Skip to main content

EIN TEITHIAU CERDDED

Cerddwch ffordd hyn? Pam lai?

Back to routes
Distance icon

Pellter
4.9km / 3.04milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SO254107
Postcode NP7 9RY

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)

Time icon

Approximate time
1 awr 30 mun

3

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Parking icon

Dewch i dreulio ychydig oriau yn mwynhau’r golygfeydd dros Gwm Wysg tuag at Ben y Fâl a’r Mynyddoedd Duon, gwylio gweision neidr ac adar ar y pwll neu wrth fynd am dramp i fyny’r Blorens. Taith gerdded gradd 3 yw hon: Llwybrau â goleddfau hir neu serth, llwybrau sy’n gul mewn mannau, ag wynebau gwael a gatiau mochyn neu gamfeydd. Does dim seddi.

Route details

Of interest

Cafodd Pwll Pen-ffordd-goch ei greu yn nechrau’r G19 i ddarparu dŵr i Efail Garnddyrys. Daeth ei ddiben gwreiddiol i ben pan ddatgymalwyd yr efail yn y 1860au ond daeth y pwll yn gyrchfan yn sgil ei harddwch cynhenid. Wrth i chi gamu drwy’r grug ar hyd rhostir y Blorens dylech gofio am y cipar a arferai fyw mewn bwthyn gerllaw ac a roes i’r pwll ei enw arall. Er yn batrwm o lonyddwch erbyn heddiw, yn ei dydd fe fyddai’r ardal wedi atseinio i sŵn tramiau yn cael eu tynnu gan ferlod pan oedd diwydiant yn y rhan hwn o’r byd yn ei anterth, ac fel ei fod felly erbyn heddiw yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Gair i gall – daw’r gair Blorens o’r hen air Sacsonaidd ‘blore’ sy’n golygu gwynt – felly paratowch yn addas ar gyfer hynny ymlaen llaw!

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf