Skip to main content

Bysiau a threnau

Hoffem eich helpu i dreulio llai o amser yn y car tra byddwch chi yma. Mae'n haws na feddyliech chi a gall fod yn hwyl, hefyd!

Weithiau mae’r hwyl o fod i ffwrdd yn fwy na dim ond bod yn rhywle gwahanol. Gall fod am gymryd hoe o'r arferol a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Felly hyd yn oed os ydych yn teithio i'n Parc Cenedlaethol yn y car, beth am roi cynnig ar ei adael yn eich llety am ddiwrnod neu fwy a chymryd y cyfle i deithio mewn ffordd wahanol?

Ni fu erioed yn haws (nac yn fwy pwysig) i adael y car. Mae gennym y cwbl - bysiau, trenau, cychod camlas, beiciau a'ch esgidiau! Gallwch grwydro i drefi, pentrefi, atyniadau a mannau o harddwch eithriadol. Dim tagfeydd na mwg, dim talu ac arddangos, dim penderfynu pwy sy’n gyrru – a fydd y byd ddim yr un maint â ffenestr flaen eich car!

Teithio ar y bws lleol

Rhif               Taith                                                                                                                                   
30                           Bryn-mawr - Blaenafon - Pont-y-pŵl - Casnewydd                                                
39                           Aberhonddu - Y Gelli Gandryll - Kingstone - Henffordd                                                   
X75                         Merthyr Tudful - Hirwaun - Glyn-nedd – Castell-nedd - Abertawe                          
T4                           Y Drenewydd - Llandrindod - Aberhonddu - Merthyr Tudful - Caerdydd
X33                         Y Fenni – Pont-y-pŵl - Cwmbrân - Caerdydd
X43                         Aberhonddu - Crucywel - Y Fenni
T6                           Aberhonddu - Ystradgynlais - Castell-nedd – Abertawe

Dengys y rhestr uchod y prif lwybrau bysiau i ac o gwmpas y Parc Cenedlaethol

Mae'r T4 yn teithio o Gaerdydd i'r Drenewydd, gan fynd drwy Fannau Brycheiniog ar ei ffordd. Fe’i hadnabyddir fel y ‘route with a view’
http://youtu.be/ax7sYg-tDPY

Bob dydd Sul a Llun Gŵyl y Banc, mae bws Hay Ho! yn teithio rhwng Y Gelli Gandryll a Henffordd. www.hayhobus.org.uk

Teithio ar y trên

Does dim rheilffyrdd InterCity’n pasio trwy ganol ein Parc Cenedlaethol. Serch hynny, mae dwy brif linell yn gwasanaethu rhai o drefi’r cyrion.

Mae Rheilffordd Calon Cymru yn gwasanaethu Llandeilo a Llanymddyfri ar ochr orllewinol ein Parc, a llinell Caerdydd i Fanceinion yn gwasanaethu Pont-y-pŵl a'r Fenni yn y dwyrain.

Cysylltwch â National Rail Enquiries am amserlenni a phrisiau trenau, (ffôn 08457 484950, www.nationalrail.co.uk).

Cerdded a heicio

Mae llawer o’n llwybrau cerdded a heicio yn gwneud y daith o A i B ar droed gyffrous a phleserus. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n hadran cerdded.

Beicio

Mae rhwydwaith eang o lwybrau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd ar gyfer beicwyr a beicwyr mynydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gallwch ddod â'ch beic i'n Parc ar y trên (efallai y bydd angen i chi drefnu hyn o flaen llaw fodd bynnag, felly gwnewch ymholiadau) neu ar y B1 neu Fws Beic B4 o Dde Cymru.

Nid yw ein gwasanaethau bws lleol arferol yn cario beiciau, ond mae cwmnïau gweithgareddau arbenigol a darparwyr trafnidiaeth yn gwneud hynny .

Mae’n hawdd hefyd llogi beic pan fyddwch wedi cyrraedd yma. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n hadran feicio.

Llogi car trydan

Os hoffech chi deithio o gwmpas ein Parc mewn car, ystyriwch logi car trydan tra byddwch yma.

Mae Rhwydwaith Teithio Eco (ETN) (www.ecotravelnetwork.co.uk) yn llogi fflyd o geir trydan ecogyfeillgar Renault Twizy drwy ychydig o fusnesau twristiaeth yn ein parc. Y gost yw £45 y dydd, gyda chyfraddau gostyngol am gyfnodau rhentu hirach.

Mae ETN hefyd wedi helpu i greu rhwydwaith o bwyntiau gwefru ‘talu wrth fynd’ mewn atyniadau lleol, canolfannau gweithgareddau, llety a llefydd bwyta ac yfed ar hyd a lled ein Park, fel y gallwch wefru dros ginio, yn ystod gweithgaredd prynhawn neu dros nos.

Mae'r Twizy yn gar bach dwy sedd chwim gydag injan dawel sy’n gallu teithio tua 50 milltir cyn ail wefru. Beth am roi cynnig arni?

Llogi cwch drydan neu gwch gul

Mae Beacon Park Day Boats, yn llogi cychod trydan ecogyfeillgar am hanner diwrnod neu ddiwrnod. Am gyfnodau hirach, mae ganddynt ddwy gwch gul drydan sy’n cysgu hyd at bedwar oedolyn ac sy’n teithio hyd at 18 milltir ar un gwefriad.


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf