Yn ogystal â strwythurau diwydiannol, daeth yr oes Sioraidd ac oes Fictoria ag adeiladau trefol a gwledig cain i'r ardal, ac mae rhai ohonynt yn dal i fod â’u nodweddion gwreiddiol hyd heddiw.

Maes hyfforddi milwrol

Ganrifoedd wedi iddo gael ei ddefnyddio gan y Rhufeiniaid fel canolfan i’w marchoglu, daeth Bannau Brycheiniog yn safle pwysig ar gyfer y fyddin Brydeinig ac mae’n dal felly ers dros 100 mlynedd. Mae handlenni reiffl a ddarganfuwyd yng Nghwm Llwch yn dystiolaeth o weithgaredd milwrol yn yr ardal cyn belled yn ôl â diwedd y 19eg ganrif.

Hyd at 1984, roedd Cwm Gwdi yn wersyll hyfforddi a maes tanio byw. Defnyddiwyd bryn Allt Ddu ar gyfer ymarfer tanio morteri. Heddiw defnyddir y Bannau gan y Weinyddiaeth Amddiffyn fel maes dethol ar gyfer yr SAS. Mae sefydliadau milwrol yn Aberhonddu a Phontsenni.

Cadwraeth ac adfer

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a sefydlwyd yn 1957, yw'r diweddaraf o dri pharc cenedlaethol Cymru. Crëwyd y ddau barc cenedlaethol arall yng Nghymru, Eryri ac Arfordir Sir Benfro, yn gynharach yn yr 1950au, ynghyd â pharciau cenedlaethol pwysig yn Lloegr megis Ardal y ‘Peaks’, Ardal y Llynnoedd a ‘Dales’ Swydd Efrog.

Yn 1965, daeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar lawer o'r tir comin yng nghanolbarth y Bannau, gan baratoi'r ffordd ar gyfer datblygu’r parc yn ardal gadwraeth a chyrchfan i dwristiaid. Yn ddiweddarach sicrhaodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddarnau pwysig eraill o dir.

Roedd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu wedi dirywio ers dros ganrif yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif, ond o’r diwedd, yn yr 1970au dechreuwyd ar y gwaith o’i hadfer – prosiect sydd wedi bod ar y gweill byth ers hynny. Bellach mae dros 400 o gychod preifat a mwy na 40 o gychod i’w llogi ar y darn o gamlas rhwng Aberhonddu a Phontnewydd, i'r de o'r Parc.

Y cyfnod diweddar

Heddiw, twristiaeth a gwasanaethau yw prif gynheiliaid yr economi lleol yn hytrach na diwydiant ac amaethyddiaeth.

Yn 2000, dynodwyd yr ardal o gwmpas Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i gydnabod ei harwyddocâd o ran cynhyrchu haearn a glo yn y 19eg ganrif. Yn 2005, dynodwyd y Fforest Fawr yn Geoparc Byd-eang UNESCO cyntaf Cymru ac yn 2013, cafodd awyr y nos uwchben Bannau Brycheiniog warchodaeth arbennig pan ddynodwyd y parc yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf