Skip to main content

Fel un o sioeau stoc dethol gorau Ewrop, bydd Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn denu’r torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau a siopa Nadolig.

Ymunwch â ni ar gyfer ein Ffair Aeaf Rithiol eleni a fydd yn llawn cystadlaethau a dathliadau  a hefyd Marchnad Nadolig ar-lein lle byddwch chi’n dod o hyd i’ch holl hoff fasnachwyr!

Bydd y profiad Siopa Nadolig ar-lein yn lansio ar ddydd Mawrth 10fed o Dachwedd ac mi fydd ar agor am gyfnod o 6 wythnos yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Bydd y digwyddiad deuddydd arferol hefyd yn cael ei arddangos ar-lein ar y platfform rhithiol ar y 30ain o Dachwedd a’r 1af o Rhagfyr gyda nifer o bartneriaid yn cymryd rhan. Bydd y digwyddiad yn dod yn ganolbwynt i fusnesau amaethyddol i gael wybodaeth hanfodol, creu cysylltiadau newydd o fewn y diwydiant a hefyd i ddod yn rhan o’r sesiynau addysgiadol dros y ddau ddiwrnod. Bydd cystadlaethau a fideos ar-lein hefyd i gael y teulu cyfan i gymryd rhan mewn crefftau Nadolig y gallwch eu gwneud gartref wrth i ni baratoi ar gyfer tymor yr ŵyl.

Os hoffech chi ddod yn noddwr neu feddwl tybed sut y gallwch chi gymryd rhan yn Y Ffair Aeaf rithiol 2020, cysylltwch â ni. Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni yn y cyfnod cyn Nadolig 2020!

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf