Skip to main content

EIN TEITHIAU CERDDED

Cerddwch ffordd hyn? Pam lai?

Back to routes
Distance icon

Pellter
0.6km / 0.37milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SO042286
Postcode LD3 9AN

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
51° 56' 54" N -3° 23' 39" W (DMS)

Time icon

Approximate time
1 hour

1

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Parking icon
  • Disabled parking icon

Mae hon yn daith gerdded fach ddelfrydol i chi os byddwch yn ymweld ag Aberhonddu i grwydro’r dref ac am ddianc o’r siopau. Does dim sy’n well na thro ar hyd y promenâd yma ar lan yr afon er mwyn mwynhau gogoniant Afon Wysg. Llwybr gradd 2 yw hwn – llwybr tarmac â rhai rhannau iddo ar oleddf ysgafn ond does dim gatiau. Mae digon o seddau i eistedd arnynt ar hyd y llwybr.

Route details

Of interest

Does dim dal sut dymer fydd ar yr afon: unrhyw beth o lif isel, araf-freuddwydiol i genllif mawr grymus a  chynddeiriog. Golyga glendid naturiol y dŵr fod yr afon yn heigio o bysgod, sydd yn ei dro’n denu glas y dorlan, mulfrain a hwyaid: yr hwyaden wyllt a’r hwyaden ddanheddog yn bennaf. Rhaid bod yn effro i weld gwib glas y dorlan ar hyd glan yr afon, neu efallai y gwelwch y mulfrain wrthi’n clwydo gan warchod cored yr afon a sychu eu hadenydd yr un pryd. Cofiwch fynd draw am Bont Llanfaes hefyd a’i saith bwa a godwyd yn wreiddiol ym 1563 ond sydd wedi ei haddasu oddi ar hynny. Dychmygwch geisio croesi’r afon ger y rhyd yn agos i’r fan hon cyn codi’r bont!

Cofiwch:

  • fynd â’ch holl sbwriel adref,
  • peidiwch â chynnau tannau,
  • peidiwch â gwersylla.

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf