Skip to main content

Yr Orsaf Wrth yr Afon

Yr Orsaf Wrth yr Afon

Pan ymunais â’r milisia

Pan ymunais â’r milisia yn Nhrefynwy dywedodd y sarsiant, “Wel John Fielding, os mai ti oedd yr hynaf o naw o blant mi weli bydd y fyddin fel ail gartref i ti. Ac os cei di dy yrru i’r drefedigaeth yn Ne Affrica mi weli na ddaw unrhyw hiraeth i lenwi dy fron - mae’r wlad fel dy fryniau draw, tir pori heb ei ail a thywydd fel Gwent ar hirddydd haf. Ac os gweli di fod y Zulus yno ychydig yn gecrus, wel, bydd dy deulu newydd yn y 24th Regiment of Foot yno wrth dy gefn, John Fielding, ac yn fwy na pharod i dy helpu - hyd yn oed os bydd angen gosod y cnafon dan haenen o bridd heb groes uwch eu pennau! Mi gei wisgo’r helmed wen a’r gôt goch. Cei ledaenu’r pinc hyd fapiau’r byd yn enw’r ymerodraeth. Cei gario’r Martini- Henry mark two, reiffl gorau’r byd, dy gymar yn yr antur fawr, gall wareiddio dyn dros hanner milltir o bellter.”

Ac mi atebais innau wedyn, “Mi wn, sarsiant, ond os bydd fy ’nhad yn clywed caf fy llusgo yn ôl i stryd Merthyr, a’r Fenni fydd ffiniau fy myd i wedyn.” Ac mi gododd y sarsiant ei ysgrifbin a newid f’enw. “Dyna ti, was, ti’n un o deulu’r Williams yn awr. Mae 32 o’th berthnasau yn y gatrawd yn barod. Does ’run teulu wedi rhoi cymaint i’r achos, paid ti â sarnu’r enw.”

Ac erbyn Ionawr 1879 roeddwn i yn Natal, yn chwysu dan yr helmed wen a chosi dan y brethyn coch. O fewn dwy
flynedd roeddwn i’n fwy cyfarwydd â’r Martini-Henry na fy mrodyr a’m chwiorydd, ac yn prysur anghofio unrhyw atgof cyn i mi fod yn Private 25B/1395 John Williams.

Yr Orsaf yn Rorke’s Drift

Doedd yr orsaf yn ddim mwy na chwt cyflenwi ac ysbyty bychan ar yr afon rhwng rhanbarthau Natal a Zulu, dim byd o fewn milltiroedd i ni a neb yn disgwyl unrhyw gyffro. Ond doedd neb yn disgwyl i 1800 o wŷr Chelmsford gael ei dal yn gwrido pigau brain yn Isandlwana ychwaith. Cyrhaeddodd yr hanes ein gorsaf ni yn fuan wedyn, ynghyd â’r hanes am 3000 o Zulus oedd am ddod i guro ar ein drws y prynhawn hwnnw.

Mae hi’n haf ym mis Ionawr yn Ne’r Affrig ac roedd hi’n fore braf, yr haul wedi hen losgi’r niwl oddi ar y bryniau fel roedd o’n arfer gwneud ar y Blorens yn y Fenni. Ond ches i ddim amser i synfyfyrio am adref, rhaid cadw meddwl milwr yn glir, yn y presennol yn llwyr. Mae dychymyg wedi lladd sawl soldiwr cyn heddiw. Roedd digon o waith i’w wneud hefyd, trwy’r bore yn codi waliau o sachau blawd ac yn llochesu rhag yr haul yn yr ysbyty trwy’r prynhawn, yn torri tyllau anelu trwy’r waliau ac yn baricedio’r ffenestri.

Byddai pob milwr yn dweud yr un peth

Mae’r oriau sy’n arwain at frwydr yn oriau od - byddai pob milwr yn dweud yr un peth. Mae’r llygaid yn dirnad popeth yn glir, pob manylyn fel petai wedi’i osod ar wahân, yr edau ar ymyl y sachau blawd, y cysgodion yn rhychau’r dillad gwely, y botymau hyd dy lawes. Ac unwaith y clywi di’r ergyd gyntaf mae amser yn dechrau arafu, bron nad wyt ti’n gweld pob dim cyn iddo ddigwydd.

Bydd pob un yn gwneud addewidion, yn gwthio llythyrau i ddwylo’n gilydd. Bryd hynny mae’n anodd peidio ceisio dyfalu pwy fydd yn lwcus a phwy fydd yn anlwcus, pwy fydd yn dal tamaid bach o blwm, neu haearn, neu waywffon. Mae’r pethau yma’n gyffredin i unrhyw frwydr, ond yn Rorke’s Drift roedd hi’n anodd credu byddai unrhyw un ar ôl i ddanfon y llythyrau.

Roedd catrawd wedi ffoi’r orsaf cyn i’r frwydr gychwyn hyd yn oed. Y Natal Native Contingent, tua chant ohonynt, wedi dianc unwaith daeth y gelyn i’r golwg a’u capten, Stevenson, yn eu plith. Saethodd ambell un ohonom ambell rownd i’w cyfeiriad wrth iddyn nhw ddiflannu. Welais i erioed neb yn ffoi cyn i’r frwydr gychwyn cyn hynny. Er mai dim ond brodorion oedden nhw roedd o’n ddigon i’n dychryn ni. Ces gyfle i edrych o gwmpas yr orsaf am y tro olaf cyn baricedio drysau’r ysbyty a chael fy synnu o weld cyn lleied ohonom ni oedd yno. Dim mwy na 157 o ddynion, o’r hyn a glywais wedyn, 39 o’r rheini yn yr ysbyty a chyfran dda’n rhy wael i ddal reiffl. Roedd tair neu bedair mil o Zulus ar y ffordd, a’u sŵn a’u llwch yn dechrau codi ar y gorwel yn barod. Doedd yr un ohonom wir yn disgwyl cael gweld y machlud y noson honno.

Adeg hynny bydd dwylo dyn yn dechrau crynu, yr ystumog yn dechrau gwegian, a’r llawr yn dechrau symud dan ei draed. Mae yna deimlad hefyd y byddai’r holl beth yn clirio ond i ti allu gweiddi neu sgrechian yn ddigon uchel. Nid yw hynny’n wir, wrth gwrs, felly ti’n gwasgu dy ddannedd i’w gilydd a cheisio sefyll yn syth. Roedd ein swyddogion yn rhai da o leiaf, a gwŷr da oddi tanynt. Pob un yn gwybod beth oedd yn eu hwynebu, ac yn fodlon ei wynebu.

Daeth y Zulu drosom yn un llanw, eu tariannau fel ceffylau gwynion a phob un ar garlam. Roedd cymaint ohonynt, y rhan fwyaf yn cario’u gwaywffyn, yr Assegai. Doedd honno heb gael ei dylunio i’w thaflu, roedd y pen yn llydan fel deilen a’r goes yn fyr. Mae hi’n fwy o arf i drywanu. Byddai’r Zulu yn rhoi slaes nerthol at y corff, ei phlannu hi yn eich bol cyn ei thynnu allan drachefn. Mae’n cymryd tipyn o gryfder i wneud, a gwae unrhyw un sy’n derbyn yr ergyd, waeth pa mor gryf - gwaed a pherfedd yn garpiau hyd y llawr.

Roedden nhw’n rhai dewr hefyd

Roedden nhw’n rhai dewr hefyd, y Zulu, a phrin ddim yn eu dychryn. Yn ffodus iawn i ni, er nad oeddem yn gwybod ar y pryd, y Tywysog Dabulamanzi oedd yn arwain y gad y diwrnod hwnnw - roedd yn rhy hwyr i’r frwydr yn Isandlwana ac yn awyddus i wlychu ei big. Pe byddai’r Brenin Cetashwayo wedi arwain efallai byddai pethau wedi bod yn wahanol iawn. Unwaith yr oedd Dabulamanzi wedi cychwyn doedd ddim am ildio, mi fyddai wedi
marw cyn cael torri ei grib, felly mi yrrodd ei ddynion atom, ton ar ôl ton, am un ar ddeg awr.

Wna’i ddim sôn gormod am yr ysbyty. Erbyn y diwedd doedd dim bwledi ar ôl a’r cyrff yn bentyrrau yn erbyn y muriau. Doedd dim modd gweld trwy’r tyllau anelu. Mi fues i a Joe Williams wrthi am awr gyfan yn gwarchod un ystafell â’n bidogau, tan iddo gael ei lusgo oddi yno. Bues i’n torri llwybr trwy’r waliau rhwng y stafelloedd wedyn, yn llusgo’r cleifion trwy’r tyllau wrth fynd yn fy mlaen, fi a Henry Hook yn llusgo ac yn lladd bob yn ail. Nid wy’n falch o’r oriau hynny, ac anaml y bydda i’n meddwl amdanynt, lladd dynion oedd ddigon agos i boeri yn dy wyneb, bidogau a gwaywffyn yn sgleinio’n goch. Prin ein bod ni’n ddynion bryd hynny, gyda’r to ar dân a’r llawr yn un llif. Roedden ni fel cythreuliaid, neu fel llygod mawr, Duw â’i wegil tuag atom. Tyllu a llusgo a lladd Zulus, dyna’r oll wnes i yn Rorke’s Drift. A phan orffennodd y cwbl, oddeutu dau’r bore, roeddem wedi colli’r ysbyty a’r bariceds, ein cefnau yn erbyn mur y storfa, wal fer o sachau blawd o’n blaenau a môr o gyrff yn gwingo a griddfan y tu hwnt i’r drws.

Gyrrwyd ni i Gibraltar

Gyrrwyd fi i Gibraltar wedyn, i osod y Victoria Cross ar fy mrest, ac yna adre. Arhosais yn y fyddin, hyd yn oed ar ôl priodi Elizabeth, ac roeddwn yn y depo yn Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Mawr pan gollwyd ein mab yn Mons. Erbyn heddiw, yn fy henaint, rwy’n byw yng Nghwmbrân. Rwy’n mwynhau fy nghetyn, a chwmni fy nithoedd bach sy’n gwybod dim am hyn - heblaw bod Ewythr John wedi bod yn soldiwr rhyw dro, ac wedi ennill medal mewn rhyw oes arall mewn rhyw wlad bell. Mae’n dweud ‘For Valour’ ar y fedal, ac rwy’n meddwl bod hynny’n deg. Roedd yn wir am bob un ohonom yn Rorke’s Drift. Duw a ŵyr sut oedd dewis a dethol un ar ddeg i dderbyn y groes, mi fyddwn i wedi rhoi un i bob dyn, y Zulus hefyd. Ond dyna ni, sarsiant oeddwn i, dim mwy na dim llai. Cadfridogion sy’n dewis pwy sy’n derbyn medalau.

Horatio Clare 2016

Sut i Ail-Greu'r Chwedl

Yr Orsaf wrth yr Afon

Mae ymweliad ag Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol yn Aberhonddu yn hanfodol. Cewch ddysgu mwy am yr arweiniad i’r frwydr enwog, y camgymeriadau a wnaed gan y ddwy ochr, a dewrder pob un a frwydrodd y diwrnod hwnnw. Cewch weld llawr o eitemau o’r cyfnod gan gynnwys arfau, gwisgoedd, a llythyrau. Mae’r amgueddfa’n olrhain hanes y gatrawd ers ei sefydliad yn 1689 hyd at y presennol. Y lle nesaf ar eich rhestr fydd Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, un o bum eglwys gadeiriol yng Nghymru, mae yno gapel wedi’i gysegru i’r 24th Regiment of Foot.

Gwybodaeth bellach:
www.royalwelsh.org.uk
www.breconcathedral.org.uk

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf