Image: The late Marc Delaney
Dewch i arsylwi ar ein seren agosaf (yr haul) yn DDIOGEL trwy delesgop arbennig sydd wedi ei gynllunio ar gyfer y pwrpas. Mae bywyd ar y ddaear yn dibynnu arno!
Bydd Cymdeithas Seryddol Caerdydd yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Libanus, ddydd Sadwrn Medi 24ain rhwng 10 a.m. a 4 p.m. er mwyn i’r cyhoedd arsylwi ar yr haul yn DDIOGEL, a gobeithio gweld smotiau haul, neu fflerau. Bydd llawer o wybodaeth ar gael, diolch i Gyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg er mwyn eich helpu i ddeall yr hyn rydych yn ei weld. Mae’r digwyddiad AM DDIM a does dim angen archebu lle.
Peidiwch BYTH edrych yn syth ar yr haul heb ddefnyddio offer arbenigol sydd wedi ei gynllunio ar gyfer y pwrpas. Gall niwed llygaid parhaol neu ddallineb ddigwydd.
*Bydd y sesiwn yn dibynnu ar y tywydd wrth gwrs, gan obeithio bydd yr haul yn ymddangos. Ond beth bynnag y tywydd, byddwn yno gyda digon o wybodaeth.