Skip to main content

EIN TEITHIAU CERDDED

Cerddwch ffordd hyn? Pam lai?

Back to routes
Distance icon

Pellter
19km / 11.81milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SO 288278

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)

Time icon

Approximate time
6 awr

5

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Cafe icon
  • Shopping icon
  • Parking icon
  • Disabled parking icon
  • WC icon
  • WC icon

Ar yr ail ddiwrnod, byddwch yn cychwyn ar ddringfa serth ar hyd Cwm Bwchel ac at Bal Bach. Mewn gwirionedd, byddwch yn croesi tair o’r pedair prif grib yn y Mynyddoedd Du heddiw. Cewch olygfeydd trawiadol o ddyffrynnoedd Gwy, Honddu, Grwyne Fawr a Grwyne Fechan. Peidiwch â methu ymweliad ag Eglwys Patrishow - mae rhannau ohoni’n dyddio’n ôl ers cyn 1065. Mae’r waliau wedi eu haddurno â motiffau lliwgar a llythrennu cain. Pen y daith heddiw ydi Crucywel, pentref bychan sy’n werth ei weld. Mae’n werth gweld y bont hefyd sy’n croesi’r Afon Wysg - yn ddiddorol iawn, mae mwy o fwâu ar un ochr na’r llall!

Route details

Of interest

Cyfarwyddiadau:

O Landdewi Nant Hodni, ewch i gyfeiriad y gorllewin, dros y bont droed, ac i fyny’r dyffryn amlwg. Daw hyn â chi at Fal Bach. Trowch i’r chwith yng nghroesffordd y llwybrau, ac ar hyd y grib. Cymerwch ofal yma, gan fod cyfeiriadu’n anodd mewn gwelededd gwael.

Yn fuan iawn wedi i chi fynd heibio coedwig ar y chwith, trowch i’r dde, a mynd ar i lawr drwy gaeau, heibio i Dŷ Mawr. Yna, ewch dros y bont afon wrth y capel, ac ar i fyny drwy Partrishow. Os oes gennych chi amser, ewch am dro i’r Eglwys hynafol, gyda’i sgrin grog derw ardderchog, a pheintiadau wal ganoloesol.
O’r Eglwys, ewch i gyfeiriad y gogledd, ac yna i’r gorllewin, at fryn agored ac i Grug Mawr. O’r copa, dilynwch y llwybr amlwg i lawr i’r de-orllewin. Ar ôl cyrraedd gwaelod y bryn, trowch yn union i’r dde ar lwybr caniataol at lôn, a throi i’r dde. Oddi yma, mae’r daith yn mynd â chi drwy sawl cae a rhan fechan o ffordd, cyn mynd ar i lawr i lwybr terfyn y bryn, o dan Ben Cerrig-calch.

Mae’r llwybr yma’n mynd heibio bryngaer Oes Haearn, sef Crug Hywel a roddodd yr enw i’r dref Crucywel. Daw llwybr yn ôl i’r terfyn, cyn mynd ar i lawr yn ddidrafferth gyda’r nant, at Grucywel. Mae digonedd o siopau, llety, lleoedd bwyta yng Nghrucywel, ac mae’r dref ar brif lwybr bws i Aberhonddu a’r Fenni.

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf