Skip to main content

Y Gwŷr yn yr Ogof

Y Gwŷr yn yr Ogof

Fi oedd yr ieuengaf

Fi oedd yr ieuengaf bryd hynny ac roedd gen i dueddiad i sefyll yn y cefn yn ystod cyfarfodydd. ’Doedd gen i ddim llawer o brofiad o gymharu â’r gweddill, a chan fod gen i fawr ddim i’w gynnig i’r sgwrs doeddwn i ddim wastad yn gwrando’n astud ychwaith. Unwaith byddai’r cyfarfodydd ar ben byddwn i’n gofyn i un o’r lleill ddweud wrtha’i beth i’w wneud. Nid f ’ewythr wrth gwrs, fyddwn i byth yn gofyn dim iddo fo, roeddwn ei ofn o braidd. Byddai llygaid pob gŵr yn pwyso’n drwm arno wrth iddo siarad, roedd o’n ddyn pwysig. Na, fyddwn i byth yn dweud dim, aros yn dawel oeddwn i yn ystod y cyfarfodydd hynny. Ar y diwedd wrth i ni gyd gael ein gwydraid bach mi fyddwn i’n troi at Cai neu Osla neu rywun felly ac yn gofyn “felly, beth rŵan?”

Os byddwn i’n sownd go iawn mi fyddwn i’n gofyn i Gwrhyr, roedd o’n sicr o ddeall. Gwrhyr oedd yn medru pob iaith – fo aeth i siarad efo’r holl hen anifeiliaid yn ystod y busnes yna efo Culhwch a’i wraig flynyddoedd yn ôl. Fo hefyd aeth ar lun aderyn i ymddiddan â’r twrch. Chafodd o ddim chwarae teg gan y Ffrancwyr, pan gafodd f ’ewythr ei ystumio gan y gweisg a’i werthu i bawb. Doedd enw Gwrhyr ddim i’w weld yn unlle’r adeg hynny, er gwaethaf ei ffyddlondeb i f ’ewythr, er gwaethaf ei dalentau. Wnes i ddim adnabod prin neb yn y llyfrau hynny a dweud y gwir, rwtsh llwyr, nid fod hynny wedi effeithio dim ar y gwerthiant. Wnaeth na neb erioed fy holi i am lofnod ychwaith, does gan neb ddiddordeb yn yr enwau cywir, na’r cefndir, na’r diwylliant. Dim ond y straeon sy’n bwysig erbyn hyn hyd y gwn i.

Ond maen nhw’n straeon da rhaid i mi gyfaddef, efallai’n well fyth gyda mymryn o lastig ynddynt. Er na wnes i erioed ddeall y busnes gyda’r Greal, ‘dw i ddim yn cofio hynny o gwbl. Wnes i erioed ddeall sut y trodd f ’ewythr yn eicon i’w elynion ychwaith, ond dyna ni, mae’n rhyfedd o fyd erbyn hyn. Mi welais y newid, gormod ohono, ac mi dalais bris drud am hynny- rwyf yn hen yn awr a bron yn fusgrell. Bu hi bron a bod fel arall, roeddwn bron a throi’n fythol fel y gweddill, ond wnaeth hynny ddim digwydd.
Dw i’n cofio’n diwrnod – roedd hi’n ddiwedd cyfarfod a f ’ewythr newydd lenwi ein gwydrau oll a finnau heb wrando gair. “Myui ysyd dyuysawc ych”, dywedodd, mal bop tro – maddeuwch i mi, mae’r iaith yn rhydlyd erbyn hyn – ac wedi i ni gyd wagio’r gwydr troais at Gwrhyr a gofyn “felly, be nesaf?” Ond roedd golwg druenus arno fo ac ar bawb arall hefyd. “Dyma’r diwedd felly,” atebodd, a wnes i ddim deall.

I chi mae’r diolch

“Rydym ni gyd am gael egwyl,” dywedodd wedyn.
“Am ba hyd?” gofynnais.
“Duw a ŵyr, gall fod yn fil o flynyddoedd.”
“Gwych,” atebais innau, ymddeoliad cynnar! Dim mwy o frwydro, dim mwy o waed.
“Nid yn union,” atebodd yntau wedyn. Roedd rhaid i ni gyd ddisgwyl, pob un ohonom, nes bod y byd ein hangen ni eto. Roeddem ni gyd am orfod cysgu, mewn rhyw ogof sanctaidd yn y gorllewin a ddyfarnwyd yn addas gan Myrddin neu Gwydion neu ryw ŵr doeth arall. A dyna baratoi am y daith, a ffarwelio, a dyna daith od oedd y daith honno.

Erbyn i ni gychwyn roedd yr hanes wedi lledaenu hyd y wlad, daeth pob un i sefyll ar ymyl ein llwybr i ddymuno’n dda ac i fendithio ac i ffarwelio. Cawsom flodau, bwyd, gwin, a medd bob cam o’r daith gan bob un, boed daeog neu dywysog. Roedd pob un am fanteisio ar y cyfle i gael un cip olaf ar yr arwr olaf. Efallai bod ychydig o lastig yn y straeon erbyn heddiw, ond, wir yr, mi wnaethom ddigon yr adeg honno i warantu’r ffasiwn driniaeth, i warantu’r holl weddïau. Roedd pob un ohonom wedi aberthu rhywbeth ar gyfer y bobl yma, wedi rhoi’n bywydau iddynt gyda gwên. Os mai’r aberth nesaf oedd yr hirgwsg, yna roedd y bobl yma’n deilwng ohono. A doedd y syniad o hirgwsg ddim yn wrthun i mi’r eiliad honno – yn fy ieuenctid roeddwn yn hoff iawn o fy ngwely. Yn fy henaint erbyn hyn rwyf yn lwcus o gael dwy awr bob nos cyn i ’nghorff ddeffro.

Doedd Osla ddim yn hapus iawn ar y pryd dwi’n cofio, ond un byrbwyll fuodd o erioed – byddai mis oddi ar faes y gad yn peri iddo wingo. Ceisiais godi ei galon trwy sôn am y dyfodol. Pan fyddwn i’n deffro, dywedais, mi wna’i adrodd hanes fy holl freuddwydion heb hepgor yr un manylyn, os gwnei dithau’r un fath i mi! Mi ges wên ganddo’r adeg honno, ond dywedodd na fyddai amser am straeon wedi i ni ddeffro gan y bydd y frwydr olaf ar gychwyn, ond efallai cawn ni gyfle i drafod breuddwydion wedyn, ar ôl y frwydr olaf.

Erbyn cyrraedd pen y daith roedd pob un yn dawel ac wedi mynd yn rhy bell trwy’r miri a’r stŵr i allu dal llygaid ein gilydd. Cododd Craig y Ddinas o lawr y dyffryn o’n blaenau, doedd dim i’w glywed ond carnau’r ceffylau’n torri’r barrug wrth nesáu. Llaciwyd pob cyfrwy a’u tynnu dan eiriau tawel, a throdd pob ceffyl yn ôl am y gwyll gyda Llamrei yn eu harwain. Dilynais bawb i’r ogof wedyn, roedd y llawr yn sych o leiaf. Dywedodd f ’ewythr air o ddiolch i ni gyd wrth i ni roi trefn ar ein pecynnau.

I chi mae’r diolch am bob llwyddiant. Bydd ein henwau yn gyfarwydd i bob clust am ddeng mil o flynyddoedd o’ch herwydd, bydd ein hanes ni’n gymysg â’r ynys hon. Os bydd Duw byth yn galw arnom eto i’n deffro, mawr fy ngobaith na ddaw’r dydd, efallai byddwch yn fy anrhydeddu unwaith eto gyda’ch cwmni. Bendith arnoch bob un, frodyr.

Dyna ddywedodd o, ac roedd ’na ambell ddeigryn yng nghornel ambell i lygad wedi iddo orffen. Ynganodd neb yr un gair wedyn, dim ond gosod eu cyfrwyau dan eu pennau a gorwedd yn dawel.

Roeddwn i’n betrus braidd, yn ofnus a dweud y gwir, yn teimlo fel ein bod ni gyd ar fin marw. Llithro i’r tywyllwch mewn rhyw ogof yng nghanol unlle heb neb i’n gweld. Dechreuais aflonyddu ar ôl ychydig, a sŵn fy symud yn llenwi’r ogof, nes i Gwrhyr osod ei law ar fy ysgwydd a dweud wrtha’i ymlacio, mi fydd popeth yn iawn. Yr adeg honno camodd Gwydion o ryw gysgod i’n cyfarch:

Peidiwch â phoeni, meddai, does dim byd i’w ofni yma. Dim byd ond cwsg. Dim byd ond tawelwch. Byddwch yn fy nghlywed yn canu ymhen ychydig, peidiwch â chynhyrfu, bydd y bennod nesaf yn cychwyn yn fuan iawn. Myfi fydd yma geidwad trwy’r hirnos, ac ni ddaw’r un hunllef i gyffry hedd trwmgwsg tra byddaf yma. Myfi ydyw meistr y dydd a’r nos yn ogystal. Roeddwn i’n gallu gweld siâp ei gorff yng ngheg yr ogof yn ddu yn erbyn yr awyr dywyll, a siâp ei wiail fedw’n symud rhwng ei fysedd hirion. Myfi ydyw’r porthor, meddai, a dechreuodd ganu yn dawel, ei fysedd hirion yn ymestyn tua’r to. Clywais anadl pob un yn arafu, ond wna f ’un i ddim. Gwelais y cyrff o ’nghwmpas yn plygu i mewn i’w cwsg, ond nid f ’un i. Canodd llais Gwydion trwy’r cyfan, ei gysgod yn symud hyd y graig, y neidio yma a thraw, ei ben fel gafr a’i wialen rhwng mil o fysedd main. Ond wnaeth fy nghorff ddim ildio iddo, allwn i ddim meddwl am unrhyw beth heblaw am fy angladd, i’r tir yma ymysg dynion dwywaith fy oed. Fi oedd yr ieuengaf, roedd cymaint o fy mywyd eto i’w fyw – allwn i ddim ildio’r cyfan yma. Dechreuais aflonyddu eto, ac ymestyn fy nghyhyrau, teimlais lygaid Gwydion arnaf, a llaw Gwrhyr ar f ’ysgwydd unwaith eto. Dechreuais godi ond tynhaodd gafael Gwrhyr a fy nhynnu i lawr. Clywais ambell i un arall yn dechrau codi i weld beth oedd yn digwydd a meddyliais mai dyma fy nghyfle olaf. Codais ar fy nhraed gan rwygo fy hun o afael Gwrhyr ac ymbalfalu tua cheg yr ogof. Ond roedd Bedwyr a Cai wedi llwyddo i godi erbyn hynny, a throdd fy llaw tuag at fy nghledd.

Rhwng y ddau ohonyn nhw a Gwrhyr mi ges i grasfa go iawn. Doedden nhw ddim am fy mrifo’n enbyd, ond doedd gen i ddim gobaith o ddianc ychwaith. Roeddwn ar fy ngliniau o fewn hanner munud, ’nghleddyf ddwylath o’m llaw a llafn Carnwennan yn crafu croen fy ngwddf. Roedd pob un wedi deffro wrth i mi gael fy nghario yn ôl i fy lle a’m clymu. Bu rhaid i Gwydion ailddechrau’r gân, arhosodd yn agos i mi wrth ganu y tro yma, yn gwenu’r hen wên yna oedd ganddo. Clywais ochenaid pob gŵr wrth iddynt ildio i’w blinder, ond roedd fy nghalon i’n parhau i guro fel gordd. Ar ôl ychydig edrychodd

Gwydion arna’i gan osod blaen ei fys ar fy mron. Dechreuodd fy nghalon dawelu ychydig a theimlais fy llygaid yn rowlio’n ôl.

Wedyn, dihunais

Wedyn, dihunais, roedd hi dal yn dywyll. Gwelais rimyn o goch hyd geg yr ogof, rhyw awgrym o’r machlud yn llenwi’r lle, a’r golau’n ddigon i mi allu gweld ychydig o’m cwmpas. Doedd neb arall wedi deffro, pob un arall yn drwm dan gwrlid o lwch. Roeddwn innau’n llwyd gan lwch hefyd, a’r rhaffau a fu amdana’i wedi pydru, roedd y baw’n drwch hyd fy nwylo. Codais yn ara’ deg gan glywed fy nghymalau’n gwichian, a dychryn cannoedd o bryfed mân o’r fan lle bûm yn gorwedd. Roedd wyneb fy mrodyr fel marmor, wyddwn i ddim ers faint y bûm yn cysgu.

Doedd dim golwg o Gwydion yn unman ond safai carreg enfawr lle bu’r agoriad, wedi’i gosod yno gan ei ledrith mae’n debyg. Roedd hi’n drwm, yn rhy drwm i’w symud, ac er bod rhimyn bychan o olau yn ei hamlinellu doedd dim lle i wthio llafn trwy’r bwlch heb sôn am gorff. Gwthiais yn ei herbyn am gryn amser heb iddi ildio modfedd i mi. Bu rhaid i mi dyllu am oriau yn y diwedd er mwyn dianc, gan ddifetha sawl cledd a sawl helm wrth wneud. Wnes i ddim defnyddio’r rhai enwog, feiddiwn i ddim cyffwrdd ambell lafn, mae ambell beth dal yn sanctaidd i mi. Pan ddechreuodd yr aer oer godi o’r twll tynnais fy arfwisg a diosg fy arfau a’m dillad nes bod dim byd ar ôl amdana’i. Yna dechreuais wthio’n hun trwy’r twll, trwy’r pridd, yno’n gwingo’n araf trwy’r ddaear tuag at y golau.

Y peth cyntaf a welais oedd draig

Y peth cyntaf a welais oedd draig, sawl milltir uwch fy mhen ac yn gadael dau rimyn tenau o fwg y tu ôl iddi. Dwi’n deall yn awr beth oedd hi ond cefais dipyn o fraw ar y pryd, doeddwn i erioed wedi gweld draig o’r blaen! A dw i’n cofio galaru’r coed coll, yr holl goed a gerais yn fy ieuenctid. Roedd y byd yn newydd eto, a hyd yn oed golau’r wawr yn ddieithr i mi’r bore hwnnw. Mi es yn bwyllog trwy’r byd, yn estyn i gyffwrdd popeth rhag iddynt ddiflannu. Yn yr afon wrth i mi olchi’r baw oddi arnaf ystyriais ddychwelyd i’r ogof i geisio adennill y cwsg, i fynd yn ôl at fy mrodyr a’m tywysog. Ond wrth wylio’r llwch yn llifo oddi arna’i tua’r môr gwelais fod fy nghorff dal yn ifanc, a theimlais fy nghalon yn galw am sŵn dŵr a chân aderyn. Roedd hynny tua hanner can mlynedd yn ôl, rwyf yn hen erbyn hyn.

Horatio Clare 2016

Sur i Ail-greu'r Chwedl:

Cerdded at Graig Dinas.

Gall y daith gerdded yma fod ychydig yn heriol ond mae’n cynnig golygfeydd godidog. Mae’n cychwyn o bentref PENDERYN, ar yr A4059 rhwng Hirwaun ac Aberhonddu.

PELLTER: Llwybr Cyffredin = 10km yno ac yn ôl. Llwybr y Rhaeadr = 11km.

NEWID UCHDER: Llwybr Arferol = 350 metr. Llwybr y Rhaeadr = 400 metr.

MAN CYCHWYN: SN944090 ar fapiau OS (Explorer OL12 neu Landranger 160)

Bydd y daith ar lwybrau cerdded da ynghyd â rhai mwdlyd, ac yn cynnwys rhai elltydd sylweddol. Gall ambell i ran dyfu
ychydig yn wyllt yn ystod yr haf. Gadewch 3½ awr (arferol) neu 4 awr (rhaeadr) i gwblhau’r daith.
Dylid gadael ceir ar ochr y lôn sy’n arwain o’r brif ffordd (A4059) ar ochr ogleddol Penderyn. Os ydych yn teithio o’r Gogledd trwy Aberhonddu, hwn fydd y troad cyntaf i’r dde ar ôl mynd heibio i arwydd Penderyn; os ydych yn teithio o’r De trwy Hirwaun yna bydd y troad ar y chwith yn fuan ar ôl yr arwyddion 40mya sydd ym mhen pellaf y pentref, oddeutu 250m
heibio i dafarn y Lamb Inn ac ar y chwith. Fel arfer mae digonedd o le i barcio cyn cyrraedd yr arwydd 30mya.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf