Skip to main content

Un tro yn Nyffryn Gwy

Un tro yn Nyffryn Gwy

Doedd y dyweddïad ddim yn un cyffredin, ddim o gwbl, ac roedd gan John rhyw ddawn gyda geiriau. Y diwrnod hwnnw roedden ni’n dau wrthi’n cerdded ar hyd glannau’r afon Gwy, tra bod y gwanwyn yn dechrau estyn ei grib trwy’r tir o’n cwmpas. Yn fuan wedi i ni adael pentref Llyswen gwelais furiau plasty yn codi o lawr y dyffryn o’n blaenau. “Dacw Gastell Llangoed,” meddai John gan gyfeirio tuag ato, “sydd ym meddiant Edward Williams ar y funud, ond myfi fydd y perchennog yn fuan, ac yno byddwn ni’n dau yn byw. Fyddai hynny yn eich plesio, Mari?” Chwarddais innau cyn ateb, “byddai, ar bob cyfrif John, ond ai priodas dawel yn y plwy bydd hi neu ddianc dros y ffin i Gretna Green?” Roedd o’n gwestiwn teilwng gan fod John wedi bod yn creu tipyn o stŵr yn Llundain yn ddiweddar, rhyw ffrwgwd gyda rhyw dorf yng nghwmni’r Prif Weinidog. Pur anaml byddai ei enw ddim yn gymysg â chlecs y brifddinas a dweud y gwir, roedd yn dipyn o gymeriad, ond y diwrnod hwnnw bu’n gymharol dawel i’w safonau o. Edrychodd arna i’n daer a disgyn ar ei liniau o fy mlaen.

“Mari,” dywedodd, “mi weli o’th flaen un o bechaduriaid mawr y byd. Prin iawn wyf o flaen y pulpud, rwyf i’m cael yn amlach o beth cythraul yn y tai potes. Mae geiriau’r gweddïau symlaf yn ddieithr i fy ngwefusau i ac anaml bydd unrhyw un yn buddio o fy nghwmni. Rwyf wedi adnabod sawl merch, 37 ohonynt oll, ac yn eu plith gellir cyfrif gwragedd, gwyryfon, dwy chwaer ac un lleian – y mae godineb hyd fy nghroen fel staen. Croesais gleddau a’m cyfoedion wyth gwaith i gyd, gan ennill pob gornest a gadael craith ar bob un ohonynt – weithiau i dalu wynebwerth, ond yn amlach ond i fwydo fy malchder. Nid oes math o wirod trwy’r holl wlad sydd heb groesi fy ngwefus, ac yn fy niod rwyf wedi dinistrio sawl gwesty, tafarndai di-ri, ac un siop.

Nid yw gair Duw yn gyfarwydd

Nid yw gair Duw yn gyfarwydd ond rwyf yn adnabod llyfr lluniau’r Diafol yn rhy dda, a thrwy hynny llwyddais ennill fy ffortiwn trwy chwarae cardiau. Mae gen i dir, fel y gwyddost, fy stad yn Lloegr draw ac ar ben hynny fy muddsoddiadau dramor. Rwyf yn ŵr cefnog, all neb wadu hynny, gan dyfu’n gyfoethocach bob dydd. O fewn pedair blynedd byddaf wedi ennill digon i brynu’r plasty draw ddwywaith pe mynnwn. Er hynny, Mari f’anwylyd, rwyf am ildio’r cyfan i chi – ond i chi ddewis ei gymryd. Ni ofynnaf i chi faddau fy mhechodau, seren syw, dim ond fy nerbyn fel ag yr wyf. Os llwyddwch chi wneud hynny mi dyngaf lw i beidio â throi at unrhyw ferch arall tra byddaf fyw, i beidio â chodi’r cledd byth eto, i roi’r gorau i frwydro yn y stryd, i roi diwedd i slotian mewn tai potes, byth eto i fentro fy ffortiwn ar y cardiau, ni wnaf unrhyw beth ond byw ar eich cyfer, a bod yn ŵr teilwng i chi, yn dad teilwng i’n plant, ac eich anrhydeddu â phob anadl a ddaw o’m corff. Nid oes un grym ar wyneb daear sy’n gryfach na fy nghariad i tuag atoch, Mari.

Yn dy ddwylo mi weli fy mywyd

Yn dy ddwylo mi weli fy mywyd oll, a’m gobeithion pob un, eu tynged yn llwyr ddibynnol ar yr ateb nesaf. Allwch chi fy ngharu i, Mari, a’m priodi i? Oes modd i chi fyw yn fy nghwmni hyd oni wahanir ni gan angau, chithau i’r nef a finnau islaw? Os ddim rwyf yn deall yn iawn, ac yn derbyn, ond i chi wybod na ddaw’r gwanwyn byth eto i fy nghalon i. Unwaith eto, a wnewch chi fy mhriodi i, Mari?” Dw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw ferch wedi gallu ei wrthod yn yr eiliad honno, cymaint oedd ei angerdd. Mae yna sŵn penodol i’r Gwir, ac ar lannau’r Gwy’r diwrnod hwnnw mi glywais i’r Gwir. Doedd fy nhad ddim yn fodlon, am resymau amlwg, felly bu rhaid i ni aros iddo huno cyn iddo gael gosod y fodrwy am fy mys. Pedair blynedd yn ddiweddarach roedd gennym bedwar o blant ac yn byw yn y plas yn y dyffryn. Doedd neb arall wedi credu bod natur John wedi newid, ac efallai na wnaeth o, ond newidiwyd y ffordd yr oedd yn mynegi ei natur o leiaf . Yn hytrach na’r cledd daeth y gyfraith yn arf iddo, a bu’n llwyddiannus iawn yn ei faes. Wedi’r briodas ni fentrodd ei bres ar gêm o hap byth eto, ac er y byddai’n parhau i yfed weithiau, ni yfodd ei hun y tu hwnt i ffiniau parchusrwydd byth wedyn. Doedd dim mwy o buteiniaid, dim mwy o wragedd, gwyryfon, na lleianod ychwaith. Ond un flwyddyn daeth un o’r rhai a fu yn ei freichiau flynyddoedd ynghynt yn ôl i’w fywyd. Charlotte druan – newydd gael ei hamddifad gan ei gŵr am iddo ddysgu am ei anffyddlondeb – daeth i guro ar ein drws un noson i ymbil am drugaredd. Dangosodd John dosturi, ni allai ei galon newydd ddioddef ei gweld hi yn y fath stad, a gadawodd iddi fyw ar y stad mewn tŷ o’r enw Grwyne Fechan

Roedd o’n fan pellennig

Roedd o’n fan pellennig a bwriad John oedd rhentu neu werthu’r tŷ i ryw ŵr bonheddig, ond wnaeth hynny erioed ddigwydd felly gadawodd i Charlotte fyw yno am ddim. Adeiladodd lôn iddi a phopeth, i hwyluso’r daith ar draws y mynydd. Wrth gwrs doedd hi ddim yn hir nes i dafodau’r fro ddechrau siarad, a’r sibrydion nad oedd y lôn newydd yn ddim byd ond rhodfa i John o’r plasty i’r gwely dirgel yng Ngrwyne Fechan. ‘Ffordd Macnamara’ yn ôl trigolion y plwyf, ond wnaeth y straeon erioed fy mhoeni i na John.

Dim ond un sgandal a lwyddodd i darfu ar ein hapusrwydd ni’r dyddiau hynny; pan redodd ein merch ni i ffwrdd gydag athro ei brawd. Bu hwnnw’n gyfnod anhapus iawn i John, lle dwynwyd ei holl hapusrwydd. Bu rhaid i mi ei gysuro am hir yr adeg honno, ei ddarbwyllo a’i atgoffa o’i hanes ef ei hun, dweud wrtho sut un oedd yntau yn nwyf ei ieuenctid, yn y dyddiau cyn iddo gael ei achub. Deallodd yn y diwedd mai ei waed o oedd yng ngwythiennau’r ferch, ac y byddai hithau hefyd yn canfod ei hachubiaeth un dydd. “Macnamara ydy hithau hefyd,” dywedais wrtho, nes i mi weld gwên ar ei wefus unwaith eto.

Heblaw am y sgandal hwnnw

Heblaw am y sgandal hwnnw, bu John yn fodlon iawn o’i ddogn mewn bywyd. Tua’r diwedd daeth dyn ifanc i’n gweld ni gyda’r bwriad o ysgrifennu cofiant – cyfrol na welodd olau dydd yn y pen draw – ac rwy’n cofio’r llanc yn holi John os oedd unrhyw gyfrinach i’w lwyddiant. Ateb John oedd: “Fy enw, dyna’r gyfrinach! O glywed am John Macnamara a’i ddawn gyda’r cledd byddai fy ngelynion yn ildio cyn codi arf. O glywed nad oeddwn yn hidio dim am golli ffortiwn byddai’r chwaraewyr yn gollwng eu cardiau cyn hyd yn oed edrych arnynt. Yn y llysoedd byddai fy ngwrthwynebwyr yn cilio ond o glywed sibrydion am f’enw yn atseinio hyd y coridorau. F’enw, dyna’r gyfrinach. Ac ni fydd marwolaeth yn ei bylu ychwaith – cewch weld – pan ddaw’r amser i mi ymadael bydd f’enw yn ymestyn ac yn cryfhau, nes yn y pen draw byddaf yn cael fy nghyfrif ymysg y gwŷr cyfoethocaf, y gwylltaf, a’r gorau a droediodd diroedd Prydain erioed. Ond i chi fy ngosod mewn bedd teilwng, y mwyaf yng Nghymru, fy hoff gi a’n hoff geffyl wrth fy ochr, a f’enw yn fawr ar y marmor.” Trodd yr hen ŵr ata’i a rhoi winc, cyn ein hebrwng ni’n ôl tua’r plas.

Horatio Clare 2016

Illustrations - Jane Matthews

Sut i ail-greu’r chwedl:

FFORDD MACNAMARA

Mae’r daith gerdded yn cychwyn o BENGENFFORDD ar yr A479 rhwng Crughywel a Thalgarth. Mae’n llwybr mynydd ym mhob ystyr o’r gair, yn enwedig wrth ddewis y daith hiraf. Mae rhan sylweddol o’r daith ar hyd crib agored oddeutu 600-700 metr uwch lefel y môr, a byddwch angen bod mewn cyflwr corfforol eithaf da cyn ei mentro.

Bydd hefyd angen sgiliau darllen map da ynghyd â dillad ac esgidiau addas.

Os ydych yn ansicr cyn cychwyn y daith gofynnwch am gyngor.

PELLTER: Llwybr byr = 22km yno ac yn ôl.

Llwybr hir = 28km.

NEWID UCHDER: Llwybr Byr = 500m.

Llwybr Hir = 650m.

MAN CYCHWYN = SO174496 ar fapiau OS.

(Explorer OL13 neu Landranger 161).

Cymysgedd o lwybrau da a llwybrau mwdlyd, gyda rhai gelltydd hir. Mae rhannau o’r daith yn serth a chreigiog. Dylai grwpiau ystwyth adael 6 awr (byr) neu 8 awr (hir) i’w chwblhau. Dylid parcio ceir yn y maes parcio yn nhafarn y Dragon’s Back Inn (a adnabyddir fel y Castle Inn hefyd) ar ochr ddwyreiniol y brif ffordd trwy Pengenffordd (ar y dde wrth deithio o Grughywel). Mae’r perchennog yn codi ffi am barcio yma, mae blwch talu yn y maes parcio.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf