Skip to main content

PROFIADAU’R MACHLUD BYTHGOFIADWY

PROFIADAU’R MACHLUD BYTHGOFIADWY

Mae yn gynnar gyda’r nos yn adeg hudolus o’r dydd. Wrth i’r haul ddiflannu dros y gorwel, gall harddwch yr awyr gyfnewidiol gyfleu rhyfeddod a thawelwch. Dewch i’r parc i gael profiad o’r gwyll dros olygfeydd ysblennydd o fynyddoedd,dyffrynnoedd a llynnoedd llonyd do o esyria. Trochwch ein hunan mewn natur wrth i’r awyr droi’n lâs tywyll a phob diwrnod yn dod i ben gyda phrofiad bythgofiadwy o’r machlud.

Mae yna gymaint o gefndiroedd rhyfeddol yn ein parc sy’n cynnig rhai o’r machludoedd mwyaf dramatig y gallwch eu gweld unrhyw leyn y byd. Rydyn ni wedi dewis dim ond rhai i’chysbrydoli chi i ddod a caros, a chreu atgofio na fydd yn parhau am oes.

 

Dilynwch yr haul i orllewin y parc ac yno mae Cronfa Ddŵr Wysg, mewn lle gwych, diarffordd, hyfryd i weld yr haul yn machlud dros goedwig a rhostir. Mae’r rhan fwyaf o gopaon y Mynyddoedd Duon i’w gweld o ymyl y dŵr ac mae’n lle gwych i dynnu lluniau.

Cerddwch yr argae 480 metr o led neu ewch am dro ar hyd y glannau a boddi eich hun yn synau natur wrth i’r dydd ddirwyn i ben. Mae maes parcio’r gronfa ddŵr yn lle hyfryd i fwynhau picnic wrth wylio’r haul yn machlud.

Mae Cronfa Ddŵr Wysg yn dal yn un o’r lleoedd gorau i bysgota am frithyll brown, gyda phlu, troellwr neu bry genwair. Mae’n hawdd mynd yno hefyd, ar y ffordd o Drecastell.

Mae cymaint i’w weld ac i’w wneud ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda digonedd o leoedd i aros, ewch at www.breconbeacons.org/cy

Pysgod di-ri i’w dal

Sunset at Usk Reservoir

Mae yna leoedd gwych i bysgota, gêm a bras, ar y myrdd o afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr a chamlesi sydd ym Mannau Brycheiniog. Gyda phenllwyd torri record ar afon Gwy, rhai o’r pysgodfeydd brithyll brown gorau yng ngwledydd Prydain ar afon Wysg a dyrnaid o gronfeydd dŵr a llynnoedd wedi’u stocio’n dda, pysgota yw yn o’r gweithgareddau hamdden mwyaf poblogaidd yn ein parc.

Mae’n rhaid i chi gael trwydded i bysgota gyda gwialen yng Nghymru.

I GANFOD RHAGOR

www.breconbeacons.org/things-to-do/activities/pysgota

 


Busnesau Lleol

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf