Skip to main content

Fi a’r ferch wen

Fi a’r ferch wen

Oes yna ysbryd?

Oes yna ysbryd? Mae’n dibynnu’n llwyr ar bwy sy’n holi. Os wyt ti’n coelio mewn ysbrydion – nac oes, dydyn nhw ddim yn bodoli, rho dy ffydd mewn gwyddoniaeth a thystiolaeth yr hipi. Ond os wyt ti yn rhywun rhesymegol, fel fi, mi alla’i ddweud fy mod i, efallai, wedi gweld rhywbeth. Pwy a ŵyr?

Dwi yma ers dwy flynedd bellach. Mae’n debygol mai fi gymerodd dy bres di ar y ffordd i mewn. Tasa ti wedi bod yn gleniach mi faswn i wedi cyflwyno fy hun. Wedi dweud hynny, efallai ’mod i adref yr eiliad yma. Neu ar fy nghinio. Efallai ’mod i’n eillio. Gwell i ni beidio â chwrdd yn ffurfiol. Dwi’n hoff o gynnal haenen o broffesiynoldeb.

Fel arfer does na neb yn dweud rhyw lawer wrtha’i, dim ond sibrwd sawl tocyn a dweud diolch yn dawel. Mae’n waith braf ar y cyfan. Ond mae yna ddau gwestiwn byddai’n glywed yn aml, y cyntaf yw “ble mae’r caffi?”

Does dim caffi

Does dim caffi. Dwi ddim yn deall pam fod pobl yn synnu cymaint o ganfod nad ydynt o fewn hanner can metr i degell. Wrth gwrs mae gen i degell yma. Dan y cownter, ond allwn i byth. Chewch chi ddim. Iechyd a diogelwch. Weithiau mi ddaw llond bws o blant ysgol yma i ddringo dros y muriau ac i brofi sut beth fyddai i fod yn blant bach annifyr yn y bymthegfed ganrif yn ogystal â’r presennol, ac weithiau mi fydda’i yn clywed lleisiau bychan yr athrawon yn ymbil am gael dweud eu darlith, gan addo gwario ffortiwn mewn siocled poeth ond iddynt dawelu am ddigon hir i’w derbyn. Maen nhw’n dod ata i ychydig wedyn ac yn gofyn “ble mae’r caffi?”

Mae gen i sgript ar gyfer yr achlysuron yma: “peidiwch â sôn, ydi o wedi dianc eto? Mi oedd o yma brynhawn ddoe, pryd gwelsoch chi o ddiwethaf? Mi fydd y pennaeth yn siŵr o’m poenydio yn y dwnsiwn pan glywith fod y tŷ te wedi dianc yn ystod fy ngwylfa i!” Anaml y bydd yr athrawon yn gwenu. Dwi’n teimlo weithiau nad ydw i’n cael fy ngwerthfawrogi yma, ond dro arall dwi’n teimlo fel fy mod i’n llwyddo i leddfu ychydig ar eu gwewyr.

Yr ail beth mae’r ymwelwyr yn holi yw “sgiws mi, pa ystafell sydd orau i weld yr ysbryd?”

Dwi’n tueddu i fyrfyfyrio fwy ar yr achlysuron yma gan fod y testun yn cynnig cryn dipyn o ryddid i’r dychymyg. Dwi hyd yn oed wedi ystyried argraffu amserlenni, fel prop bychan i fy mherfformiadau, ac i sbarduno’r llif creadigol fel petai. 9:00yb-10:00yb yn y llofft fawr, ond tydi hi ddim yn hoff o weld neb cyn deg ar benwythnosau. 10:00yb-12:00yh yng nghornel isaf yr ardd, wrth y geraniums, ac wedyn cinio yn yr oriel. Mae’r prynhawniau’n ddibynnol ar y tymor. Sboncen yn yr haf, tidliwincs yn y gaeaf. Mi fydd yn y Brittania Inn erbyn chwech fel rheol, ac yn baglu dros ei gŵn wrth gyrraedd nôl am ddeuddeg. Mi fyddai’n poeni amdani
weithiau.

Un prynhawn poeth

Dwi’n cofio rhyw brynhawn poeth pan oeddwn yn eistedd yn fy ngorsaf yn ceisio rhoi siwgr yn fy nhe heb daro’r llwy yn erbyn ymyl gwpan (doeddwn ddim am i’r ymwelwyr glywed). Ymddangosodd ffigwr yn ffenestr fy nghwt. Roedd ganddi acen Birmingham, yma ar ei gwyliau ac wedi dod i holi am yr ysbryd. Mi wrandawodd ar fy mherfformiad yn amyneddgar gan roi cymeradwyaeth deg ar y diwedd. Roedd ganddi lygaid brown tywyll, ac er mwyn cael treulio ychydig funudau ychwanegol yn ei chwmni ffugiais anwybodaeth am unrhyw ysbryd yn Nhre-tŵr. Dwi’n actor penigamp.

“Ti’n gwybod”, meddai. “Merch wen Tre-tŵr”. Codais f ’ysgwyddau, heb glywed dim amdani. “Ysbryd Margaret Vaughan,” parhaodd “sy’n syllu tua Chas-gwent yn disgwyl am byth i’w gŵr ddychwelyd”.

“Disgwyl Richard Vaughan aie?” atebais innau, “i ffwrdd yng Nghas-gwent, yr hen gi drain iddo.”

“Na, na!” chwarddodd. “Mi gafodd ei ddienyddio gan Jasper Tudur. Dyna pam ei bod yn disgwyl amdano!”

“Oo! Y Margaret Vaughan yna!” atebais innau. “Fel arfer tua’r adeg yma o’r dydd mae hi i’w chael yn y neuadd fawr yn gwau capiau pig i’r rafins lleol. I lawr y cyntedd ac ar y dde. Ond efallai byddai’n well disgwyl chwe munud iddi symud i’r oriel. Mae’r golau’n well yno ar gyfer camerâu”. Cynigiais baned iddi’n llechwraidd ond gwrthododd gan ddweud ei bod am fynd i gael golwg ar y llys, ac i ffwrdd â hi. Addewais i ofyn am ei rhif ffôn unwaith y byddai’n dychwelyd.

Pan ddaeth hi’n ôl holais am yr ysbryd, doedd hi heb weld dim, a holais am ei rhif ffôn, ac mi chwarddodd a’i ysgrifennu ar gefn taflen i mi. Dywedodd mai Keeley oedd ei henw hi, ond dwi’n tybio mai celwydd oedd hynny. Erbyn i mi wrthod rhoi ad-daliad iddi am ddiffyg ysbrydion a’i brysio allan o’r llys roedd hi’n tynnu am bedwar o’r gloch. Amser cau.

Amser cau

Dydw i ddim yn meindio amser cau, er ei fod yn gallu bod ychydig yn od. Mae sŵn y gwenoliaid yn y bondo a’r arogl llwch a hen bren yn gallu teimlo fymryn yn fythol weithiau, a fyddai rhywun ddim yn synnu o droi cornel a gweld dynes mewn het wirion yn canu’r delyn neu rywun yn rhostio baedd neu rywbeth felly. Ta waeth, y prynhawn hwnnw mi es o gwmpas yr adeilad fel arfer i weld nad oedd unrhyw un ar ôl, ac wrth daro ’mhen i mewn i’r solar mi welais i hi. Roedd hi’n sefyll yno mewn gwisg wen. Yn gwneud dim byd ond sefyll yno. Roeddwn wedi teimlo’r ias wrth nesáu at yr ystafell wedi meddwl, ond heb feddwl mai hi oedd yno. Safai yno yn wynebu’r ffenestr, ond mi welais ychydig o’i hwyneb. Roedd hi’n hardd, oedd, yn ei hen ddillad. Doedden nhw ddim yn flêr na dim byd, dim ond yn hen, hen. A gwyn. Ddywedais i ddim byd. Roedd yr anadl wedi rhewi yn fy ngwddf. Wnes i ddim hyd yn oed gallu cau’r drws. Roeddwn i’n gwybod rhywsut nad oedd hi’n mynd i wneud unrhyw niwed i mi, doeddwn i ddim ei hofn hi fel petai, roedd hi’n rhy drist rhywsut. Ond mi oeddwn i’n deall yn iawn fy mod i’n gweld ysbryd, ac roeddwn fymryn yn anesmwyth â hynny. Unwaith y ces reolaeth ar fy nghoesau mi droais ar fy sawdl a mynd fel y gwynt.

Wnes i ddim stopio rhedeg nes cyrraedd bar y Brit, a wnaeth fy nhafod ddim dechrau toddi nes i’r trydydd peint lithro lawr fy nghorn gwddf. Unwaith y des yn ôl at fy nghoed penderfynais yrru neges i Keeley i ddweud yr hanes wrthi, ond wnaeth hi erioed ateb. Mi ystyriais beidio â mynd yn ôl i’r gwaith drannoeth, neu o leiaf ofyn am godiad cyflog, ond wnes i byth. Yr unig beth sydd wedi newid ydy fy mod yn gwneud yn saff na fyddai byth yn y llys ar fy mhen fy hun y dyddiau yma. Dw i’n gadael yr adeilad ac yn cloi fel mae’r ymwelwyr diwethaf yn mynd. Fydda’i byth yno ar fy mhen fy hun. Er nad ydw i’n coelio mewn ysbrydion. Er i mi ei gweld hi.

Fi a’r Ferch Wen

Dilynwch ôl troed Margaret a Roger Vaughan trwy ymweld â llys Tre-tŵr a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Edrychwch dros y muriau a cheisio dyfalu ei meddwl, ewch am dro trwy’r ardd berlysiau neu eistedd wrth y ffynnon ddŵr. Ac wrth grwydro’r llysbyn dychmygu’r math o fywyd a gafwyd yno, efallai cewch chi gip arni hi!

Beth am ymweld ag Eglwys Gadeiriol Aberhonddu? Cewch weld enwau’r saethwyr Cymreig a frwydrodd yn Agincourt, yn ogystal â’r maen hogi ar gyfer eu saethau. Mae yno hefyd gofebion pren a gwydr lliw i sawl teulu blaenllaw a frwydrodd yn enw’r Brenin.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:
www.cadw.gov.wales
www.castleswales.com
www.breconbeacons.org
http://www.breconcathedral.org.uk/httpwwwbreconcathedralorgukhistory/agincourt/

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf