Skip to main content

Longo a’r Siampên

Longo a’r Siampên

Roedd o’n benderfyniad ofnadwy

Roedd o’n benderfyniad ofnadwy – wyt ti eisiau gweithio i soprano enwocaf y byd? Y seren ddisglair sy’n llwncdestun yn Llundain, yn Efrog Newydd, ym Milano, yn enwog am ei llais gogoneddus, ei pherfformiadau o flaen brenhinoedd a breninesau, am ei chyfoeth – wyddost ti ei bod hi’n arfer mynnu gwerth pum mil o ddoleri mewn aur cyn hyd yn oed camu ar lwyfan? – yn enwog am garwriaethau a godinebau, am ei thriniaeth deg o bob unigolyn, boed farwn neu forwyn, mae hi’n gyflogwraig heb ei hail, wyt ti am weithio iddi, Longo? Wyt ti? Si! Certo! Ac wyt ti am fyw yng Nghymru? Beth? Ble? Na, na, nid y wlad honno! Dio carne, y tro cyntaf y gwelais Gymru yr oedd hi’n ofnadwy! Dim byd ond pyllau glo a chymoedd tywyll, rhyw bobl fyr yn sefyll yn y glaw, allwn ni ddim eu deall nhw! A’r bwyd! Y bwyd gwaethaf a gefais erioed, mi fyddai cŵn yr Eidal yn troi eu trwynau. Dim byd ond niwl a mwg a thân o’r ffwrneisi trwy’r nos a thrwy’r dydd, fel cegin y Diafol, yr holl wlad felly. ‘Dyma uffern, rwyf wedi dod i fyw yn Uffern,’ meddyliais.

Ond wrth gyrraedd yr orsaf, yr orsaf oedd ond yno am ei bod hi yno, ar y lôn oedd ond yno am ei bod hi yno, mae Signora Adelina Patti y gantores enwocaf yn y byd yn dod i’m cyfarch fel petai hi’n dod i gyfarch Dug. Daw hi yn ei holl wychder at yr orsaf i groesawu Longo Giacomo, y bwtler newydd, i gastell Craig-y-Nos. Bu’n benderfyniad da yn y pen draw. Mi all bywyd bwtler fod yn fywyd arbennig mewn tŷ godidog, os yw’ch meistres yn hael a chlên a thalentog ac yn deall harddwch bywyd yn ei holl ogoniant. Ac roedd yr holl rinweddau hyn ym meddiant Signora Adelina o’r eiliad y ganwyd hi, ym Madrid yn 1843. Daeth ei holl osgo, y gras a’r tân, yn etifeddiaeth gan Sbaen, ond Eidalwyr oedd ei rhieni, ei mam yn Prima Donna a’i thad yn denor o Sicilia.

Bu’n canu yn Efrog Newydd yn wyth oed

Bu hi’n canu yn Efrog Newydd yn wyth oed, ei thaith gyntaf – $20,000, goeliwch chi?
Wedyn mae hi’n canu o flaen y Frenhines Victoria, yn llenwi Covent Garden, yn concro Ewrop gyfan, yn priodi twpsyn o Ffrainc – Henri, Marquis de Caux, sy’n gallu arogli pres.

Mae ganddo ferched eraill, ac mae gan hithau lu o ddynion eraill, maen nhw’n ysgaru, mae hi’n canu Aida ac yn disgyn mewn cariad â Ernesto Nicolini, gŵr bonheddig, tenor o Ffrainc sy’n canu rhan Ramades. Ni fu erioed berfformiadau mor danllyd yn ôl pob sôn! Mae o’n briod, ond dim ots am hynny, mae’r sêr yn cael byw eu bywydau’n wahanol i ni. Maent yn cael caru fel cawodydd glaw, weithiau’r ffordd yma, weithiau’r ffordd draw. Mae’r ddau yn teithio hyd Ewrop â’i gilydd, a does dim tocynnau ar gael yn unrhyw le. Mae Verdi ei hun yn dweud na fu cantores cystal erioed, na fu neb erioed mor berffaith. Mae hynny’n wir. Hi sydd biau’r holl fyd, ac am ei bod hi’n artist ac yn wyllt mae hi’n cael y chwilen yn ei phen i fyw yng Nghymru! Ac mae Signor Ernesto eisiau pysgota a saethu yn y wlad! Felly mae hi’n prynu Craig-y-Nos ac mae hi’n adeiladu’r Ardd Aeaf, y tŷ adar, y llynnoedd newydd, y tŵr, y stablau, y coetsiws, yr adain newydd a’i ddeuddeg llofft, yr ystafelloedd newid, y capel a’i wydr lliwgar, ystafell y generator sy’n goleuo’r plas, y gasometer, a pheiriant sy’n gallu creu tunnell o rew. Mae hi’n adeiladu wyth ystafell wely newydd i’r gweision! Ystafelloedd mawr hyfryd, ac maen nhw’n hardd.

Ac wedyn mae hi’n adeiladu’r theatr!

Ac wedyn mae hi’n adeiladu’r theatr! Mae’r theatr yn anhygoel. Glas a gwyn ac aur, fel breuddwyd. Gallwch godi’r holl lwyfan a’r holl gadeiriau. Mae lle i gant a hanner o westeion.

Gall fod yn neuadd ddawns neu’n dŷ opera. Y gwaith celf, y ffris, y melfed, a’r golau – gall gyfareddu dyn. Ac yn y gerddi mae fy ffrind Con Hibbert yn gwneuthur gwyrthiau! Mae’n tyfu melon, tomato, coleus, hyn oll ym myd llwyd Cymru! Mae yna winllan ble mae’r gwinwydd 100 troedfedd o hyd, mae’r grawnwin muscat yn tyfu mor drwchus nes bod rhaid gwasgu yn erbyn y mur i fynd heibio! Daw coed enfawr o bell i’w plannu ym meysydd y castell, pinwydd tal, am fod Signora Adelina’n gwybod fod yr arogl yn fudd i’r llais. Un arall o dalentau Signora Adelina yw’r gallu i ganfod yr artistiaid gorau ym mhob maes, mae Con Hibbert yn un ohonynt. Daeth hi o hyd i un arall, Adamo Adami, yn Nulyn. Mae o’n dod o Stresa, Eidalwr fel fi, mae hi’n hoff o gyflogi Eidalwyr am ein bod ni’n rhannu’r un llygaid a’r un galon â hi. Bu Adamo’n gweithio yn Nice cyn i Signora Adelina ddod i fwyta yn y Sackfield Hotel yn Nulyn. Roedd hi wedi blasu bwyd y cogyddion gorau hyd a lled y byd, ond pan mae hi’n blasu bwyd Adamo mae hi’n gofyn am gyfarfod, fel petai hi’n cwrdd â thywysog yn ôl Adamo, ac wedyn daeth o i fyw yn Craig-y-Nos.

Daeth oes y dathlu

Ar ôl hynny daeth oes y dathlu. Y parti cyntaf oedd priodas Signora Adelina a Signor Ernesto. Efallai bod priodasau tebyg wedi bod yn Efrog Newydd neu Roma, ond erioed yng Nghymru! Dan wydr yr Ardd Aeaf maent yn cael gwledd enfawr, ac yn y neuadd fawr mae gwledd arall i’r gweision a’r gweithwyr a’r bobl leol! Allwch chi ddychmygu? Tunelli o lysiau a chig a bara, a throl ar ôl trol o gasgenni cwrw. Daeth llythyrau cain o bob cwr, gan Dywysog Cymru, Brenhines Gwlad Belg, Brenhines România, dugiaid a dugesau a bancwyr. Roedd hyn yn 1886. Yn 1891, unwaith yr oedd yr holl waith ar y castell a’r theatr wedi’i orffen, mae hi’n cynnal dathliad i agor y theatr ac mae’n barti mwy na’r briodas. Y trenau’n dod yn ddi-stop trwy’r dydd - trwy’r dydd! Trenau arbennig i gario’r holl westeion. Arglwyddi, marchogion, marcwisiaid, ieirll, cantorion opera, gohebwyr o Efrog Newydd, Roma, Paris, Hafana. Pob un yn eu harddwisgoedd ysblennydd. Ond pan ddaw Signora Adelina i’r llwyfan yn ei satin pinc a’i diemwntau, cymaint o ddiemwntau, mae’n amlwg mai dim ond un seren sydd, un fydd yn disgleirio trwy hanes. Mae hi a Signor Ernesto yn canu Act 1 o La Traviata ac Act 3 o Faust. Mae pob gwas a morwyn yn gwrando o gefn y llwyfan.

Y noson honno clywsom gerddoriaeth Duw

Y noson honno clywsom gerddoriaeth Duw, roedd fel petai’r ysbryd glân yn rhedeg trwy’i llais. Wna’i fyth anghofio. Yfwyd 450 potel o siampên yn sych, ond roedd fel dŵr o gymharu â’r llais godidog yna. Bu rhai o berfformiadau mawr yr oes yn y theatr fach yn y blynyddoedd ddaeth i ganlyn, heulwen yn y wlad wlyb hon. Roedd Signora Adelina wastad yn dweud y dylid creu celf gain waeth lle’r ydych chi, a’i wneud ar gyfer y lle hwnnw. Pan nad oedd gwesteion yn y castell roeddem hyd yn oed yn cael ambell i ddathliad ein hunain, hithau’n canu ac yn dawnsio gyda’r gweision – y gweision! Ar ôl ychydig byddai hi’n dweud ‘Pop the corks, Longo!’, ac mi fyddwn ni i gyd yn cael gwydraid o siampên neu bort, yn union fel y byddai Tywysog Sweden neu Henry o Battenberg yn ei gael pan fyddent yn ymweld. Doedd hi’n malio dim am deitlau, dim ond am bobl. A phan aeth hi ymlaen i’r byd nesaf mi adawodd ei llais ar yr holl recordiau, a’n hatgofion ni, a’r castell hwn, Craig-y-Nos, ar ôl fel bo Cymru’n cofio amdani.

Horatio Clare 2016

Sut i ail-greu'r chwedl hon

Mae cartref Adelina Patti yng Nghymru, Craig-y-Nos, mewn perchnogaeth breifat ac yn cael ei redeg fel gwesty a lleoliad priodasau. Mae ei theatr hi yn dal i fodoli, ac er nad oes teithiau ffurfiol o amgylch y tŷ mae modd trefnu taith anffurfiol trwy gysylltu â’r rhif 01639 730725 cyn ymweld, er mwyn sicrhau bod aelod o’r staff ar gael i agor y theatr.
www.craigynoscastle.com

Erbyn hyn mae gerddi Adelina Patti yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Parc Gwledig Craig-y-Nos yn agored i’r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn. Gallwch grwydro hyd 40 acer o erddi, gyda chaffi a chyfleusterau a nifer o siopau gan grefftwyr ac artistiaid lleol mae’n lleoliad gwych am ddiwrnod gyda’r teulu. Codir ffi am barcio ac mae croeso i gŵn ond iddynt gael eu cadw ar dennyn.
www.breconbeacons.org/craig-y-noscountry-park

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf