Skip to main content

MATTHEW WILLIAMS CARDIFF CASTLE A WELSH VICTORIAN CAMELOT

Er mai caer ydyw, Castell Caerdydd yw un o dai mwyaf eithriadol Prydain. Mae’n dyddio o’r cyfnod Rhufeinig, ond arweiniodd canrifoedd o newidiadau at y trawsnewidiad llwyr a wnaed yn y 1870au gan Ardalydd Bute a’i bensaer ecsentrig athrylithgar, William Burges.

Creodd y ddau ‘ecstrafagansa ffiwdal’ mewn 15 ystafell hynod ddychmygus, gan gynnwys ystafell Arabaidd, gardd yn arddull Pompeii ar y to ac ystafelloedd â thema astrolegol. Mae’r ddarlith yn archwilio’r adeilad rhagorol hwn a phersonoliaethau’r bobl a’i gwnaeth.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf