Skip to main content

Tŵr caerog crwn o’r 13eg ganrif sy’n sefyll ar ben tomen neu feili, ac yn swatio mewn coedwig fechan ger afon Llynfi a phentref Talgarth.
Galwch heibio’r castell twt ond trawiadol hwn, ac rydych chi’n siwr o werthfawrogi pam aeth Richard Fitz Pons, arglwydd Eingl-Normanaidd, ati i godi castell yma yn y lle cyntaf ym 1100. Lleoliad piau hi! Cewch eich atgoffa hefyd am dynged Mahel druan, Iarll Henffordd a gafodd ei ladd – yn ôl dogfennau hanesyddol – gan garreg yn hyrddio drwy’r awyr pan ddifrodwyd y castell gan dân ym 1165.
Sut i gyrraedd yno
I’r de o bentref Bronllys ar yr A479
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans: Map Explorer OL13 SO149347
P : cilfan gyferbyn â’r castell
Bws: www.traveline.cymru
Oriau agor: mynediad am ddim gydol y flwyddyn
Cyfleusterau: pentrefi cyfagos Bronllys a Thalgarth.
Mynediad i ymwelwyr anabl: sawl rhes o risiau serth yn arwain at y tŵr ac i fyny i ben y castell.
Pethau i’w gweld a’u gwneud

dringo’r tri llawr i frig y tŵr uchel 24 metr,
mwynhau’r golygfeydd dros Dalgarth tuag at y Mynyddoedd Duon,
dychmygu’ch hun yn cadw llygad barcud ar y man cyfarfod pwysig hwn rhwng dau   ddyffryn,
crwydro’r ddau feili sydd â chlawdd a ffos yr un.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf