Skip to main content

Mai’n Fis Cerdded: BWLCH WITH SOLITUDE

Ewch ar daith gerdded i brofi BWLCH WITH SOLITUDE fel y gwelwyd ar gyfres ‘Weatherman Walking,’ BBC 1 Cymru.

Mai’n Fis Cerdded: BWLCH WITH SOLITUDE

Gydol Mis Cerdded Cenedlaethol byddwn yn rhannu rhai o hoff deithiau cerdded ein Llysgenhadon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Pwy a ŵyr, efallai daw un yn eich hoff daith gerdded newydd chithau hefyd!

Bwlch with Solitude: Mae’r daith yn cael ei hargymell gan Lysgenhadon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Byncws y Seren (hostel annibynnol) a Glanpant (bwthyn gwyliau) ym Mwlch.

GRADD: Cymedrol ar y cyfan ond mae ambell ran fryniog allai fod yn heriol i rai. Dylid gwisgo esgidiau cerdded a dillad diddos.

CERDDED: Oddeutu 11KM (7 milltir.)

ESGYNIAD: Oddeutu 480m (1,600 troedfedd.)

AMSER: 3-4 awr

TIRWEDD: Isffyrdd, llwybrau ceffyl, llwybrau cerdded, traciau, camfeydd. Gall fod yn fwdlyd. Defaid a cheffylau ar y bryn a da byw yn y caeau. Angen i gŵn gael eu cadw ar dennyn.

PARCIO AR GYFER CEIR / TEITHIO AR FWS:
Parcio cyfyngedig ger Eglwys yr Holl Saint (LD3 7HX) neu The Gate Shop (LD3 7HJ). Parciwch yn gyfrifol.
Neu, fe allwch barcio yn Aberhonddu a dal y bws, sydd yn daith fer i Fwlch. traveline.cymru

ARGYMHELLION AR GYFER LLUNIAETH LLEOL:
New Inn, Bwlch
Ystafelloedd Te Mynydd Du,Cwmdu
The Farmers Arms, Cwmdu

Bwlch With Solitude Map
Bwlch With Solitude

Mae ein hoff daith gerdded yn dechrau ym Myncws y Seren (A) ar yr A40 ym Mwlch. Gallwch ddianc rhag y torfeydd a mynd ar daith gerdded ddymunol trwy dirwedd drawiadol a phentrefi prydferth. Mae yma amrywiaeth o fywyd gwyllt i’w gweld ar lawr gwlad ac yn yr ucheldir a theimlad eich bod yn camu yn ôl mewn amser!

BWLCH WITH SOLITUDE point a
Pwynt A

I ddechrau’r daith, ewch i lawr y bryn (gan adael y New Inn a Byncws y Seren y tu ôl i chi,  pasiwch fynedfa Capel Penuel a throwch i’r chwith i fyny’r lôn nesaf (Ffordd Tremynfa.) Ewch i fyny’r bryn ac mi fydd cyn hir yn gwastadu. Cadwch i fynd nes y byddwch yn croesi grid gwartheg. Cadwch lygad allan am arwydd llwybr ceffylau. Trowch i’r dde ac ewch i lawr y bryn a thrwy gât fetel. Dilynwch y trac gan fod yn ofalus o’r mwd mewn mannau nes y byddwch yn mynd trwy gât fetel arall a fydd yn eich arwain at adeiladau fferm (B).

BWLCH WITH SOLITUDE B-C
Pwynt B – C

Trowch i’r chwith a dilynwch y trac gerllaw’r ysguboriau at gamfa. Wrth i chi barhau i fynd i’r un cyfeiriad, byddwch yn gweld Cwm Rhiangoll a Llys a Chastell Tretŵr. Ewch yn eich blaen ar hyd gaeau, nes i chi gyrraedd gât mochyn a grisiau’n arwain i lawr (C).

Cerddwch i lawr y bryn at gamfa arall, yna’n lletraws ar hyd y cae nesaf tuag at gât yn y berth. Croeswch drac fferm ac ewch drwy’r gât fetel sydd gyferbyn. Cerddwch i lawr ar hyd y cae nesaf gan gadw at ochr y berth sydd ar eich llaw dde. Wrth gât fetel arall, ewch yn syth i lawr y cae a thuag at gamfa gerrig sydd yn y wal (D).

Unwaith y byddwch yn croesi’r gamfa, parhewch i fynd tua’r un cyfeiriad gan gadw at law dde’r weirglodd. Croeswch nant a chamfa arall. Gan gadw pwll bychan ar eich llaw chwith, croeswch y gamfa nesaf a’r nant a byddwch yn cyrraedd cae mwy o faint. Parhewch i gerdded i lawr y bryn tuag at gât bren. Cerddwch dros bont bren, fechan a chroeswch y cae nesaf tuag at gât/camfa wrth gyffordd ar y ffordd. Dilynwch y lôn i’r un cyfeiriad tuag at bentrefan Felindre â’i fythynnod gwynion (E).

BWLCH WTH SOLITUDE
Pont groesi yn E

Wrth i chi gyrraedd y bythynnod, trowch i’r dde dros bont garreg a cherddwch i fyny’r lôn. Sylwch ar yr hen ysgol ar eich llaw dde a’r plac ac arno enw Thomas Price ‘Carnhuanawc’ – ymgyrchydd brwd dros Gymru a’r Gymraeg. Wedi i chi gyrraedd y gyffordd T, cymrwch ofal wrth groesi ffordd brysur yr A479 at gamfa ar ochr arall y ffordd. Parhewch tua’r un cyfeiriad, ar hyd y llwybr sydd yn mynd â chi i fyny’r bryn trwy Faes Carafanio a Gwersylla Cwmdu hyd nes y dewch at lôn. Trowch i’r chwith a dilynwch y lôn hyd nes y dewch at Eglwys Mihangel Sant a’r Angylion (F). Cymerwch amser i edrych o gwmpas y fynwent lle y dewch o hyd i garreg fedd, Gradd II rhestredig Thomas Price a maen hir hynafol y gosododd e yn wal yr Eglwys.

Ystafelloedd Te Mynydd Du

Yn ôl wrth gât yr Eglwys, trowch i’r dde ac yna ewch i lawr y bryn at The Farmers Arms (tafarn wych sydd â gardd gwrw dda!) a rhan brysur arall o’r A479 (mae hefyd yn werth i chi drïo Ystafelloedd Te y Mynydd Du (trowch i’r chwith ar hyd y briffordd!) O’r Farmers Arms, croeswch a cherddwch i lawr y lôn sydd gyferbyn. Wedi’r bont, edrychwch am gât fetel ac arwydd pren amlwg yn eich cyfeirio at Ffordd y Bannau, llwybr hir y byddwch yn ei ddilyn am weddill eich taith. Croeswch y cae at gamfa sydd yn y gornel bellaf. Unwaith y byddwch wedi croesi’r gamfa, trowch i’r dde a chadwch at ochr y berth nes y byddwch yn cyrraedd gât fetel. Trowch i’r dde a dilynwch y lôn hyd nes y dewch at ei therfyn ger hen ffermdy (G) .

BWLCH WITH SOLITUDE - joining the Beacons Way
Ymuno â Ffordd y Bannau rhwng pwyntiau F a G.

Ar eich llaw chwith, byddwch yn gweld llethr werdd sydd yn arwain at gamfa. Croeswch y gamfa a pharhewch i fyny, gan gadw i’r dde wedi i chi gyrraedd trac porfa, llydan. Dilynwch y trac hwn i fyny’r bryn hyd nes y bydd yn gwastadu ac mi ddewch at bentwr unigryw o gerrig wrth ymyl croesffordd (H).

Trowch i’r chwith a dilynwch y trac porfa, lydan a’r wal sydd ar eich llaw dde am 3km dda yn ôl i Fwlch. Mwynhewch y golygfeydd panoramig o Fynydd Du, Bannau Brycheiniog a Llyn Llan-gors. Pan welwch bentref Bwlch, dilynwch lwybr ac ôl traul arno i lawr at gât fetel ger y tŷ cyntaf. Parhewch i lawr y bryn ar hyd ffordd breifat, anwastad hyd nes y dewch at lôn. Trowch i’r dde, yna i’r chwith a pharhewch ar hyd Ffordd y Bannau ar hyd trac gerrig sydd yn arwain i lawr at Gapel Penuel. Ewch trwy’r gât mochyn a dilynwch y llwybr trwy’r fynwent at gefn Byncws y Seren lle y dechreuoch eich taith.

BWLCH WITH SOLITUDE

Dewch o hyd i ragor o deithiau cerdded gwych o amgylch Llan-gors a Bwlch yma:
http://aroundllangorselake.co.uk/walks/

———————————————————————————

Pan fyddwch chi allan yn cerdded, cofiwch ddilyn rheolau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiogel.

Rydym yn argymell defnyddio map OS o’r ardal ar y cyd â’r blog hwn. Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog arddel unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamwain neu anaf allai ddigwydd wrth ddilyn y llwybr hwn.

 



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf