Taith gerdded Chwareli Llangatwg – hanes, diwydiannol a naturiol
Taith gerdded braf yn uchel uwchben Dyffryn Wysg ar hyd hen dramffyrdd y chwarel ac i mewn i Warchodfa Natur Genedlaethol Craig y Cilau. Golygfeydd panoramig o’r Mynydd Du. Mae’r estyniad dewisol yn cynnig archwiliad o ddyffryn crog rhewlifol Cwm Onneu Fach a’r gyforgors ecolegol bwysig yn Waun Ddu.
Gwybodaeth am y daith gerdded:
Gradd: Cymedrol (ddim yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio)
Taith gerdded: 5 1/2 km/ 3 1/2 milltir ynghyd ag estyniad dewisol 1 1/2km (1 milltir)
Esgyniad: 230m (750 troedfedd) ynghyd â 50m (170 troedfedd) ar gyfer estyniad dewisol
Amser: 2 1/2 awr (3 awr gydag estyniad)
Tirwedd: Llwybrau glaswelltog, rhai yn anwastad; rhannau serth; gall fod yn fwdlyd. Dim camfeydd, addas i gŵn ar dennyn, defaid yn pori drwy gydol y daith.
Galwch i mewn i CRiC i gael rhagor o wybodaeth am y llwybr a theithiau cerdded lleol eraill neu chwiliwch am y llwybr llawn yma
Am fwy o deithiau cerdded i Gamlas Môn a Brec ewch yma
Ar gyfer teithiau cerdded yng Nghrucywel ewch yma.