Skip to main content

Yng nghysgod y Mynyddoedd Duon wrth geg dyffryn Afon Rhiangoll saif tref farchnad Talgarth, ond mae llawer mwy i’r dref fechan hon nag yr awgryma ei maint ar yr olwg gyntaf.
Os byddwch yn galw heibio ar eich taith neu os byddwch yn aros yn Nhalgarth ei hun, byddwch yn siŵr o fwynhau ei swyn a’r croeso cynnes sydd yma. Mae wedi bod yn ganolfan masnachu erioed ac roedd yn enwog am ei ffeiriau ceffylau hyd at ddiwedd y G19.
Sut i gyrraedd yno
Edrychwch ar sut i gyrraedd yma am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
Bws: www.travelinecymru.co.uk
Pethau i’w gweld a’u gwneud yno

Cyfle i ymweld â Melin Talgarth sef melin flawd sy’n gweithio ar ynni dŵr ac a gaiff ei rhedeg gan y gymuned, neu i fwyta ac yfed neu brynu cynnyrch yn y becws traddodiadol, neu gymryd rhan yn un o’r llu o weithgareddau sydd ar gael.
Mentro ar hedfan mewn gleider uwchben y wlad hyfryd sy’n amgylchynu Talgarth.
Crwydro ar hyd y llu o lwybrau a ffyrdd troliau sy’n gadael y dref.
Os ydych yn fwy mentrus ac egnïol gallwch ddewis beicio mynydd ar hyd llwybrau yn y cyffiniau a ddewiswyd yn arbennig.
Ewch am dro hamddenol i chwilio am fywyd gwyllt un ai yn y warchodfa natur ar fryn coediog Park Wood neu warchodfa natur Pwll-y-wrach a’i rhaeadr arbennig.
Mynd i Gastell Bronllys, nepell o ganol y dref i gael cipolwg ar y castell ddiddorol yma.
Cofiwch alw yn un o’r siopau neu’r tafarndai yno i brynu cynnyrch lleol a blasu rhywfaint ar y bywyd lleol yr un pryd.
Gallech grwydro i fyny at yr eglwys o’r G14 a gysegrwyd i’r Santes Gwendoline.
Efallai y cewch fwy o wybodaeth am y dref a’r cyffiniau yng Nghanolfan Groeso Talgarth, sydd yn y Tŵr o’r G14 ar sgwâr y dref.
Nid nepell o’r dref mae Trefeca, cymuned grefyddol a sefydlwyd gan Howel Harris, un o sylfaenwyr Methodistiaeth Gymreig ac fe gewch fwy o wybodaeth yn y coleg a’r amgueddfa sydd yno.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf