Skip to main content

Ymweld Bannau Brycheiniog 2021

Cynllyniwch Cyn Chwarae

Ymweld Bannau Brycheiniog 2021

Welsh code of conduct infographic

Parciwch yn y parth

Mae meysydd parcio'n gallu bod yn hynod brysur ar hyn o bryd, felly hwyluswch eich diwrnod drwy ganfod y maes parcio mwyaf addas ar ein rhestr o feysydd parcio.
Mae rhai o'r mannau mwyaf poblogaidd yn gallu bod yn llawn at y glannau erbyn 9-10am ar benwythnosau, felly cofiwch gynllunio ymlaen llaw.

Bydd llawer o’n meysydd parcio Talu ac Arddangos angen arian mân gan nad yw'n bosibl talu â cherdyn mewn rhai.  Gall parcio blêr ar fin y ffordd, mewn pentrefi neu ar draws mynedfeydd atal criwiau‘r gwasanaethau brys, felly cadwch at fannau parcio swyddogol bob tro.  Mae llawer o’r mannau hyn yn cael eu patrolio a rhybuddion talu cosb yn cael eu cyflwyno erbyn hyn.

Firepit image

Dim barbeciws na thannau gwersyll

Ni chaniateir barbeciws, tannau gwersyll na fflamau agored eraill yn y cefn gwlad agored yn unman yn y Parc Cenedlaethol.  Gall canlyniadau tannau fod yn arswydus, a mae dirwyon yn cael eu codi mewn rhai ardaloedd.  Y ffordd orau o osgoi problemau yw gadael y barbeciw gartref. Mae picnic yn wych, ond cofiwch glirio ar ôl eich gwledd!

Am adre

Mae’n rhaid cael caniatâd y tirfeddiannwr i ‘wersylla’n wyllt’ (unrhyw le y tu allan i safleoedd gwersylla swyddogol) a dyw’r mwyafrif o dirfeddianwyr ym Mannau Brycheiniog ddim yn ei ganiatáu.  Nid yw gwersylla gwyllt yn cael ei ganiatáu ar dir Awdurdod y Parc Cenedlaethol chwaith.

Peidiwch â bod yn sbwriel o ymwelydd.

Ewch â phopeth rydych chi’n dod gyda chi adre gyda chi.  Gall sbwriel yn hawdd gynnau tân neu niweidio bywyd gwyllt ac mae’n difetha’r diwrnod i bawb arall.  Os na allwch chi, bagiwch e a biniwch e.

Dishgled, golygfa ond efallai dim toiled.

Mae ychydig o doiledau cyhoeddus yn dal ar gau oherwydd Covid-19 ond peidiwch â defnyddio natur fel toiled.

Parchwch y rheolau

Dim ond dechrau ail agor y mae llawer o siopau yn ein trefi a’n pentrefi, yn aml gyda llai o wasanaeth neu tecawê yn unig – parchwch ein busnesau lleol a dilynwch eu canllawiau a’u harwyddion.

Ar y llwybr

///what3words – gwybodaeth lleoliad mewn argyfwng

Er ein bod yn argymell paratoi'n drylwyr bob amser gyda map neu wybodaeth glir am y llwybrau pan fyddwch yn crwydro Bannau Brycheiniog, weithiau gallwch fynd ar goll mewn ardal anghyfarwydd.
Gall y system what3words eich helpu mewn argyfwng pan fyddwch angen help ar frys.

Unwaith y byddwch wedi gosod yr ap ar eich ffôn cyn cychwyn ar eich taith, os bydd gofyn, bydd yn cynhyrchu tri gair unigryw i chi eu trosglwyddo i’r gwasanaethau brys i ddangos yn union ble’r ydych chi.

what3words.com/how-to-use-the-what3words-app

 

Pam na alla i ganfod bin sbwriel neu faw ci?

Yn wahanol i drefi a dinasoedd, ychydig o finiau welwch chi mewn cefn gwlad agored.  Ar ben y trafferthion o’u gwagio mewn mannau anghysbell, maen nhw hefyd yn tynnu oddi wrth nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol.

Ond mae ysbwriel yn lladd ein bywyd gwyllt...

Rhowch gyfle i natur ac ewch â’ch sbwriel a’ch baw ci adref.  Cariwch allan beth ydych chi’n ei gario i mewn.

Mae yna rai bagiau gwastraff baw cŵn ar gael i’w prynu sy’n parhau am flynyddoedd – gallwch gario baw eich ci'n ddiogel heb i’r arogl ddifetha’r daith.


Uchafbwyntiau


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf