Skip to main content

TAL-Y-BONT AR WYSG

Boed chi’n chwilio am le i fynd i grwydro yno neu i dreulio’ch amser yn fwy hamddenol, Tal-y-bont ar Wysg yw’r lle delfrydol i chi.
Fel yr awgryma’r enw, saif y Tal-y-bont hwn dafliad carreg yn unig o Afon Wysg yng nghysgod y Bannau Canolog a hefyd ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Mae’r croeso’n gynnes yn y pentref hwn ar lan y gamlas sy’n ymfalchïo yn yr hyn y gall ei gynnig i ymwelwyr.
Sut i gyrraedd yno
Edrychwch ar sut i gyrraedd yma am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
Bws: www.travelinecymru.co.uk
Pethau i’w gweld a’u gwneud yno

 Ewch i feicio ar hyd un o’r nifer o lwybrau sy’n britho Fforest Tal-y-bont, neu ran o Daith Taf neu ar hyd llwybr y gamlas.
Ewch ar droed am y bryniau sy’n gefnlen mor ddramatig i’r pentref.
Ewch i ddarganfod Tramffordd Bryn Oer a’i hanes difyr neu daith gerdded byrrach Henry Vaughan sydd â dyfyniadau o’i gerddi ar fyrddau gwybodaeth.
Anelwch am gronfa ddŵr Tal-y-bont i wylio adar, i bysgota am frithyll neu am dro gweddol rwydd gan basio rhaeadr.
Defnyddiwch y cyfleusterau sydd ym maes parcio Neuadd y Pentref sy’n cynnwys toiledau, lle i olchi beics a chawod.
Does dim rhaid pendroni lle i wneud eich siopa – mae siop y pentref, y Swyddfa Bost a chaffi oll yn yr un adeilad!
Yno cewch wybodaeth hefyd am yr holl bethau sydd i’w gwneud yn yr ardal.
Mae modd i chi fwynhau pryd da o fwyd a diod cyn, neu ar ôl eich antur, yn un o’r tafarndai neu’r caffis cyfeillgar.

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf