Mae tymor y Nadolig wedi cyrraedd, ac os…
Pellter
2.2km / 1.37milltir
Cyfeirnod grid OS SN839155
Postcode SA9 1GL
Starting co-ordinates
51° 49' 35" N -3° 41' 5" W (DMS)
Approximate time
1 awr 30 mun
Gradd tro
(5 = Hardest)
Mae’r daith fer ond amrywiol hon yn mynd â chi drwy cyn erddi pleser Castell Craig-y-nos, heibio i lynnoedd a phyllau a chan gynnig golygfeydd trawiadol ar hyd rhannau uchaf Cwm Tawe. Llwybr gradd 1 yw hwn – llwybrau sy’n rhydd o rwystrau, sydd bron yn gwbl wastad ag arwynebau caled neu gadarn dan draed yw’r rhain. Mae seddau i’w cael hefyd.
Camwch i fyd moethus Adelina Patti, y gantores adnabyddus o ddiwedd y G19 a sefydlodd y gerddi hyn fel cefnlen ar gyfer ei phlasty, Castell Craig-y-nos. Cerddwch yn ôl ei throed o amgylch ei chyn gardd ac ewch i grwydro ar hyd y lawntydd, y dolydd, y coedlannau, y llynnoedd a’r glannau. Fe welwch y dderwen a blannwyd gan Fadam Patti ym 1914 i nodi ei pherfformiad olaf yn Neuadd Albert er budd dioddefwyr y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddwch hefyd yn cerdded heibio i Bafiliwn yr Ardd, a godwyd i gynnal cyngherddau haf ac fel ystafelloedd newid er mwyn i westeion Patti allu chwarae tennis neu groquette. Wrth i chi basio’r ddau lyn, oedwch i feddwl am y rhai a fu wrthi’n eu cloddio â rhofiau – roedd tîm o 40 o arddwyr gan Patti yma. Efallai hefyd y gwelwch chi fonogram Adelina Patti ar y bont wen o fetel a’r gwely o rosod ger y pwll pysgod a blannwyd i gofio canmlwyddiant ei marwolaeth ym 2019.
Cofiwch i:
Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein
Dewch o hyd i ystod unigryw o fapiau, canllawiau a llyfrau i helpu i gynllunio'ch ymweliad â'n Parc Cenedlaethol