Skip to main content
Ymunwch â Chymdeithas Seryddol Wysg a Thwristiaeth Tal-y-bont ar Wysg ar Zoom ble defnyddir y feddalwedd planetariwm ddiweddaraf er mwyn i chi gael bod yn rhan o’n digwyddiad Awyr Dywyll a gweld y sêr ar eich tabled, eich cyfrifiadur neu ar eich ffôn a theimlo eich bod mewn gwirionedd yn Nhal-y-bont ar Wysg yn syllu ar awyr y nos.

Er y gellir gweld y rhan fwyaf o’r hyn sy’n cael ei ddangos mewn awyr gydag ychydig o lygredd, mae’r profiad o’u gweld yn awyr dywyll, bur, gwarchodfa Awyr Dywyll Tal-y-bont ar Wysg, ym mherfeddion Bannau Brycheiniog, yn brofiad i’w drysori

Mae misoedd Hydref a Thachwedd yn adeg gyfareddol o’r flwyddyn i syllu ar y sêr. Mae’n tywyllu mor gynnar fel y gall y teulu cyfan ymuno a dyma’r adeg orau i ddilyn chwedlau hynafol gwlad Groeg yn y cytserau. Yr eiddigeddus Frenhines Cassiopeia a’i merch hyfryd Andromeda, ei gŵr, y Brenin Cephus, yr arwr Perseus ar ei geffyl adennog, Pegasus a Cetus, yr anghenfil dychrynllyd o’r môr, maen nhw yma i gyd.

Eleni, mae Mawrth yn odidog trwy’r gyda’r nos yn Pisces ac yn hwyrach gallwn weld Orion, yr heliwr, yn fawreddog yn awyr y dwyrain gyda Taurus, y tarw anferth. Byddwch yn gweld Galaeth Andromeda yn union fel ag yr oedd ddwy filiwn a hanner o flynyddoedd yn ôl, y peth pellaf y gallwch ei weld gyda’r llygad noeth. Os oes gennych chi finociwlar neu delsgôp bychan, cewch glywed sut y gallwch weld rhai clystyrau agored gwych sy’n pefrio fel diemyntau ar felfed du; unwaith y byddwch wedi’u gweld byddwch eisiau mynd yn ôl ac yn ôl atyn nhw dro ar ôl tro.

Fe wyddom ni na allwch chi ymuno â ni wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, ond byddwn yn eich croesawu i aros yn ein pentref yn y dyfodol ac i fwynhau beth fydd gennym i’w gynnig.

I gael mannau i aros a mwy, ewch i:

https://talybontonusk.com/

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf