Skip to main content

Pwy oedd Orion? Beth am Pegasws? Y Saith Chwaer? Wrth edrych i awyr y nos gwelwn ryfelwyr, breninesau, angenfilod a rhyfeddodau di ben draw. Trwy ddawn dweud stori llawn arswyd Daniel Morden byddwn yn dysgu am y mythau Groegaidd tu ôl i’r cytser uwch ein pennau.

Yn dilyn y perfformiad bydd y cytser yn cael ei dangos gan Gymdeithas Seryddiaeth Bryn Buga. (yn ddibynnol ar y tywydd).

Mae Daniel Morden yn storïwr chwedlau traddodiadol ers 1989. Mae wedi teithio’r byd, o’r Arctig, i’r Môr Tawel a’r Caribî yn rhannu a chasglu straeon. Mae wedi perfformio yn y Theatr Genedlaethol, Gŵyl y Gell, Gŵyl Dweud Stori America a WOMAD yn ogystal â llawer i theatr, canolfannau celfyddydau a gwyliau. Mae’n enwog am adrodd eglur ac angerddol mythau Groeg. Yn 2017, dyfarnwyd Medal Gŵyl y Gelli am ei wasanaeth i ddweud straeon. www.danielmorden.org

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf