Skip to main content

GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad cyntaf 2022 y CAFC – dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 o Fai Yn digwydd ar yr 21ain-22ain Mai

Mae’r digwyddiad penwythnos o hyd yn ddathliad o fywyd gwledig a byw yn y wlad gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei galon. Gyda rhaglen orlawn o gystadlaethau da byw a cheffylau, arddangosfeydd a gweithgareddau, mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau.

Mae’r Ŵyl yn gyfrwng i arddangos amrywiaeth wirioneddol cefn gwlad Cymru ac yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd ifanc, preswylwyr cefn gwlad ac unrhyw un â diddordeb yn yr awyr agored. Mae digonedd ar gynnig ichi ei weld a’i ddysgu yn Ngŵyl eleni. Pa un a ydych yn chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer eich gardd, am gael goleuni ar fenter busnes newydd, neu’n gobeithio gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth am fywyd cadw tyddyn, yr Ŵyl yw’r lle i fod.

Atyniadau

Neidio Ceffylau -Sgrialu-Yrru – Cymorth Cŵn – Beicio BMX – Gŵyl Landrovers Cymru – Meirion Owen a Gwac Pac -Canolfan Tyddynwyr – Ardal Bywyd Gwlad – Bandstand – Prif Sioe Gŵn Agored – Cystadlaethau Coedwigaeth – Gweithgareddau Cefn Gwlad – Chwaraeon a Chystadlaethau – Parth Gwlân

Eleni rydym yn croesawu’r arbenigwraig garddio a’r cyflwynydd teledu, Charlie Dimmock i gyflwyno sgwrs ar Fywyd Gwyllt a Dŵr ar y dydd Sadwrn

PRYNWCH DOCYNNAU

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf