Skip to main content

EIN TEITHIAU CERDDED

Cerddwch ffordd hyn? Pam lai?

Back to routes
Distance icon

Pellter
8km / 4.97milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SO077273
Postcode LD3 7UY

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)

Time icon

Approximate time
1 awr 45 mun

2

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Parking icon

Byddwch yn siŵr o fwynhau’r cymal hardd dros ben hwn ar hyd y gamlas wrth i chi deithio i gyfeiriad Tal-y-bont, cartref Henry Vaughan, y bardd o’r G17. Profwch harddwch a thawelwch y cornel arbennig hwn o’r Bannau a ysbrydolodd cymaint o’i waith. Taith gerdded gradd 2 yw hon: Llwybrau sydd â rhai rhannu ag wynebau ychydig yn fwy rhydd, goleddfau ysgafn a gatiau ond dim camfeydd. Ychydig o lefydd i eistedd sydd.

Route details

Of interest

Dewch yn y gwanwyn a’r haf i sawru’r llu o flodau sy’n garped ar hyd ymylon llwybr y gamlas a’r coetiroedd gerllaw. Mae’r carped o lygad ebrill, clychau’r gog, troed yr asen a chraf y geifr yn cynnig gwledd i’r llygaid ac i’r ffroenau. Yn yr hydref cewch eich gwobrwyo â sioe o liwiau efydd gan y coed sydd ar hyd rhannau o’r gamlas yma. Mae dŵr llonydd y gamlas hefyd yn cynnig drych bendigedig i’r llystyfiant ac i fwâu’r pontydd bach gosgeiddig. Mae’r badau hyfryd eu lliw, yn enwedig y rheiny sydd wedi eu clymu ym Mhencelli, yn ychwanegu at lonyddwch y daith. Cewch hefyd gip ar olygfeydd digymar o’r Bannau Canolog wrth i chi droi ambell gornel.

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf