Skip to main content

Henry Vaughan

Ganwyd Henry Vaughan yn 1621 yn Llansantffraid, ger Talybont-ar-Wysg, fel yr hynaf o ddau efell.

Ei dad oedd Thomas Vaughan o Lys Tre-tŵr ac roedd ei nain yn ferch i Thomas Somerset, a garcharwyd am dros ugain mlynedd gan Elizabeth y Cyntaf am ei grefydd ac am gefnogi Mari, Brenhines yr Alban.

Yn ystod ei blentyndod cafodd ei addysgu gan y Parchedig Matthew Herbert o blwyf Llangatwg, gan fynd i Rydychen i astudio am ddwy flynedd pan oedd yn un ar bymtheg. Bu’n astudio’r gyfraith yn Llundain wedi hynny.

Ymunodd â’r Brenhinwyr am gyfnod byr yn 1645, gan frwydro dros Siarl y Cyntaf yn y Rhyfel Cartref, cyn dychwelyd yn ôl at lannau’r wysg, ei gartref am weddill ei fywyd.

Gweithiai fel meddyg o ddydd i ddydd a byddai wedi teithio trwy’r pentrefi lleol yn ogystal â threfi Aberhonddu a Chrughywel. Roedd ei gartref wedi ei amgylchynu â thirwedd nodweddiadol yr ardal a’i hamrywiaeth o fyd natur. Mae nifer o’i gerddi yn adlewyrchu’r cariad a deimlai tuag at ei fro enedigol yn nyffryn Wysg.

Ei lysenw oedd Alarch Wysg

Yn 1646 cyhoeddodd gasgliad bychan o’i gerddi oedd yn dangos dylanwad cryf George Herbert arno, bardd a oedd yn enwog am ei gerddi crefyddol. Roedd pwyslais ar grefydd nodweddiadol o gyfnod oedd yn llawn newidiadau enfawr ym myd gwleidyddiaeth a chrefydd, mae dathlu’r byd ysbrydol a chrefydd yn elfen fawr o waith Henry Vaughan.

Bu farw yn 1695 a’i gladdu yn eglwys Llansantffraid gan ddenu pererinion llenyddol at ei fedd.

Mae taith gerdded 4km yn cychwyn o Dalybont-ar-Wysg ac yn parhau trwy’r fro lle bu yntau hefyd yn crwydro, ac arnhyd y daith cewch ddarllen pytiau o’i gerddi:

‘Tis day, my crystal Usk; now the sad night

Resigns her place as tenant to the light.

See the amazed mists begin to fly

And the victorious sun hath got the sky.

How shall I recompense thy streams, that keep

Me and my soul awakened when others sleep’?

Detholiad o ‘On the River Usk’, a gyhoeddwyd yn ei draethawd hermetig Anima Magica Abscondita (1650)

Sut i ail-greu’r chwedl hon:

Mae llwybr cerdded Henry Vaughan yn cychwyn o gamlas Mynwy ac Aberhonddu, dilynwch yr arwyddion sy’n dangos alarch gwyn. I lawrlwytho’r map ewch i:

www.talybontonusk.com
www.breconbeacons.org

Mae’r eglwys ar agor ac yn croesawu ymwelwyr ar yr adegau canlynol: 10am-4pm ar y pedwerydd Sul o’r mis o Fai hyd at ddiwedd Medi

Darllen pellach:

  • Henry Vaughan, Selected Poems – Anne Cluysenaar ISBN0-281-05542-4
  • Henry Vaughan and the Usk Valley – golygwyd gan Elizabeth Siberry & Robert Wilcher – ISBN-978-1-910839-02-7

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf