Skip to main content

EIN TEITHIAU CERDDED

Cerddwch ffordd hyn? Pam lai?

Mynydd Illtyd

Taith gerdded ar gomin Mynydd Illtyd

Cyfle i gerdded yn ling-di-long neu i glirio’r pen, mae mynd am dro dros dir comin Mynydd Illtyd yn cynnig rhywbeth i bawb a’r cyfan dafliad carreg o gyfleusterau Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Mentrwch allan i weld golygfeydd panoramig o’r pedwar clwstwr mynyddoedd sy’n ffurfio Bannau Brycheiniog. Llwybr gradd 2 yw hwn – sef llwybrau sydd â wyneb rhydd dan draed ar brydiau, goleddfau ysgafn a gatiau ond dim camfeydd. ‘Does fawr o le i eistedd ar y llwybrau hyn chwaith.


Mynydd Illtyd

Gradd tro

4.2km / 2.61milltir

Mynydd Illtyd (Cyfeirnod grid OS SN978263) (cod post LD3 8ER)

Cyfesurynnau GPS cychwynnol
51° 55' 35" N -3° 29' 14" W (DMS)

3 hours

Cyfleusterau:


Uchafbwyntiau

Cadwch olwg fry uwch eich pen er mwyn gweld y barcud coch ar adain y gwynt ar berwyl i chwilio am ysglyfaeth efalallai. Mae’r meistri hyn â’u hadenydd yn hwylio’n ddidrafferth ar y ceryntau aer gan droi a throelli eu cynffonau fforchiog. Yn y gwanwyn a’r haf bydd cyfle i weld a chlywed cân yr ehedydd, tinwen y garn a chlochdar y cerrig hefyd wrth iddyn nhw chwilio’n brysur am gymar, neu godi nyth a magu cywion. Wrth i chi sefyll ar Dwyn y Gaer â’i olygfeydd eang draw am Ben-y-fan a’r Corn Du, y Mynyddoedd Duon ac Afon Wysg yn nadreddu oddi tanoch, oedwch ennyd i ystyried y bobl hynny a fu’n byw yn y fryngaer hon yn yr Oes Haearn. Yn ystod y 1990au fe gafodd yr eglwys o’r G19 a fu gerllaw, ac a gysegrwyd i Illtud Sant, ei dymchwel, ond mae enw’r mynach Celtaidd hwn yn dal yn fyw ar y tir comin.

Cofiwch:

  • fynd â’ch holl sbwriel adref,
  • cadwch eich ci ar gynllyfan neu dennyn – mae defaid yn aml yn pori’r Warin,
  • peidiwch â chynnau tannau,
  • peidiwch â gwersylla.

 


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf