Cynhelir Gŵyl Gorawl Aberhonddu rhwng 22ain…
Dewch, i gerdded yn ôl troed y bardd o’r G17 Henry Vaughan, neu ‘Alarch Afon Wysg’ i roi iddo ei enw barddol. Fel Henry, gallwch fwynhau tawelwch a harddwch y gornel arbennig hon o’r Bannau a ysbrydolodd gymaint o’i farddoniaeth. Taith gerdded gradd 2 yw hon: Llwybrau â rhai rhannau ag wynebau ychydig yn fwy rhydd, goleddfau ysgafn a gatiau ond dim camfeydd. Prin iawn yw’r mannau i eistedd.
Gradd tro
3.5km / 2.17milltir
Talybont on Usk (Cyfeirnod grid OS SO114225) (cod post LD3 7JD)
Cyfesurynnau GPS cychwynnol
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)
1 awr 15 mun
Esgyniad 80m / 262ft
Dechreuwch ar eich taith drwy ddilyn rhan fer o’r gamlas a ddaeth yn sicr â newid yn ei sgil pan gafodd ei adeiladu tua 1800. Ers dyddiau Henry Vaughan mae pentref Tal-y-bont ar Wysg wedi tyfu o fod yn gasgliad o ffermydd gwasgaredig i fod yn ganol pentref wedi ei godi ger glanfeydd camlas. Ar hyd y ffordd cymerwch olwg ar y byrddau dehongli a galw yng Ngardd Vaughan i ganfod enghreifftiau da o berlysiau y byddai yntau wedi eu defnyddio fel meddyg. Ymlaciwch ger y meinciau picnic cyn bwrw yn eich blaen ar hyd Tramffordd Bryn Oer a ddefnyddiwyd i gludo glo i’r gamlas o Dredegar sydd heb fod ymhell. Bydd eich taith yn ôl i’r pentref yn mynd â chi ar hyd afon hyfryd Caerfanell.
Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein
Dewch o hyd i ystod unigryw o fapiau, canllawiau a llyfrau i helpu i gynllunio'ch ymweliad â'n Parc Cenedlaethol