Skip to main content

Welsh Dark sky festival poster

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw un o ddim ond 18 o fannau yn y byd gyda statws gwarchodfa awyr dywyll.  Rydyn ni’n mwynhau awyr dywyll heb lygredd goleuni a gallwn weld y llwybr llaethog ar nosweithiau clir yn ogystal â llawer iawn o ryfeddodau eraill yr awyr

Dewch gyda ni i’r ŵyl awyr dywyll, rithiol, gyntaf, gyda chyfres o ddigwyddiadau a sgyrsiau ar lein gyda Gwarchodfa Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog yn gefndir.

Mae’r ŵyl yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn awyr y nos.  Mae’n addas iawn i gynulleidfaoedd ieuengach dros 10 oed. £2 y cartref am bob  digwyddiad.

  • Cewch glywed pa mor hir y bydd yr haul gyda ni
  • Pam ein bod ni wedi’n gwneud o lwch y sêr
  • Sut mae planed y ddaear yn edrych o galaeth pell i ffwrdd
  • Sut i ganfod a syllu ar blanedau a beth i chwilio amdanyn nhw

Bydd y cwestiynau hyn a llawer mwy yn cael eu hateb.  Dewch i ddarganfod harddwch awyr y nos o gysur eich cartref gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

 

Beth sy’n digwydd

Couple sit at base of Hay Bluff looking out at the sunsetTeithio trwy amser

24 Medi, 11:30. Mae syllu ar y sêr fel syllu’n ôl i’r gorffennol, tebyg i’r hyn y mae’r daearegwyr  yn ei wneud bob dydd ar y ddaear.

 

Bat hanging upsidedownI ble’r aeth y nos?

24 Medi, 14:00 Mae’r sgwrs hon yn trafod yr heriau cynyddol mae ystlumod yn eu hwynebu gyda mwy o oleuadau artiffisial yn y nos a sut y gallwn ni, yn ymarferol, liniaru’r broblem .

Picture taken from Abergavenny of Jupiter and its largest moon Ganymeade and its shadow.Canllawiau i ddechreuwyr ar syllu ar blanedau

24 Medi, 19:00 Mae’r canllawiau hyn ar gyfer dechreuwyr llwyr, bydd yn dangos i chi sut i ganfod a syllu ar y planedau, ac am beth i edrych.

 

Beth sy’n bwyta’r bydysawd?

25 Medi, 10:00 Mae’r ffisegydd arobryn Paul Davies yn trafod y posau a’r paradocsau sydd wedi bod yn gur pen i gosmolegwyr, ers pan oedd gwlad Groeg yn ei gogoniant hyd heddiw.

Llangorse lake by starlightChwedlau awyr y nos Cymru

25 Medi, 14:00 Yn y sgwrs hon, mae Martin Griffiths yn trafod sut y mae cymeriadau Cymreig, arwyr y Mabinogi a chwedlau gwerin eraill, yn cael eu hadlewyrchu yn awyr y nos.

Sunset over Llangorse lake with man and dog on Mynydd LlangorseSut mae’r sêr yn gweithio

25 Medi, 19:00 Oes yna sêr eraill fel ein Haul ni? Os na, sut bethau ydyn nhw – bach a heddychlon neu fawr a ffyrnig? Beth sy’n eu gwneud nhw y ffordd y maen nhw? Am ba hyd y bydd yr Haul o gwmpas a beth allai ddigwydd iddo?

SpacemanYr antur fwyaf

26 Medi, 12:00 Mae ‘The Greatest Adventure’ yn olrhain digwyddiadau’r 20fed ganrif: y lloeren gyntaf i droelli o gwmpas y ddaear, y dyn, ci, a’r fenyw gyntaf i gyrraedd y gofod, y daith gerdded gyntaf un yn y gofod  ac yna fuddugoliaeth fawr yr Unol Daleithiau’n ennill y ras i lanio ar y lleuad.

Picture is of an Argentinian meteorite in the Usk collection called Camp Del Cielo.Meteoritau a hanes y system solar

26 Medi, 14:00. Bydd y sgwrs hon yn datgelu sut y cafodd y system solar ei ffurfio, yn egluro pam ei bod ni wedi’n gwneud o lwch sêr ac yn datgelu rhai ffeithiau rhyfeddol ynghylch rhai deunyddiau cyfarwydd.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf

Siop Ar-lein y Parc Cenedlaethol

Dewch o hyd i ystod unigryw o fapiau, canllawiau a llyfrau i helpu i gynllunio'ch ymweliad â'n Parc Cenedlaethol

Ymweld â'n siop