Skip to main content

Arwyddion gwanwyn y Bannau Brycheiniog

Arwyddion gwanwyn y Bannau Brycheiniog

Mae’r gwanwyn wedi hen gyrraedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Mae ein blodau gwyllt wedi agor, y coed yn blaguro a’r adar yn brysur yn adeiladu eu nythod. 

Mae mynd i awyr iach y gwanwyn a chysylltu â natur o les i ni, felly ewch am dro yn y coed, cerdded glannau’r nant neu dim ond mwynhau yn eich gardd gefn a gweld a allwch chi ganfod rhai o’r arwyddion hyn o’r gwanwyn. 

English Bluebell © Liz Lewis
Clychau’r gog © Liz Lewis

Clychau’r gog
Yn hen ffefryn, bydd y tir o dan goetiroedd hynafol y Parc yn gyforiog o glychau’r gog cyn bo hir.  Mae’r blodau pendrwm, lliw’r fioled, yn blodeuo o ganol Ebrill tan ddiwedd Mai.  Gallwch ganfod taith gerdded clychau’r gog lleol i chi yma.

Lesser Celandine

Llygad Ebrill
Mae’n hawdd iawn camgymryd y blodau bychan, lliw melyn llachar, am flodau menyn, ac maen nhw o’r un teulu.  Ond mae Llygad Ebrill yn ymddangos ynghynt na blodau menyn, fel blodau hwyliog y gwanwyn mewn coetiroedd a gwrychoedd ac yn llonni gerddi.  Maen nhw hefyd yn ffynhonnell neithdar a phaill i bryfed peillio sy’n ymddangos yn gynnar.

Wood Anemone
Blodyn y Gwynt

Yn caru’r haul ac ar ffurf seren, mae’r blodyn y gwynt cain hefyd yn aelod o deulu’r blodyn menyn ac yn ffynnu yng ngoleuni a chysgodion coetiroedd hynafol.  Yn blodeuo ymhell i fis Mai, gallwch hefyd weld clystyrau mewn gwrychoedd ac ar ddolydd.

Wild Garlic - Eleanor Greenwood
© Eleanor Greenwood

Garlleg Gwyllt
Byddwch yn clywed ei oglau cyn ei weld!  Mae’r blodyn gwyllt hwn (a’i arogl) ym mhob rhan o’r Parc ac yn ffynnu mewn mannau llaith, cysgodol.  Gyda’i ddail hir, main a’i flodau gwyn cain, cadwch lygad am Garlleg Gwyllt wrth gerdded mewn coetiroedd, ar ochrau ffyrdd neu ar hen lonydd gwyrdd.

Chwiliwch am deithiau cerdded mewn coetiroedd yma.

Y Gog
Ydych chi wedi clywed y gôg eto? Mae’r gôg yn cyrraedd y DU ganol Ebrill ac yn aros tan ddiwedd Mehefin.  Dim ond yn ddigon hir i ddodwy ei wyau mewn nythod adar eraill a gadael ei chywion i gael eu magu gan eu llys-rieni diniwed.  Wrth gerdded ar ymylon coetiroedd a gweundir, gwrandewch am gan gôg gyntaf y gwanwyn.

Great Spotted Woodpecker © Keith Noble
Gnocell Fraith Gwyaf © Keith Noble

Cnocell y Coed
Aderyn swnllyd arall y coetir! Mae sŵn rhythmig cnocell y coed yn curo eu pigau ar foncyffion coed yn diasbedain trwy ein coetiroedd.  Edrychwch yn uchel yn y coed ac efallai y byddwch yn gweld un o dair rhywogaeth; mae’r Gnocell y Coed Fwyaf gyda’i phlu lliwgar, llachar, yn aml i’w gweld mewn cafnau bwyd mewn gerddi.  Du, gwyn a choch yw lliwiau’r ddau rywogaeth arall, y Gnocell Fraith Gwyaf a’r mwyaf cyffredin a’r Gnocell Fraith Leiaf, brinnach a llai, tua maint y Titw Mawr.

Common Frog © Beverley Lewis
Y Broga Cyffredin © Beverley Lewis

 Y Broga Cyffredin
Mae pyllau a llynnoedd Bannau Brycheiniog yn gartref i’r broga cyffredin.  Yn ystod y gwanwyn, mae’r brogaod beinw’n brysur yn dodwy miloedd o wyau, sydd hefyd yn cael eu galw’n grifft.  Nid yw bywyd penbyliad yn hawdd, maen nhw’n fyrbryd blasus i bob math o greaduriaid ac, o’r miloedd o wyau sy’n cael eu dodwy, dim ond ychydig sy’n goroesi i ddod yn oedolion o Frogaod Cyffredin.

Yn eu blodau
Arwydd sicr o’r gwanwyn yw pan fydd y ddraenen ddu, ceirios gwyllt a choed afalau surion yn eu blodau ar draws y Bannau.  Yn ffynhonnell gynnar o neithdar a phaill i bryfed, mae bywyd gwyllt yn cael prydau bwyd a lloches yn ein coedydd a’n gwrychoedd gydol y flwyddyn.

Skylark ©Kev Joynes
Yr Ehedydd ©Kev Joynes

Yr Ehedydd
Wrth gerdded yn yr ucheldir, cadwch lygad am yr ehedydd, adar bychan, brown sydd hefyd yn gantorion o fri ac yn aml yn hofran uwchben i farcio eu cartrefi. Yr adeg hon o’r flwyddyn, maen nhw’n brysur yn adeiladu eu nythod ac yn magu eu cywion, felly gofalwch na fyddwch chi’n amharu arnyn nhw allan yn y cefn gwlad.

Ble bynnag y byddwch chi’n mynd ym Mannau Brycheiniog, cofiwch ofalu am natur:

*Cadwch at y llwybrau troed sydd wedi’u marcio.

*Peidiwch â gadael dim ar eich ôl ac ewch â’ch ysbwriel gartref.

*Gofalwch am natur drwy beidio ag amharu ar fywyd gwyllt na chasglu blodau gwyllt.

*Byddwch yn feistr cyfrifol ar eich ci, cadwch y ci ar dennyn ac ewch â baw eich ci gartref.
(Rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, mae’n rhaid i chi gadw eich ci ar dennyn ar dir mynediad agored, hyd yn oes os nad oes yna dda byw ar y tir.  Mae hyn i gadw adar sy’n nythu ar y ddaear yn ddiogel)

Rhannwch yr hyn rydych chi’n ei weld gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol.  Bydd hyn yn ein helpu i allu gweld ble yn y Parc Cenedlaethol y gallwn ni weithio gydag eraill i’w amddiffyn.

www.bis.org.uk

Gallwch hefyd ddefnyddio Ap LERC Cymru i gofnodi unrhyw rywogaeth wrth i chi grwydro Cymru.

https://www.lercwales.org.uk/app.php


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf