Skip to main content

EIN TEITHIAU CERDDED

Cerddwch ffordd hyn? Pam lai?

Back to routes
Distance icon

Pellter
2.8km / 1.74milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SN856155
Postcode SA9 1GQ

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
51° 49' 37" N -3° 39' 40" W (DMS)

Time icon

Approximate time
1 hour 45 mins

3

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Parking icon

Mae’r daith rwydd a diddorol hon yn mynd â chi drwy ardal hynod yn llawn o olion ei gorffennol diwydiannol. Gallwch hefyd fwynhau’r golygfeydd helaeth dros rannau uchaf Cwm Tawe a thu hwnt wrth i chi ddilyn hen rheilffyrdd a thramffyrdd. Llwybr cerdded gradd 3 yw hwn - sef llwybrau sydd â goleddfau hir ar adegau, arwynebau ychydig yn arw ar adegau a giatau mochyn neu chamfeydd. Does dim seddi i eistedd chwaith.

Route details

Of interest

Wrth i chi ddechrau ar eich taith o Benwyllt, mae’n anodd dychmygu fod yr hen bentref chwarel tawel hwn yn ganolfan gynhyrchu brics a chalch brwd sylweddol yn y G19 a dechrau’r G20. Rhaid bod y pum chwarel a’r gwaith bric a oedd yn gweithio yma rhwng 1870au a’r 1950au yn dipyn o olygfa ac yn creu dipyn o dwrw! Ar hyd rhan o’r llwybr byddwch yn dilyn yr hen linell reilffordd Castell-nedd i Aberhonddu lle y gwelwch olion y cledrau. Fe welwch hefyd domenni cerrig sydd yn awgrym o’r gorffennol diwydiannol, fel yr hen dŷ winsh. Neu gallwch fodloni ar ymlwybro ar hyd y ffordd hon gan fwynhau’r awyr iach a’r golygfeydd helaeth o ran uchaf Cwm Tawe.

Cofiwch:

  • Cadwch eich ci dan reolaeth llym gan fod rhan helaeth o’r ardal o fewn Gwarchodfa Natur Ogof Ffynnon Ddu a mae gwartheg neu defaid yn pori fan hyn.
  • fynd â’ch holl sbwriel adref,
  • peidiwch â chynnau tannau,
  • peidiwch â gwersylla.

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf