Skip to main content

Y dwylo sy’n fy nharo i gyntaf

Y dwylo sy’n fy nharo i gyntaf

Y dwylo sy’n fy nharo i gyntaf, mi fydda’i wastad yn edrych ar y dwylo. Y rhai main a’u bysedd hirion dwi’n hoffi. Roedd ganddo fo rai eithaf gosgeiddig chwarae teg, o ystyried mai ffermwr oedd o, a’i ewinedd o’n lân hefyd. Mi o’n i’n gwybod o’r cychwyn am ei dymer o, a’r ychydig o goch y tu ôl i’w lygaid, ond dyna ni, nid dyna’r tro cyntaf. Fues i erioed yn wych am ddewis. Efallai fy mod i’n cael fy nenu at y rhai efo’r mwyaf o fywyd ynddynt, mae’r gweddill mor llywaeth pan fyddwn ni’n cwrdd. Llygaid bach yn sbïo ar fy nhraed. Bysedd main yn plethu tu ôl i’w cefnau. Dwi eisiau eu gweld nhw! Dwi’n meddwl mai dyna pam ’mod i mor wael am ddewis, does gen i ddim amynedd! A dwi wastad yn meddwl y bydda i’n gallu eu newid nhw rhywsut. Ha! Byth. Bydd pob un yn torri’i air yn y pen draw, a dwi byth am briodi eto! Wnes i gyfrif ychydig yn ôl, sawl un oedd i gyd, a chyrraedd 53 fel ateb. 53! Dwi ddim mor ddel â hynny!

Ond roedd yr un diwetha’ yn ddel. Gwallt tywyll, a’r coch yna yn ei lygaid. Wnaeth o ymddangos yn fy mywyd mwyaf sydyn, ac o fewn pum munud o siarad mi wnaeth o’r un fath a phob un arall - ti’n anhygoel, dwi erioed di cwrdd â neb fel ti o’r blaen, be am briodi, go iawn, gawn ni redeg i ffwrdd. Hynny i gyd. Ond mi o’n i’n hoff ohono fo. Mi ddaeth at y llyn bob diwrnod am ychydig wythnosau wedyn i siarad am serch a chariad a rhamant...

Mi wnes i ildio yn y pendraw, wrth gwrs, fel pob tro arall! Ond mi rois i’r amodau iddo’n ddigon eglur, na chaiff o byth godi pen ei fys yn f’erbyn. Os bydd o byth yn fy nghyffwrdd i’n ddiserch mi fyddai’n diflannu am byth. Allwn i ddim bod yn fwy eglur, ac mi rois i’r cyfle iddo newid ei feddwl, i ailystyried, ond mi gytunodd o. Wrth gwrs ei fod o wedi. Roeddwn i’n ei freichiau am oriau’r prynhawn hwnnw, ac roedd hynny’n braf.

Sut gwnaethoch chi gwrdd?

Sut gwnaethoch chi gwrdd? Ond dwi newydd ddweud wrthyt ti! Yr un ffordd ag arfer. Rhywbeth o’r dŵr ydw i ynte - tylwyth teg, nymff, beth bynnag hoffi di. Ac mi ddaeth o draw at y llyn rhyw brynhawn poeth efo’i holl ddefaid ond heb ei grys. Roedd hi’n ddiwrnod mor braf, mis Gorffennaf, a llawr y llyn yn olau am unwaith. Roedd y dŵr bron â bod yn gynnes y diwrnod hwnnw hefyd. Bron â bod, ond ddim go iawn. Dyw Llyn y Fan Fach byth yn cynhesu. Ta waeth, roedd hi’n ddiwrnod poeth ac yno’r oedd o heb ei grys yn gorffwys wrth y lan. Mi fues i’n edrych arno fo am ychydig, yn astudio’i wedd a’i osgo a’i ddwylo. Roedd o’n edrych yn hyfryd felly mi ddes allan o’r dŵr a mynd i eistedd wrth ei ymyl. Dyna fo, hawdd! Gweithio bob tro, 53 gwaith yn olynol!

Un tro daeth ’na ddyn i fyny at y llyn efo’i gariad i gampio dros nos, a’r bore wedyn tra’i bod hi’n dal i gysgu mi ddaeth lawr at y lan i ymolchi. Mi godais i fy mhen i ddweud helo a’r peth nesaf roeddwn i yn ei freichiau. Mi ges i gusan fach gan hwnnw, yn y golau gwan, ond dwi ddim am boeni am hynny, nid fi oedd yn mynd y tu ôl i gefn rhywun nage?

Bues i’n cusanu’r rhai hyll weithiau hefyd

Bues i’n cusanu’r rhai hyll weithiau hefyd, y rhai fyddai byth wedi bachu rhywun fel fi fel arfer. Dw i’m yn brolio siŵr, mae angen bod yn onest! Mi fydda nhw wedi dweud yr un fath hefyd, wrth iddynt eistedd yno a’u tafodau’n llac. Methu credu’r peth! Mi wnânt gofio hynny am byth hefyd, ac mi fydda i’n cael boddhad o gynnig rhywbeth i’w bywydau bach nhw. Mae’n deimlad braf. Ac weithiau, pan fydd rhywun yn gwyro tuag ata’i, a finnau ddim yn or-hoff ohonynt, mi fyddai’n dewis ei bod hi’n haws gadael iddyn nhw yn hytrach na dweud “na” a chodi cywilydd arnynt - mae’n llai o drafferth.

Ond doedd hi ddim felly efo fo. Mi fu’r ddau ohonom yn dal dwylo am hir, ac wedyn mi fues i’n gorwedd yn ei freichiau o. Roedd hynny’n braf, dyna’r teimlad gorau. Mi wnaeth o addo ’ngharu i, a ’mharchu i, ac yn y pen draw mi wnes i gytuno. Gwnaf.

Mi oeddwn wastad wedi bod eisiau plant

Mi oeddwn wastad wedi bod eisiau plant, ac roedd ein plant ni mor annwyl nes i mi ymgolli’n llwyr yn eu bywydau nhw. Gwyn y gwêl medda nhw ond alla i ddim dychmygu sut wnes i greu pethau bach mor fendigedig. Mae’r tri’n ddoctoriaid erbyn hyn. Mae’n od meddwl y byddent yn hŷn na fi ymhen ychydig. Ond pan maen nhw’n fach, dyna pryd dwi’n eu hoffi fwyaf. Efo’u dwylo bach, bach. Mi fyddwn i’n cael mwy, os gwna’i gyfarfod y person iawn. Ond wna’i ddim priodi eto, wnes i ddysgu fy ngwers y tro diwethaf. Maen nhw i gyd yn torri’r addewid yn y pen draw, boed ar ôl ychydig wythnosau neu ychydig ddegawdau, mae’n digwydd yn ddi-ffael gyda digon o amser. A does ’na ddim ffasiwn beth â dyn perffaith nagoes?

Mi o’n i’n tybio weithiau fy mod wedi ffeindio rhywbeth oedd yn agos at berffaith pan oeddwn i efo fo, ond mi dorrodd yntau’r addewid yn y pen draw – nid yw cariad ar ei ben ei hun yn ddigon, mae gofyn cael parch yn gymar iddo. Ac mi oeddwn i wedi gweld ei fod am ddigwydd fisoedd cyn iddo fo wneud - mi es â ni at therapydd a phopeth i geisio atal y peth, yn ofer wrth gwrs.

Wrthi’n cyrraedd adre o’r gwaith oedd o y tro cyntaf. Mi ddywedais i y byddai’n ddyn llwyddiannus ac mi drodd yn un, fy mhriodi i oedd y peth gorau wnaeth o erioed. Dyn busnes mwyaf sydyn, prynu a gwerthu, hynny i gyd. Diflas braidd, ond roedd o’n talu’r biliau ac ychydig mwy dros ben. Tŷ crand, gwyliau tramor deirgwaith y flwyddyn, y plant mewn ysgolion da, roedd popeth yn iawn. Ond mi ddechreuodd ei afael o lacio, aeth y llwyddiant yn drech arno ac mi ddechreuodd ddiogi. Daeth adre ar ôl cyfarfod yn y gwaith, rhyw gytundeb wedi troi’n sur a’r pres wedi’i golli, ac mi ddywedais i’r peth anghywir dyna pryd ces i hi. Slap hyd fy moch. Ddim rhy galed. Mi wnes i ddweud wrtho yn y fan a’r lle y byddwn i’n gadael os byddai’n gwneud eto. Mwy o therapi iddo fo wedyn, i geisio datrys ei broblemau o, y tymer, beth bynnag.

Mi helpodd y therapi hefyd, roedd yr holl gamau bach yn gwneud gwahaniaethau bychan i’n bywyd ni. Roedd o’n llwyddiannus, yn dad da i’r plant, ac yn fy nghadw i’n hapus, yn ddigon hapus. Ond efallai ei fod o heb wneud digon, neu ddim eisiau newid, neu fod yr ymdrech wedi bod yn ormod, dwi ddim yn gwybod

Yr ail dro roedd y ddau ohonom ni mewn tŷ ffrind yn cael swper, a wnes i ddweud wrtho am fynd i grafu. Mi roddodd slap i’n nhîn i, ac wedyn ceisio dweud mai jôc oedd o. Mi welodd fy wyneb a difaru yn syth. Mi olchodd fy nhraed yn y gawod y noson honno, yn cydio’n fy nghoesau ac yn ymbil arna’i i aros.

Yr ellyll sy’n rhan ohonof

Roedd yr ellyll sy’n rhan ohonof yn gandryll. Roeddwn i’n crynu, yn ysu am gael gwneud rhywbeth. Yr un rhan ohonof i sy’n hoff o chwalu perthnasau pobl, fel gyda’r gwersyllwr na flynyddoedd yn ôl, roedd y rhan honno yn ysu am gael torri rhywbeth. Ond wnes i ddim. Wnes i ddim byd.

Ychydig flynyddoedd wedyn mi wnaeth yr un peth. Am ddim byd bron, rhyw ffrae bitw. Roeddwn i’n gwrando ar fiwsig yn uchel yn y tŷ, yn dawnsio. Duran Duran. Roedd eich byd chi’n le da i fod yr adeg honno. Mi o’n i’n hoff o’r 90au hefyd, Kym Mazelle. Mi dorrodd fy nghalon pan ddigwyddodd o y tro diwethaf, i orfod gadael y byd lliwgar hwnnw am lyn!

A gorfod gadael y plant hefyd, er na wnes i erioed eu gadael nhw’n llwyr. Dwi’n dal yn eu gweld nhw o dro i dro. Maen nhw’n dal i holi lle dwi’n byw.

Mi ddechreuodd o grio

Mi ddechreuodd o grio, ond roeddwn i’n gandryll. Roedd o’n deall y telerau, yn gwybod y pris, a wnaeth hynny ddim ei atal rhag gwneud. Y peth digrif oedd bod y gath, y ci, y ceffylau, a hyd yn oed y brogaod yn y llyn wedi fy nilyn i wrth i mi adael. Roedd hi’n dipyn o olygfa! Roedd rhaid i mi fynd â’r ceffylau yn ôl liw nos, ar ôl i bethau dawelu, a’r ci a’r gath hefyd. Mi gafodd y brogaod aros efo fi yng nghysgod y mynydd. Mi gollodd o’r tŷ yn y pen draw, a’r pres i gyd, a gorfod symud yn ôl i dŷ ei fam. Roedd y plant i gyd, tri ohonynt, yn y brifysgol yn astudio meddygaeth ar y pryd. Wnaeth o byth ail-briodi, ac mae’n dechrau mynd yn hen erbyn hyn. Dwi ddim yn ei gasáu o. Mae o’n caru’r plant ac maen nhw’n ei garu o. Mae’r holl sefyllfa ychydig yn drist yn fwy na dim. Dyw pobl ddim yn newid yn y pen draw, ddim mewn unrhyw ffordd alli di reoli.

Hei, ti’n gweld y dyn ’na draw’n fanna? Crys gwyn, gwallt tywyll? Mae o wedi bod yn edrych draw ychydig bach yn rhy aml. Ddim arna’i. Chdi, wir i ti. Yndi tad, mae o’n ddigon... ond ddim fy nheip i ychwaith. Ei ddwylo o... ti’n gwybod sut un ydw i. Gwylia, mae’n dod draw!

Chdi sy’n siarad, iawn? Os bydd o’n holi mae gen i gariad.

Horatio Clare 2017

Sut i ail-greu’r chwedl

Mae rhywbeth arbennig ynghylch Llyn y Fan Fach yng nghysgod y Mynydd Du, rhywbeth y gallwch deimlo, ond o fod yno.

Gallwch ddewis rhwng y llwybr byr 5km uwchben y llyn, neu roi cynnig ar y llwybr cylchol o 13km. Am fapiau ewch i:

www.discovercarmarthenshire.com

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf