Skip to main content

Bellach, mae’r castell yn un o blith nifer o atyniadau gwych yn nhref Crucywel, ond ar un adeg roedd yn gadarnle heb ei ail, yn gwarchod y rhan hon o Ddyffryn Wysg a’r llwybr drwy’r Mynyddoedd Duon.
Beth am gael hoe o’r siopa a chymryd cip ar weddillion yr hen gastell carreg a adeiladwyd yn y 13eg ganrif gan Syr Grimbald Pauncefote? Fel sawl enghraifft arall, castell tomen a mur Normanaidd, a adeiladwyd o bren yn y 12fed ganrif oedd e’n wreiddiol.
Sut i gyrraedd yno
Cod post Sat nav: NP8 1AP
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans: OL13 neu Fap Landranger SO217518
P – yn y dref a’r cyffiniau.
Bws:    https://www.cymraeg.traveline.cymru/
Oriau agor: Mynediad am ddim gydol y flwyddyn.
Cyfleusterau
Hygyrchedd: mae’r castell wedi’i leoli mewn parc cyhoeddus, ar dir gweddol wastad.
Pethau i’w gweld a’u gwneud

pâr o dyrau drwm uchel, gyda’r pâr arall wedi dymchwel i’r llawr;
olion porthdy a thyrau eraill;
dychmygu lluoedd Owain Glyndŵr yn ymosod ar y castell ym 1403, a’i adael yn furddun;
dringo i ben y domen i gael golygfeydd o’r dref a’r mynyddoedd gerllaw;
ymlacio neu redeg o gwmpas y maes chwarae.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf