Skip to main content

EIN TEITHIAU CERDDED

Cerddwch ffordd hyn? Pam lai?

Back to routes
Distance icon

Pellter
0.9km / 0.56milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SO229426
Postcode HR3 5BG

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
52° 4' 38" N -3° 7' 33" W (DMS)

Time icon

Approximate time
1 hour

3

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Parking icon
  • Disabled parking icon

Dewch am dro ar y perl hwn o daith sydd gwta herc, cam a naid o strydoedd culion a difyr y Gelli. Mae hon yn daith hyfryd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, gan ddilyn yr hen linell reilffordd ar hyd glannau coediog Afon Gwy tuag at y Warin, sef dôl helaeth ar lan y dŵr. Llwybr gradd 1 yw hwn – llwybrau sydd heb rwystrau, bron yn gwbl wastad a’r ddaear yn gadarn dan draed. Mae’n bosib bod llefydd i eistedd ar gael yn ogystal.

Route details

Of interest

Ar hyd y daith cewch olygfeydd cyfnewidiol rhwng y coed a’r afon wrth i’r llwybr basio drwy goetir ac yna ar hyd y dorlan. Dyma le i werthfawrogi byd natur yn y pedwar tymor. Yn yr haf pan fydd y coed yn drwm gan ddail cewch ambell gip ar yr afon hudolus drwy’r gwyrddni ar y naill law, ac yna’r dref ei hun, a thŵr Eglwys y Santes Fair, ar y llaw arall. Dyma’r adeg i bacio’ch tywel, picnic – a phêl hyd yn oed, does unman gwell na thraeth y Warin i wlychu’ch traed pan fo llif y dŵr yn isel, i fwynhau picnic ar y gwair neu chwarae pêl yn dawel. Pwy sydd angen glan y môr pan fo’r Warin gerllaw? Ar adegau eraill o’r flwyddyn mae’n llecyn hardd dros ben i fwynhau mynd am dro.

Cofiwch:

  • fynd â’ch holl sbwriel adref,
  • cadwch eich ci ar gynllyfan neu dennyn – mae defaid yn aml yn pori’r Warin,
  • peidiwch â chynnau tannau,
  • peidiwch â gwersylla.

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf