Bellach gall ymwelwyr i Ganolfan Ymwelwyr y Parc…
Tro ar hyd promenâd Aberhonddu
Mae hon yn daith gerdded fach ddelfrydol i chi os byddwch yn ymweld ag Aberhonddu i grwydro’r dref ac am ddianc o’r siopau. Does dim sy’n well na thro ar hyd y promenâd yma ar lan yr afon er mwyn mwynhau gogoniant Afon Wysg. Llwybr gradd 2 yw hwn – llwybr tarmac â rhai rhannau iddo ar oleddf ysgafn ond does dim gatiau. Mae digon o seddau i eistedd arnynt ar hyd y llwybr.
Gradd tro
0.6km / 0.37milltir
Brecon (Cyfeirnod grid OS SO042286) (cod post LD3 9AN)
Cyfesurynnau GPS cychwynnol
51° 56' 54" N -3° 23' 39" W (DMS)
1 hour
Esgyniad 14.8m / 49ft
Does dim dal sut dymer fydd ar yr afon: unrhyw beth o lif isel, araf-freuddwydiol i genllif mawr grymus a chynddeiriog. Golyga glendid naturiol y dŵr fod yr afon yn heigio o bysgod, sydd yn ei dro’n denu glas y dorlan, mulfrain a hwyaid: yr hwyaden wyllt a’r hwyaden ddanheddog yn bennaf. Rhaid bod yn effro i weld gwib glas y dorlan ar hyd glan yr afon, neu efallai y gwelwch y mulfrain wrthi’n clwydo gan warchod cored yr afon a sychu eu hadenydd yr un pryd. Cofiwch fynd draw am Bont Llanfaes hefyd a’i saith bwa a godwyd yn wreiddiol ym 1563 ond sydd wedi ei haddasu oddi ar hynny. Dychmygwch geisio croesi’r afon ger y rhyd yn agos i’r fan hon cyn codi’r bont!
Cofiwch:
Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein
Dewch o hyd i ystod unigryw o fapiau, canllawiau a llyfrau i helpu i gynllunio'ch ymweliad â'n Parc Cenedlaethol