Skip to main content

Dysgwch eich cytserau!

Mae’r gaeaf yn adeg hyfryd i syllu ar y sêr oherwydd bod y sêr yn yr awyr yr adeg hon o’r flwyddyn yn braf ac yn ddisglair ac yn ffurfio ychydig o batrymau sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cael eu galw’n ‘cytserau’. Does dim byd arbennig am gytserau ond bod y sêr yn ymddangos yn agos at ei gilydd ac yn ffurfio patrymau y gallwn eu defnyddio i ganfod ein ffordd o gwmpas yr awyr. Mae’n ddefnyddiol iawn ceisio dysgu sut mae ychydig ohonyn nhw’n edrych. Yng nghanol Chwefror mae Orion yn union i’r de am 8pm ac yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth am 7pm. Fe ddechreuwn ni trwy gyfeiriadu’n hunain gydag Orion er mwyn canfod cytserau Taurus a Gemini. Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer pawb dros 8 oed. Mae’n berffaith ar gyfer teulu, sy’n cychwyn arni, yn dysgu am ein hawyr dywyll. Bydd Nick Busby o Gymdeithas Seryddol Wysg yn defnyddio “stellarium” a fydd yn dod ag awyr y nos yn fyw yn eich cartref chi.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf